BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021661w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1661 (Cy.157)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 25 Mehefin 2002 
  Yn dod i rym 9 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac sydd bellach wedi'u rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 9 Gorffennaf 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

    
2. Mae'r cyrff a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn wedi'u pennu fel cyrff sy'n gyrff sy'n cael eu cydnabod, yn nhyb Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    
3. Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) 1999[3] yn cael ei ddiddymu mewn perthynas â Chymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4])


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mehefin 2002



YR ATODLEN
Erthygl 2

University of Aberdeen

University of Abertay Dundee

Anglia Polytechnic University

The Archbishop of Canterbury

Aston University

University of Bath

Bath Spa University College

University of Birmingham

Bolton Institute of Higher Education

Bournemouth University

University of Bradford

University of Brighton

University of Bristol

Brunel University

University of Buckingham

Buckinghamshire Chilterns University College

University of Cambridge

Canterbury Christ Church University College

University of Central England in Birmingham

University of Central Lancashire

University College, Chichester

City University

Coventry University

Cranfield University

Prifysgol Cymru

De Montfort University

University of Derby

University of Dundee

University of Durham

University of East Anglia

University of East London

University of Edinburgh

University of Essex

University of Exeter

University of Glasgow

Glasgow Caledonian University

University of Gloucestershire

University of Greenwich

Harper Adams University College

Henley Management College

Heriot-Watt University

University of Hertfordshire

University of Huddersfield

University of Hull

University of Keele

University of Kent at Canterbury

Kingston University

University of Lancaster

University of Leeds

Leeds Metropolitan University

University of Leicester

University of Lincoln

University of Liverpool

Liverpool John Moores University

University of London

London Guildhall University

The London Institute

Loughborough University

University of Luton

University of Manchester

University of Manchester Institute of Science and Technology

The Manchester Metropolitan University

Middlesex University

Prifysgol Morgannwg (University of Glamorgan)

Napier University, Edinburgh

University of Newcastle upon Tyne

University of North London

University College Northampton

University of Northumbria at Newcastle

University of Nottingham

The Nottingham Trent University

Open University

University of Oxford

Oxford Brookes University

University of Paisley

University of Plymouth

University of Portsmouth

Presbyterian Theological Faculty, Ireland

Queen Margaret University College, Edinburgh

The Queen's University of Belfast

University of Reading

The Robert Gordon University

Royal Agricultural College

Royal College of Art

Royal College of Music

The Royal Scottish Academy of Music and Drama, Glasgow

University of Salford

University of Sheffield

Sheffield Hallam University

South Bank University

University of Southampton

University of St Andrews

Staffordshire University

University of Stirling

University of Strathclyde

University of Sunderland

University of Surrey

University of Surrey, Roehampton

The Surrey Institute of Art & Design, University College

University of Sussex

University of Teesside

Thames Valley University

University of Ulster

University of Warwick

University of the West of England, Bristol

University of Westminster

University of Wolverhampton

University College Worcester

University of York

Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Prifysgol Llundain, y mae'r Brifysgol wedi caniatáu iddynt roi graddau Prifysgol Llundain
Birkbeck College

Goldsmiths College

Heythrop College

Imperial College of Science, Technology and Medicine

Institute of Education

Kings College London

London Business School

London School of Economics and Political Science

London School of Hygiene and Tropical Medicine

Queen Mary and Westfield College

Royal Academy of Music

Royal Holloway and Bedford New College

The Royal Veterinary College

School of Oriental and African Studies

The School of Pharmacy

St George's Hospital Medical School

University College London



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru'r holl gyrff hynny sydd, yn nhyb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyrff sy'n cael eu cydnabod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Prifysgolion, colegau neu gyrff eraill yw'r rhain sydd wedi cael eu hawdurdodi gan Siarter Brenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu oddi tani, i roi graddau, neu gyrff sydd wedi cael caniatâd am y tro gan y cyrff hyn i weithredu ar eu rhan wrth roi graddau. Nid yw gwobr a roddir gan y fath gyrff yn wobr o'r math y cyfeirir ati yn adran 214(1), sy'n ei gwneud yn dramgwydd i unrhyw un roi neu gyhoeddi gwahoddiad mewn perthynas â graddau a gwobrwyon nad ydynt yn cael eu cydnabod.

Mae'r Gorchymyn hwn yn uwchraddio ac yn disodli'r rhestr o gyrff sy'n ymddangos yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) 1999, sy'n cael ei ddiddymu. Mae'n cynnwys nifer o sefydliadau sydd wedi cael eu hawdurdodi i roi graddau o dan adran 76 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) ac adran 48 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (yr Alban) 1992 (p.37). Mae hefyd yn cynnwys nifer o ysgolion, colegau a sefydliadau Prifysgol Llundain y rhoddwyd caniatâd iddynt gan y Brifysgol i roi graddau Prifysgol Llundain. Mae hefyd yn ymgorffori newid enw un sefydliad.


Notes:

[1] 1988 p.40.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back

[3] O.S. 1999/833. Diddymwyd Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) 1999 mewn perthynas â Lloegr gan Orchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/3327)back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090513 X


  Prepared 3 July 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021661w.html