BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021729w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1729 (Cy.163)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 4 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 19 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 1970" yw Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.

Dynodi cyrff cyhoeddus
    
2. Bydd y personau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, gan eu bod yn bersonau y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf 1970.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Gorffennaf 2002



YR ATODLEN
Erthygl 2


Cyrff Cyhoeddus


Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyngor Gofal Cymru

Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 ("Deddf 1970") yn rhoi pwcirc er hwn yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Gofal Cymru a Chyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf 1970.


Notes:

[1] 1970 p.39.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090528 8


  Prepared 1 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021729w.html