BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021805w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1805 (Cy.175)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 11 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 6 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd iddo gan adrannau 2, 3(1) i (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1] fel y'i darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2002, mae'n gymwys i Gymru, a daw i rym ar 6 Awst 2002.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[4]) yn unol â pharagraffau (2) i (7) isod.

    (2) Yn erthygl 2(1) yn lle'r diffiniad o "Directive 2000/29/EC" amnewidir y testun canlynol:

    (3) Yn Atodlen 1, Rhan B (d) (Feirws ac Organeddau Feirws-debyg) yn eitem 1 yn yr ail golofn, ar ôl "UK" ychwanegir "(Northern Ireland)".

    (4) Yn Atodlen 2, Rhan B (b) (Bacteria), yn eitem 2 yn lle'r testun yn y drydedd golofn amnewidir y canlynol:

    (5) Yn Atodlen 3, Rhan B, yn eitem 1 yn lle'r testun yn yr ail golofn amnewidir y canlynol:

    (6) Yn Atodlen 4, Rhan B gwneir y diwygiadau canlynol:

    (7) Yn Atodlen 8 - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 ("y prif Orchymyn") er mwyn gweithredu elfennau penodol o Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2002/29/EC (OJ Rhif L77, 20.3.02, t. 26) a 2002/28/EC (OJ Rhif L77, 20.3.02, t. 23) yng Nghymru nad ydynt yn cael eu gweithredu mewn deddfwriaeth arall. Mae Cyfarwyddeb 2002/29/EC yn diwygio'r parthau gwarchod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L169, 10.7.2000, t.1) ("y brif Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion") ac a amserlennwyd yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/32/EC (OJ Rhif. L127, 9.5.2001, t. 38). Mae Cyfarwyddeb 2002/28/EC yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i Atodiadau penodol o'r brif Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion.

Mae'r diwygiadau yn y Gorchymyn hwn sy'n gweithredu Cyfarwyddeb 2002/28/EC yn erthygl 2(3) i 2(6) yn gynhwysol. Gweithredir Cyfarwyddeb 2002/29/EC gan erthygl 2(7), sy'n diwygio Atodlen 8 i'r prif Orchymyn. Y prif newidiadau i'r parthau gwarchod yw tynnu Prydain Fawr o'r parth gwarchod mewn perthynas â Feirws necrotig gwythïen felen betys (sy'n hysbys fel rhizomania) (erthygl 2(3), (6)(a) a (c) a (7)(b)(i)), ac ailddiffiniad o barthau gwarchod yr Eidal ac Awstria mewn perthynas â'r bacteriwm Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al (sy'n hysbys fel malltod) (erthygl 2(4), (5), (6)(b) a (7)(a)). Diwygir y disgrifiad o Citrus tristeza virus yn Atodlen 8 (erthygl 2(7)(b)(ii)).

Gwneir diwygiad ychwanegol i'r diffiniad o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC yn erthygl 2(1) o'r prif Orchymyn er mwyn ymgorffori'r diwygiadau a wnaed iddi gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/28/EC (erthygl 2(2)).

Gellir cael arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r newidiadau i'r parth gwarchod o ran Feirws necrotig gwythïen felen betys o'r Gangen Iechyd Planhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48);back

[2] 1972 p.62.back

[3] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honNo. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), adran 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] O.S. 1993/1320: diwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245 a 1999/2641 (Cy.8), a 2001/2500 (Cy.203) a 2001/3761 (Cy.310).back

[5] OJ No. L169, 10.7.00, p.1.back

[6] OJ No. L127, 9.5.01, p.42; and see the associated Commission Directive 2001/32/EC, OJ No. L127, 9.5.01, p.38.back

[7] OJ No. L77, 20.3.02, p. 23 and see the associated Commission Directive 2002/29/EC, OJ No. L 77, 20.3.02, p. 26.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090527 X


  Prepared 29 July 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021805w.html