BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021432w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1432 (Cy.143)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

NEWIDIADAU I ARDALOEDD LLYWODRAETH LEOL

Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002

  Wedi'i wneud 29 Ebrill 2002 
  Yn dod i rym 1 Mai 2002 

Gan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2], wedi gwneud Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002;

     mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol er mwyn gwneud newidiadau i ddarpariaethau penodol yn y gorchymyn blaenorol hwnnw ynglycircn â dyddiad dileu cymuned Cynffig a dyddiad cynnal etholiadau ar gyfer cynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl.

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mai 2002.

Diwygio Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002 fel a ganlyn.

    (2) Yn erthygl 2, yn lle "2 Mai" rhowch "20 Mehefin".

    (3) Ym mharagraff (1) o Erthygl 4, yn lle "6 Mai" rhowch "24 Mehefin".



Llofnodwyd


E. Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

29 Ebrill 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Gwnaed Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 28 Mawrth 2002 er mwyn dileu cymuned Cynffig a chreu dwy gymuned newydd sef cymuned Corneli a chymuned y Pîl. Gwnaed y Gorchymyn hwnnw o dan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n diwygio'r Gorchymyn hwnnw, yn cael ei wneud o dan yr un pwerau ac mae'n newid dyddiad dileu cymuned Cynffig o 2 Mai 2002 i 20 Mehefin 2002. Bydd yr etholiadau i'r ddau gyngor cymuned newydd sef cymuned Cynffig a chymuned y Pîl ar 20 Mehefin yn rhinwedd y Gorchymyn hwn. Bydd aelodau'r cynghorau newydd hynny yn ymgymryd â'u swyddi ar 24 Mehefin 2002.


Notes:

[1] 1972 p.70.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back



English version



ISBN 0 11090501 6


  Prepared 14 June 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021432w.html