BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021886w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1886 (Cy.195)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 2 Awst 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod prif egwyddorion a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac sy'n gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a 4(B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002, deuant i rym ar 2 Awst 2002 a byddant yn ymestyn i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Comisiwn.

Tramgwyddau a chosbau
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 8 a 9, bydd person yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os - 

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn - 

Gorfodi
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn ddyletswydd ar bob awdurdod iechyd porthladd i weithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn o fewn ei ardal.

    (2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw wedi'i leoli mewn ardal awdurdod iechyd porthladd, caiff y Rheoliadau hyn eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw wedi'i leoli ynddo.

Samplo, dadansoddi ac addasu adran 29 o'r Ddeddf
    
5.  - (1) Wrth gymhwyso ar gyfer cymryd sampl o unrhyw fwyd a nodwyd yn adran 1 i 4 o Atodlen I i Reoliad y Comisiwn, caiff adran 29 o'r Ddeddf ei haddasu er mwyn cyfyngu ar y pwcircer i gymryd samplau o dan is-adran (b) a (d) o'r adran honno ar gyfer cymryd samplau yn unol â'r dulliau o gymryd samplau a ddisgrifir neu y cyfeirir atynt yn - 

    (2) Y gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) o baragraff (1) yw, yn achos letys o'r math a nodir ym mhwynt 1.3 neu 1.4 o Adran 1 o Atodlen I i Reoliad y Comisiwn, isafswm nifer yr unedau sydd eu hangen ar gyfer pob sampl labordy fydd deg.

    (3) Pan, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y cafodd ei haddasu gan baragraff (1), bod swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i ddisgrifiad y mae is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yn sicrhau bod - 

    (4) Pan, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y cafodd ei haddasu gan baragraff (1), bod swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yn sicrhau - 

    (5) Pan, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y cafodd ei haddasu gan baragraff (1), bod swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yn sicrhau - 

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
     6. Mewn unrhyw achos am dramgwydd sy'n cynnwys torri rheoliad 3 bydd yn amddiffyniad i'r sawl sy'n cael ei gyhuddo brofi - 

Cymhwyso amrywiol adrannau y Ddeddf
    
7.  - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny ynddynt at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), bydd adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol - 

    (3) Bydd yr ymadroddion "authorised officer", "food authority", "port health authority", "human consumption", "placing on the market", "authorised spinach", "authorised lettuce", "Directive 98/53/EC", "Directive 2001/22/EC" and "Directive 2002/26/EC", a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn drwy rinwedd paragraff (2), at y dibenion hynny, yn dwyn yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion cyfatebol Cymraeg yn y Rheoliadau hyn.

    (4) Bydd adran 2 o'r Ddeddf (ymestyn ystyr "sale" a.y.y.b.) yn gymwys mewn perthynas ag adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn drwy rinwedd paragraff (2).

Darpariaethau trosiannol
    
8. Ni fydd Rheoliad 3(1)(a)(i), (b)(i) ac (c)(i) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei osod yn gyfreithlon ar y farchnad yn y Gymuned Ewropeaidd cyn 5 Ebrill 2002 sy'n cael ei gwmpasu gan, ond nad yw'n bodloni gofynion, Erthygl 1.1, 2.1 neu 2.2 o Reoliad y Comisiwn, i'r graddau y mae'r diffyg yn bodoli oherwydd bod y bwyd yn cynnwys halogyn a nodwyd yn adran 3 neu 4 o Atodlen I i'r Rheoliad hwnnw ar lefel sy'n uwch na'r hyn a nodwyd yn ail golofn yr adran dan sylw.

    
9. Ni fydd rheoliad 3(1)(a)(ii) (b)(ii) ac (c)(ii) yn gymwys mewn perthynas â thorri Erthygl 2.3 o Reoliad y Comisiwn, i'r graddau bod y toramod yn cynnwys yn y defnydd o gynhwysion bwyd, ar gyfer cynhyrchu bwyd cyfansawdd, bwyd a osodwyd yn gyfreithlon ar y farchnad yn y Gymuned Ewropeaidd cyn 5 Ebrill 2002 ac sy'n cynnwys halogyn a nodwyd yn adran 3 neu 4 o Atodlen I i'r Rheoliad hwnnw ar lefel sy'n uwch na'r hyn a nodwyd yn yr ail golofn o'r adran dan sylw.

Diwygiadau canlyniadol
    
10. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990[21] (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) yn lle pob cofnod sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Halogion mewn Bwyd rhowch y canlynol - 

"The Contaminants in Food (Wales) Regulations 2002 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with regulation 5 thereof) S.I. 2002/".


Diddymiadau
     11. Caiff yr offerynnau a nodwyd yng ngholofn 1 o'r Atodlen eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru i'r graddau a nodwyd yng ngholofn 2 o'r Atodlen honNo.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
22].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



YR ATODLEN
Rheoliad 1


DIDDYMIADAU


Colofn 1 Colofn 2
Offerynnau sy'n cael eu diddymu Hyd a lled y Diddymiad
Rheoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 (OS 1979/1254) Y Rheoliadau yn eu cyfanrwydd
Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982 (OS 1982/1727) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Atodlen 1 a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1, 3 a 4 o'r Atodlen honno
Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985 (OS 1985/67) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Ran I o'r Atodlen a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofn 1 a 3 o'r Rhan hwnnw
Gorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990 (OS 1990/2486) Erthygl 19(8);Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen I a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1 a 3 o'r Rhan hwnnw;Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Atodlen 2 a'r cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno;Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen 3 a'r cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 o'r Rhan hwnnw;Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Atodlen 5 a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1 a 3 o'r Atodlen honno;Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Atodlen 7 a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1 a 3 o'r Atodlen honno
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991 (OS 1991/1476) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 2 o Ran I o Atodlen I a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 1 a 3 o'r Rhan hwnnw
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992 (OS 1992/1971) Rheoliad 11 i'r graddau y mae'n diwygio Rheoliadau Plwm mewn Bwyd 1979
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (OS 1995/3124) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 1 o Atodlen 6 a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 2 a 3 o'r Atodlen honno
Rheoliadau Bwyd (Diddymiadau a Diwygiadau Amrywiol) 1995 (OS 1995/3267) Y cyfeiriad at Reoliadau Plwm mewn Bwyd 1979 yng ngholofn 1 o'r Atodlen a'r cofnodion cyfatebol yng ngholofnau 2 a 3 ohoni
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd 1997 (OS 1997/1499) Y Rheoliadau yn eu cyfanrwydd



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n ymestyn i Gymru yn unig ac sy'n diddymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau i Reoliadau Halogion mewn Bwyd 1997 (O.S. 1997/1499, fel y'i diwygiwyd) yn - 

     2. Mae'r Rheoliadau hyn - 

     3. Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Tycirc Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 (p. 16).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r "Gweinidogion" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y bônt yn arferadwy yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] 1984 (p.22).back

[5] OJ Rhif L372, 31.12.85, p.50.back

[6] OJ Rhif L290, 24.11.93, p.14.back

[7] OJ Rhif L201, 17.7.1998, p.93.back

[8] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44.back

[9] OJ Rhif L77, 16.3.2001, p.14.back

[10] OJ Rhif L325, 8.12.2001, p.34.back

[11] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38.)back

[12] OJ Rhif L77, 16.3.2001, p.1.back

[13] OJ Rhif L37, 7.2.2002, p.4.back

[14] OJ Rhif L41, 13.2.2002, p.12.back

[15] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t. 18.back

[16] OJ Rhif L80, 23.3.2002, t.42.back

[17] OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5.back

[18] OJ Rhif L155, 14.06.2002, t.63.back

[19] OJ Rhif L321, 6.12.2001, t.1.back

[20] OJ Rhif. L207, 15.8.1979, t.26.back

[21] O.S. 1990/2463. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1603.back

[22] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090549 0


  Prepared 15 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021886w.html