BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021895w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1895 (Cy.196)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 9 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18(1), (2), (2A), (3), (3A) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] a'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 100(1) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[3]:



RHAN I

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 9 Awst 2002.

    (2) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

pan fydd unrhyw rai o'i aelodau yn ffurfio rhan o weithrediaeth neu fwrdd fel a geir yn (a) neu (b) uchod.

Awdurdodau perthnasol a ragnodwyd
     3. Rhagnodir cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) o Ddeddf 2000.



RHAN II

Cynlluniau ar gyfer Lwfansau Cynghorwyr

Dehongli
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff 2(b), dehonglir cyfeiriadau yn y Rhan hon at aelod awdurdod sy'n gynghorydd mewn perthynas ag awdurdod Parc Cenedlaethol fel cyfeiriadau at aelod o'r awdurdod hwnnw a benodwyd gan gyngor sir neu fwrdeistref sirol neu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

    (2) At ddibenion y Rhan hon - 

Cynlluniau lwfans
    
5.  - (1) Rhaid i bob awdurdod wneud cynllun yn unol â'r Rheoliadau hyn ar gyfer talu lwfansau mewn perthynas â'r flwyddyn gyfredol a'r blynyddoedd dilynol.

    (2) Pan ddiddymir cynllun yn unol â rheoliad 6(1), cyn i'r diddymiad ddod yn effeithiol rhaid i'r awdurdod wneud cynllun pellach am y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'r diddymiad yn dod yn effeithiol.

Diwygio cynlluniau
    
6.  - (1) Gellir diwygio neu ddiddymu cynllun a wneir o dan y Rhan hon ar unrhyw adeg.

    (2) Os oes diwygiad i gael ei wneud sy'n effeithio ar lwfans sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn y gwneir y diwygiad ynddi, caiff y cynllun ddarparu bod yr hawl i lwfans o'r fath yn gymwys i fod yn effeithiol o ddechrau'r flwyddyn y gwneir y diwygiad ynddi neu,

Lwfansau sylfaenol
    
7.  - (1) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu bod taliad yn cael ei wneud ar gyfer pob blwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi lwfans ("lwfans sylfaenol") i bob aelod o'r awdurdod sy'n gynghorydd a rhaid i swm y lwfans hwnnw fod yr un fath â swm i bob un o'r aelodau hynny.

    (2) Rhaid i'r cynllun ddarparu, os bydd cyfnod swydd aelod yn dechrau neu'n dod i ben heblaw ar ddechrau neu ar ddiwedd blwyddyn, bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i gael taliad o'r gyfran o'r lwfans sylfaenol y mae'r nifer o ddyddiau y mae cyfnod swydd yr aelod fel cynghorydd yn ystod y flwyddyn honno yn eu dwyn i nifer y dyddiau yn y flwyddyn honNo.

    (3) Os bydd cynllun yn cael ei ddiwygio fel a grybwyllir ym mharagraff (2) o reoliad 6 ac nad yw cyfnod swydd aelod sy'n gynghorydd yn parhau drwy'r cyfnod llawn a grybwyllir yn is-baragraff (a)(i) neu (ii) o'r paragraff hwnnw, rhaid i'r cynllun ddarparu bod hawl unrhyw aelod o'r fath o dan y rheoliad hwn i gael taliad o'r gyfran o'r lwfans sylfaenol y gellir ei briodoli i bob cyfnod o'r fath y mae'r nifer o ddyddiau y mae cyfnod swydd yr aelod fel cynghorydd yn parhau y cyfnod hwnnw yn cyfateb i nifer y dyddiau yn y cyfnod.

    (4) Rhaid i gynllun a gaiff ei baratoi o dan y Rhan hon ddarparu na fydd mwy nag un lwfans sylfaenol yn daladwy i aelod o awdurdod.

Lwfansau cyfrifoldeb arbennig
    
8.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff cynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu, yn unol â pharagraff (3), ar gyfer taliad am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi lwfans ("lwfans cyfrifoldeb arbennig") i'r aelodau hynny o'r awdurdod sydd yn gynghorwyr y mae ganddynt gyfrifoldebau arbennig o'r fath mewn perthynas â'r awdurdod fel y pennir hwy yn y cynllun ac y maent o fewn un neu fwy o'r categorïau canlynol - 

    (2)

    (3) Rhaid i unrhyw gynllun sy'n gwneud darpariaeth o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (1) ddarparu - 

Lwfansau presenoldeb
    
9.  - (1) Caiff cynllun a wneir o dan y Rhan hon gan awdurdod Parc Cenedlaethol ddarparu ar gyfer taliad i bob aelod o awdurdod sydd yn gynghorydd lwfans presenoldeb ("lwfans presenoldeb") mewn perthynas â dyletswydd a gymeradwywyd nad yw'n ddyletswydd a eithrir a'r amser a dreulir wrth deithio i leoliad ac ohono lle mae'r ddyletswydd yn cael ei chyflawni.

    (2) Rhaid pennu swm y lwfans presenoldeb yn y cynllun a gall amrywio yn ôl amser y dydd a hyd y ddyletswydd ond rhaid mai'r un swm ydyw i holl aelodau'r awdurdod sydd â hawl i gael y lwfans mewn perthynas â dyletswydd o unrhyw ddisgrifiad am yr un amser yn y dydd ac am yr un hyd.

    (3) Caiff cynllun ddarparu na fydd gan aelod hawl i daliad o fwy nag un lwfans presenoldeb mewn perthynas ag unrhyw gyfnod o 24 awr gan ddechrau ar yr amser y gall yr awdurdod ei bennu.

    (4) Rhaid i gynllun ddarparu na fydd gan aelod hawl i daliad o lwfans presenoldeb

Lwfansau gofal
    
10.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff cynllun a wneir o dan y Rhan hon gan gyngor sir neu fwrdeistref sirol ddarparu ar gyfer talu i aelod o awdurdod sydd yn gynghorydd lwfans ("lwfans gofal") mewn perthynas â'r costau hynny yr oedd angen amdanynt ar gyfer gofalu am blant neu bobl ddibynnol sy'n angenrheidiol eu tynnu wrth i'r aelod hwnnw gyflawni ei ddyletswyddau fel aelod.

    (2) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon beidio â darparu ar gyfer talu - 

Lwfans colled ariannol
    
11. Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu bod gan unrhyw aelod o awdurdod nad yw'n gynghorydd yr hawl i gael taliad drwy lwfans colled ariannol, sef taliad nad yw'n fwy na swm unrhyw golled neu enillion a gafwyd yn ôl yr angen neu unrhyw gostau ychwanegol (heblaw costau mewn perthynas â theithio neu gynhaliaeth) a dynnwyd yn ôl yr angen wrth gyflawni dyletswydd a gymeradwywyd fel aelod o'r awdurdod.



RHAN III

Cynlluniau  -  Darpariaeth Bellach

Swm y lwfansau a.y.y.b
    
12.  - (1) Rhaid i gynllun o dan Ran II bennu mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn y mae'n berthnasol iddi - 

    (2) Caiff cynllun o dan Ran II wneud darpariaeth ar gyfer addasiad blynyddol ar lwfansau drwy gyfeirio at y mynegai hwnnw y gall yr awdurdod ei bennu.

Dewisiadau
    
13. Rhaid i gynllun o dan Ran II ddarparu y caiff aelod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i swyddog priodol yr awdurdod, ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o hawl yr aelod hwnnw i gael lwfans o dan y cynllun.

Hawliadau a thaliadau
    
14. Caiff cynllun o dan Ran II ddarparu i daliadau o lwfansau gael eu gwneud ar yr adegau y gellir eu pennu ynddo, a gellir pennu gwahanol amserau i wahanol lwfansau.



RHAN IV

Lwfansau Eraill

Lwfansau teithio a chynhaliaeth
    
15.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau drwy lwfans teithio neu gynhaliaeth ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn gan yr awdurdod pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd a gymeradwywyd fel aelod o'r awdurdod.

    (2) Ni fydd cyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn car modur preifat yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol am y flwyddyn sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr amod, os bydd cyfradd unrhyw lwfans o'r fath ar y diwrnod yn union o flaen y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym eisoes yn fwy na'r gyfradd sy'n daladwy am y flwyddyn honno i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, na fydd cyfradd y lwfans hwnnw yn cael ei gynyddu nes y bydd cyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r un a delir gan yr awdurdod.

    (3) Rhaid i unrhyw hawliad am daliad lwfansau teithio neu gynhaliaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn (ac eithrio hawliadau am deithio mewn car modur) gael derbynebau i gyd-fynd ag ef sy'n profi costau gwirioneddol, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu derfyn y caiff yr awdurdod benderfynu arnynt.



RHAN V

Trefniadau Gweinyddol

Osgoi dyblygu
    
16.  - (1) Bydd hawliad am daliad drwy lwfans presenoldeb, lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol yn cynnwys, neu bydd datganiad wedi'i lofnodi gan yr aelod yn cyd-fynd â'r hawliad nad yw'r aelod wedi gwneud ac na fydd yn gwneud hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn berthnasol iddo.

    (2) Ni wneir unrhyw daliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth o adran 176 o Ddeddf 1972 mewn perthynas â mater y gwnaed taliad yn ei gylch i'r person hwnnw yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o gynllun o dan Ran II.

Talu lwfansau
    
17. Bydd unrhyw daliad sy'n lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol i aelod panel apêl a luniwyd o dan baragraff 1 neu 2 o Atodlen 24 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[6] yn cael ei dalu gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y llunnir y panel mewn perthynas â hwy.

Cofnodion o lwfansau
     18.  - (1) Rhaid i bob awdurdod gadw cofnod o daliadau a wneir ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn neu yn unol ag unrhyw gynllun a wneir yn eu sgil.

    (2) Rhaid i gofnod o'r fath nodi enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad a rhaid trefnu ei fod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn ystyr adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod;

    (3) Caiff person sydd â hawl i archwilio'r cofnod o dan baragraff (2) wneud copi o unrhyw ran ohono, drwy dalu ffi resymol y gall yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol.

Cyhoeddusrwydd
    
19.  - (1) Rhaid i bob awdurdod, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl gwneud diwygiad i unrhyw gynllun a wneir yn sgil y Rheoliadau hyn, wneud trefniadau i'w gyhoeddi yn ardal yr awdurdod.

    (2) Cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi, rhaid i bob awdurdod wneud trefniadau i gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno o dan y cynllun i bob aelod mewn perthynas â phob un o'r canlynol, sef, lwfans sylfaenol, lwfans cyfrifoldeb arbennig, lwfans presenoldeb a lwfans gofal.



RHAN VI

Diddymu ac eithrio

Diddymu, eithrio ac addasiadau
    
20.  - (1) Bydd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991[7] yn parhau i fod yn effeithiol heb ragfarnu adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978[8], mewn perthynas â hawliadau a wneir am lwfansau neu daliadau eraill mewn perthynas â dyletswyddau a gyflawnwyd cyn 1 Ebrill 2002.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), drwy hyn diddymir Rheoliadau 1991 mor belled ag yr oeddent yn gymwys i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

    (3) Ni fydd adrannau 174, 175 a 177 o Ddeddf 1972 yn gymwys i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

    (4) Wrth ei gymhwyso i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i awdurdodau Parciau Cenedlaethol bydd is-adran (2) o adran 176 o Ddeddf 1972 yn effeithiol fel pe bai'r cyfeiriad at adran 174 o Ddeddf 1972 yn gyfeiriad at Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 ac fel pe bai'r cyfeiriad at ddyletswydd a gymeradwywyd yn gyfeiriad at y term hwnnw fel y'i diffinnir yn y rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu'r pwcircer i'r Ysgrifennydd Gwladol i awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod perthnasol a bennir yn y Rheoliadau wneud cynllun sy'n darparu ar gyfer talu:

     -  lwfans sylfaenol i gynghorwyr; a

     -  lwfans presenoldeb i gynghorwyr; a

     -  lwfans cyfrifoldeb arbennig i gynghorwyr â chyfrifoldebau arbennig.

Mae'r pwer hwn bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau o ran lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i aelodau awdurdodau perthnasol a ragnodir.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a bwrdeistrefi sirol (p'un a ydynt yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol â Deddf 2000 neu'n gweithredu trefniadau amgen yn unol ag adran 32(1) o Ddeddf 2000) ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru wneud cynllun ar gyfer talu lwfansau mewn perthynas â'r flwyddyn gyfredol a'r blynyddoedd dilynol.

Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi'r cynghorau sir, y cynghorau bwrdeistref sirol a'r Parciau Cenedlaethol yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1) o Ddeddf 2000.

Mae Rheoliad 5 yn darparu os diddymir cynllun a wnaed o dan y rheoliadau hyn rhaid i awdurdod sicrhau bod cynllun pellach yn barod i fod yn effeithiol o ddyddiad unrhyw ddiddymiad o'r fath, tra bod Rheoliad 6 yn darparu y gall cynllun gael ei ddiwygio neu ei ddiddymu ar unrhyw adeg. Os diwygir cynllun gellir gwneud darpariaeth i'r hawl i lwfansau fod yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir unrhyw ddiwygiad ynddi.

Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynllun yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â "lwfans sylfaenol" i gynghorwyr. Un "lwfans sylfaenol" yn unig fesul aelod fydd yn daladwy o dan y cynllun. Mae Rheoliad 8 yn rhoi disgresiwn i awdurdodau wneud darpariaeth ar gyfer "lwfansau cyfrifoldeb arbennig". Nodir y categorïau y gellir eu defnyddio i dalu "lwfansau arbennig" yn Rheoliad 8(1). Nid yw lwfansau o'r fath yn daladwy, yn rhinwedd Rheoliad 8(2), i fwy na hanner aelodau awdurdod (a gyfrifir drwy gyfeirio at gyfanswm y seddau ar y cyngor). Mae hefyd yn caniatáu i gynghorau ddarparu ar gyfer swm ychwanegol o ddeg y cant i ddirprwy arweinydd cabinet neu i ddirprwy gadeirydd bwrdd fel rhan o lwfans cyfrifoldeb arbennig.

Mae Rheoliad 9 yn rhoi disgresiwn i Awdurdod Parc Cenedlaethol ddarparu cynllun ar gyfer "lwfansau presenoldeb" i gynghorwyr mewn perthynas â "dyletswyddau a gymeradwywyd".

Mae Rheoliad 10 yn darparu i gynllun, a wneir gan gyngor sir neu fwrdeistref sirol, gynnwys "lwfans gofal" i aelodau mewn perthynas â chostau trefnu ar gyfer gofalu am blant (pymtheg oed neu lai) neu bobl ddibynnol a dynnir wrth gyflawni dyletswyddau fel aelod.

Mae Rheoliad 11 yn darparu y bydd cynllun a wneir o dan Ran II yn darparu i unrhyw aelod o awdurdod nad yw'n gynghorydd gael taliad drwy "lwfans colled ariannol" nad yw'n fwy na swm unrhyw golled enillion a gafwyd neu gostau ychwanegol a dynnwyd yn ei rôl fel aelod.

Mae Rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynllun o dan Ran II yn pennu swm y "lwfans sylfaenol" neu ddull i ganfod y swm hwnnw a'r dull i ganfod hefyd unrhyw "lwfans cyfrifoldeb arbennig" (neu symiau gwahanol sy'n daladwy mewn perthynas â chyfrifoldebau arbennig). Mae Rheoliad 12 hefyd yn rhoi disgresiwn i awdurdodau a fyddant yn cynnwys darpariaeth yn y cynllun a wneir o dan Ran II ar gyfer addasiad blynyddol ar y lwfansau drwy gyfeirio at y mynegai hwnnw y gall yr awdurdod ei bennu.

Rhaid i gynllun o dan Ran II gynnwys darpariaeth i ganiatáu i aelod beidio â derbyn unrhyw ran o'r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan y cynllun yn rhinwedd Rheoliad 13 a chaiff, o dan Reoliad 14 nodi'r amserau ar gyfer talu'r lwfansau (a all fod yn wahanol ar gyfer lwfansau gwahanol).

Mae Rheoliad 15 yn darparu ar gyfer talu costau teithio neu gynhaliaeth i aelodau, ar gyfraddau sydd i'w penderfynu bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau hynny i'w cysylltu â'r cyfraddau sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau na chânt fod yn fwy na'r graddau a geir gan Aelodau'r Cynulliad. Mae hawliadau teithio a chynhaliaeth i gael eu gwneud ar sail "wirioneddol" a rhaid bod derbynebau perthnasol yn cyd-fynd â hwy am y costau a dynnwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu derfyn y penderfynir arnynt gan yr awdurdod.

Mae Rheoliad 16 yn darparu bod datganiad yn cyd-fynd â phob hawliad a wneir am lwfans presenoldeb, lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol nad yw'r hawlydd wedi nac yn bwriadu gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn berthnasol iddo. Mae hefyd yn atal taliadau o dan adran 176 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ("Deddf 1972") pan wneir taliadau o dan gynllun o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 17 yn ymwneud â lwfansau a wneir i aelodau panel apêl a luniwyd o dan baragraff 1 neu 2 o Atodlen 24 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'n ofynnol i daliadau o'r fath gael eu talu gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y mae'r panel yn berthnasol iddynt.

Mae Rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gadw cofnod o unrhyw daliadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw gynllun a wneir odanynt, gan roi manylion am y derbynnydd a natur y taliad. Dylai'r wybodaeth honno fod ar gael i'w harchwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr mewn llywodraeth leol. Gellir cael copïau wrth dalu ffi resymol i'r awdurdod.

Yn unol â Rheoliad 19 rhaid i unrhyw gynllun a wneir o dan y Rheoliadau hyn gael cyhoeddusrwydd yn ardal yr awdurdod cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud. Cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae cynllun yn berthnasol iddi, rhaid i bob awdurdod gyhoeddi manylion o'r cyfanswm a dalwyd i bob aelod o dan y cynllun mewn perthynas â lwfansau sylfaenol, lwfansau cyfrifoldeb arbennig, lwfansau presenoldebau a lwfansau gofal.

Mae Rheoliad 20 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau'r Aelodau) 1991 ("Rheoliadau 1991") yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliadau am ddyletswyddau a ddyddiwyd cyn 1 Ebrill 2002. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn diddymir Rheoliadau 1991. Mae hefyd yn eithrio cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol rhag effeithiau adrannau 174, 175 a 177 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Addesir adran 176 (Talu costau ymweliadau swyddogol ac ymweliadau cwrteisi, a.y.y.b) o Ddeddf 1972 wrth ei chymhwyso i awdurdodau sir, awdurdodau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.


Notes:

[1] 1989 p.42. Mewnosodwyd adran 18(3A) gan adran 99(3), (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 2000 p. 22.back

[4] O.S. 2001/2284 (Cy.173).back

[5] 1972 p. 70.back

[6] 1998 p. 31.back

[7] O.S. 1991/351 fel y'i diwygiwyd.back

[8] 1978 p. 30.back

[9] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090558 X


  Prepared 27 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021895w.html