BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021554w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1554 (Cy.152)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 11 Mehefin 2002 
  Yn dod i rym 9 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithredu mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1) ac (1A)(e) a 36 o Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau 1964[1], ar ôl ymgynghori yn unol â'r adran 16(1) honno â chynrychiolwyr buddiannau o'r fath y mae'n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2002, maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 9 Gorffennaf 2002.

Diwygio
    
2.  - (1) Caiff Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985[2] eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 2 diwygir y diffiniad o "the Minister" - 

    (3) Ym mharagraff A (Ffioedd cychwynnol) o Atodlen 2 - 


    (4) Ym mharagraff B (Ffi archwilio cnydau) o Atodlen 2 - 

    (5) Ym mharagraff C (Ffi lot hadau) o Atodlen 2 - 


    (6) Ym mharagraff D (Ffi ailgyflwyno lot hadau) o Atodlen 2 - 




Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


John Marek
Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Mehefin 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985 (fel y'u diwygiwyd). Mae angen y diwygiadau o ganlyniad i Reoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3665 (Cy.297)) a dynnodd bysedd y blaidd gwynion, bysedd y blaidd dail cul (bysedd y blaidd glas), bysedd y blaidd melyn, ffacbys Hwngaraidd, ffacbys maethol, ffacbys blewog a maglys o'r diffiniad o "Hadau Ardystiedig" yn Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993 a'u cynnwys yn hytrach o fewn y diffiniad o "Hadau Ardystiedig Cenhedlaeth Gyntaf". Mae angen y diwygiadau er mwyn sicrhau bod y disgrifiadau o gategorïau o hadau y mae ffioedd yn cael eu rhagnodi ar eu cyfer yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.


Notes:

[1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraffau 5(1), (2) a (3); gweler adran 38(1) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/272) am ddiffiniad o "the Minister"; trosglwyddwyd swyddogaethau y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau 1964, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272); ac o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, fe drosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] O.S. 1985/981; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/610, 1999/1553, 1999/1865 a 2001/2533 (Cy.210).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090511 3


  Prepared 27 June 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021554w.html