BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021475w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1475 (Cy.147) (C.41)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 30 Mai 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 [1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - 

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Y diwrnod penodedig
    
2.  - (1) Pennir drwy hyn 1 Gorffennaf 2002 fel y dyddiad y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym.

    (2) Pennir drwy hyn 1 Rhagfyr 2002 fel y dyddiad y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mai 2002



YR ATODLEN
Erthygl 2



Rhan 1

DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 GORFFENNAF 2002

Darpariaethau'r Ddeddf Pwnc
Adran 3(1) a (2) Taliadau atodol i GIG
Adran 5 Cynhyrchu Incwm
Adran 19 Tystysgrifau cofnodion troseddol manylach
Adran 20 Rhestrau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol etc.
Adran 21 Cynnwys yn amodol ar restrau meddygol, deintyddol, offthalmig a fferyllol
Adran 22 Cofforaethau Deintyddol
Adran 23 Datgan buddiannau ariannol, rhoddion, etc.
Adran 24 Rhestrau ychwanegol
Adran 25 Atal ac anghymhwyso ymarferwyr
Adran 26 Rhestrau GMP a GDP
Adran 28 Cynlluniau Peilot
Adran 29 Gwneud cynlluniau peilot
Adran 30 Dynodi cymdogaethau neu safleoedd blaenoriaethol
Adran 31 Adolygu cynlluniau peilot
Adran 32 Amrywio a therfynu cynlluniau peilot
Adran 33 Contractau GIG
Adran 34 Ariannu gwaith paratoadol
Adran 35 Ffioedd, adfer taliadau a chosbau
Adran 36 Effaith Deddf Gwasanaethau Iechyd Gwladol 1977
Adran 37 Safleodd y gellir darparu cynlluniau peilot ohonynt
Adran 38 Rheoliadau rheoli mynediad
Adran 39 Asesu cynlluniau peilot
Adran 41 Darpariaethau cyfatebol a chymhwyso deddfiadau
Adran 42 Gweinyddu presgripsiynau GIG a darparu gwasanaethau fferyllol
Adran 43 Darparu gwasanaethau fferyllol etc o bell
Adran 67 i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 5 ac Atodlen 6 a bennir isod: -  Mân ddiwygiadau canlyniadol a dirymiadau
Yn Atodlen 5 - 

    paragraff 1;

paragraff 2;

paragraff 3;

paragraff 4;

paragraff 5(2),(7)(a)(b) ac (c), ac (8)

paragraff 6(1)(2) a (3);

paragraff 7;

paragraff 8;

paragraff 9;

paragraff 10;

paragraff 11; a

pharagraff 14.

    
Yn Atodlen 6, dirymu i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru: -      
Adran 102(1)(a)(ii) a (2)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;     
Adran 21(1) o Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980; Paragraff 18(1) o Atodlen 9 i Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990;     
Paragraff 29 i Atodlen 1 i Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995;     
Adrannau 2(1), 4 i 6 a 14(5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1995; a     
Pharagraffau 13 a 76 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997.     
Atodlen 2 Gwasanaethau Peilot
Atodlen 3 Gwasanaethau GFfLl



Rhan 2

DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 RHAGFYR 2002

Darpariaethau'r Ddeddf Pwnc
Adran 11 Rôl y cyhoedd ac ymgynghori



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 i rym yng Nghymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cychwyn darpariaethau - 

Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod i rym mewn perthynas â Chymru drwy gyfrwng Gorchmynion Cychwyn a wnaethpwyd cyn gwneud y Gorchymyn hwn.

Darpariaeth Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
Adran 49 03/12/2001 2001/3807 (Cy.315) (C.124)
Adran 50 19/12/2001 2001/3807 (Cy.315) (C.124)

Daeth amrywiol ddarpariaethau o'r Ddeddf i rym mewn perthynas â Lloegr o dan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/3752 (C. 122) ac O.S. 2001/4149 (C.133).


Notes:

[1] 2001 p.15.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090516 4


  Prepared 5 July 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021475w.html