BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Cramenogion) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021885w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1885 (Cy.194)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

PYSGOD CREGYN

Rheoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Cramenogion) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 5 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967[1] a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn hynny o beth, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Cramenogion) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 5 Awst 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru ac i'r môr gerllaw Cymru hyd at ffin forol y môr tiriogaethol.

Dynodi cramenogion
    
2. Pennir drwy hyn grancod at ddibenion adran 1(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru[
2]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn ychwanegu crancod at y mathau o bysgod cregyn sy'n dod o dan adran 1(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 ("Deddf 1967"). Mae hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i sefydlu pysgodfeydd crancod unigol neu bysgodfeydd crancod wedi'u rheoleiddio drwy orchmynion o dan yr adran honNo.

Pennwyd cregyn bylchog a chwiniaid at ddiben adran 1 o Ddeddf 1967 gan Reoliadau Pysgod Cregyn (Dynodi Molysgiaid) 1987 (O.S. 1987/218).


Notes:

[1] 1967 p.38; gwnaed diwygiadau perthnasol i adran 1(1) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p. 77) adran 15(2), gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd Môr 1976 (p. 86) Atodlen 2, paragraff 15, gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) (Diwygio) 1997 (p.3) adran 1, a chan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Newidiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820) Atodlen 2, paragraff 42(2). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r "Gweinidog priodol" mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), Erthygl 2 ac Atodlen 1.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090557 1


  Prepared 23 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021885w.html