BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021896w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1896 (Cy.197)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 26 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29, 29A, 29B, 43ZA, 49F, 49I, 49L, 49M, 49N, 49O, 49P, 49Q, 49R, 65 a 126(4) o Ddeddf y Gwsanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002 a deuant i rym ar 26 Awst 2002.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[
2].

    (3) Caiff y prif Reoliadau eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

    (4) Mae pob cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 oni nodir yn wahanol.

    (5) Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 2
     2. Yn rheoliad 2 (dehongli) - 

    (2) Yn narpariaethau'r prif Reoliadau a restrwyd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn - 

Diwygio rheoliad 6
     3. Yn rheoliad 6 (diwygio neu dynnu oddi ar y rhestr feddygol), ar gyfer paragraff (6) rhowch

Diwygio rheoliad 7
    
4. Yn rheoliad 7 (tynnu oddi ar y rhestr feddygol) - 

Mewnosod rheoliad newydd
     5. Ar ôl rheoliad 7 (tynnu oddi ar y rhestr feddygol) mewnosodwch y rheoliadau newydd canlynol - 

Diwygio rheoliad 18E y prif Reoliadau
    
6.  - (1) Yn rheoliad 18E (meini prawf ar gyfer cymeradwyo ac enwebu) - 

Mewnosod rheoliad 18EE a 18EF newydd
    
7. Ar ôl rheoliad 18E mewnosodwch - 

Diwygio rheoliad 18F
    
8. Yn rheoliad 18F (cynnwys ar restr feddygol)

Diwygio Rheoliad 18G
    
9. Yn Rheoliad 18G, ym mharagarf (1)(a) ar gyfer "has refused to approve pursuant to regulation 18E(2)(a)" rhowch yn ei le "has refused to approve pursuant to regulation 18E(1)(b) or (2)(a)".

Mewnosod rheoliad 18GG newydd.
    
10. Ar ôl Rheoliad 18G (apelio i'r Ysgrifennydd Gwladol) mewnosodwch - 

Diwygio rheoliad 18I
    
11. Yn rheoliad 18I (y weithdrefn mewn achosion pan fo rheoliad 18H yn gymwys) - 

    "(7A) The Health Authority may determine in accordance with regulation 18M that the person be subject to conditions on his inclusion;

Diwygio rheoliad 18J
    
12. Yn rheoliad 18J (swyddi gwag ar draws y ffin), - 

Mewnosod rheoliad 18M newydd
    
13.  - (1) Ar ôl rheoliad 18L (darpariaethau trosiannol) mewnosodwch - 

Diwygio rheoliad 25
    
14. Yn rheoliad 25 (darparu gwasanaethau dros dro) - 

Diwygio rheoliad 34A
    
15. Yn lle rheoliad 34A (taliadau i feddygon sydd wedi'u hatal) rhowch yn ei le - 

(f) ar ôl paragraff 19 mewnosodwch - 

Arbedion
    
19.  - (1) Ac eithrio'r diwygiadau a wnaed i'r prif Reoliadau gan ddarpariaethau'r rheoliadau a restrwyd ym mharagraff (2) ("y diwygiadau rhestredig"), pan trwy rinwedd rheoliad 6(3) o Reoliadau Diddymu'r Tribwinlys bod achos yn parhau ger bron y Tribwinlys ar ôl 31 Gorffennaf 2002, ni fydd y diwygiadau a restrir yn gymwys i feddyg mewn perthynas â'i achos hyd nes y bydd yr achos wedi dirwyn i ben a bod yr amser ar gyfer gwneud apêl wedi dod i ben, neu bod unrhyw apêl wedi'i dynnu'n ôl, neu bod y meddyg wedi disbyddu'i hawl i apelio, fel y digwydd.

    (2) At ddibenion paragraff (1) y diwygiadau rhestredig a restrir yw'r rhai a wnaed gan - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9]


John Marek
Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Gorffennaf 2002



YR ATODLEN
Rheoliad 2(2)


Amnewid Cyfeiriadau Awdurdod Iechyd


Yn Rheoliad 2(1) (dehongli), y diffiniadau "group practice", "local directory", "locality" a "medical card".

Rheoliad 3 (cwmpas ac amodau gwasanaeth).

Rheoliad 4 (rhestrau meddygol).

Rheoliad 6 (diwygio neu dynnu oddi ar y rhestr feddygol).

Rheoliad 7 (tynnu oddi ar y rhestr feddygol).

Rheoliad 8 (cyfarwyddiadur lleol).

Rheoliad 9 (diwygio cyfarwyddiadur lleol).

Rheoliad 19 (rhestrau meddygon).

Rheoliad 22 (newid meddyg).

Rheoliad 23 (tynnu oddi ar rhestr meddyg).

Rheoliad 24 (cyfyngiad ar y nifer ar restrau meddyg).

Rheoliad 25 (darparu gwasanaethau dros dro).

Rheoliad 27 (rhestr gwyliadraeth iechyd).

Rheoliad 28 (derbyn gwasanaethau gwyliadwraeth iechyd plant).

Rheoliad 30 (rhestr obstetrig).

Rheoliad 31 (cael gafael ar wasanaethau meddygol mamolaeth).

Rheoliad 32 (rhestr mân lawfeddygaeth).

Rheoliad 33 (derbyn gwasanaethau mân lawfeddygaeth).

Rheoliad 34 (taliadau).

Rheoliad 35 (hawliadau a gordaliadau).

Rheoliad 36 (penderfynu ar gwestiynau).

Rheoliad 37 (cyhoeddi manylion).

Rheoliad 38 (penodi cynghorydd meddygol).

Rheoliad 39 (cyfarwyddyd i feddygon).

Rheoliad 40 (ardystio nad yw'r gweithrediad yn cynnwys ewyllys da).

Yn Atodlen 2 (amodau gwasanaeth) - 

Yn Atodlen 3, Rhan Vll (gwybodaeth i'w chyflenwi gan yr FHSA mewn cysylltiad â rhestrau meddyg), y pennawd.

Yn Atodlen 4 (gwasanaethau gwyliadwraeth iechyd plant), paragraff 1.

Yn Atodlen 5, Rhan l (meini prawf i'w hystyried cyn cynnwys yn y rhestr obstetrig), paragraffau 3 a 5.

Yn Atodlen 12 (gwybodaeth i'w chynnwys ar daflenni practisiau), paragraff 5.

Yn Atodlen 13 (gwybodaeth i'w chynnwys mewn adroddiadau blynyddol), paragraff 1.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau"), sy'n rheoleiddio'r amodau y mae meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977") er mwyn gweithredu rhai darpariaethau penodol o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

Mae rheoliad 2 yn ychwanegu rhai diffiniadau ychwanegol at reoliad 2 y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau er mwyn rhwystro meddyg rhag tynnu ei enw oddi ar y rhestrau meddygol, heb ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pan fo'r Awdurdod Iechyd yn ymchwilio i weld p'un a oes rhesymau dros dynnu neu atal dros dro feddyg o'r rhestr feddygol, neu p'un a ydyw'r meddyg wedi methu â chydymffurfio ag amod a osodwyd ar gynnwys y meddyg fel bod modd cyfiawnhau tynnu'r meddyg oddi ar y rhestr.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau fel nad yw'n orfodol i dynnu enw unrhyw feddyg a geir yn euog o lofruddiaeth neu dramgwydd droseddol ac sydd wedi'i ddedfrydu am 6 mis. Mae'r rhesymau hyn yn cael eu symud i reoliad 7C newydd o'r prif Reoliadau, gyda'r newid bod raid i'r ddedfryd bellach fod yn ddedfryd o dros 6 mis, a rhestrir rhesymau eraill. Gwneir mân newidiadau eraill i reoliad 7.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau 7A i 7H newydd sy'n rhoi effaith i bwerau sydd wedi'u rhoi yn adrannau 49F i 49R o Ddeddf 1977 (a fewnosodwyd gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001) - 

Mae rheoliad 7A yn ymestyn y diffniad o "health scheme" yn adran 49(8) o Ddeddf 1977;

Mae rheoliad 7B yn pennu'r meini prawf y mae'n rhaid i'r Awdurdod Iechyd eu hystyried pan fo'n arfer ei bwerau dewisol i dynnu enw o dan adran 49F o Ddeddf 1977;

Mae rheoliad 7C yn pennu'r rhesymau sy'n galluogi Awdurdod Iechyd i dynnu'n orfodol enw meddyg oddi ar y rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7D yn gwneud darpariaethau i Awdurdod Iechyd hysbysu personau am wybodaeth benodol sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau i dynnu neu atal dros dro feddyg oddi ar y rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7E yn darparu'r gweithdrefnau y mae angen i Awdurdodau Iechyd eu dilyn wrth dynnu meddyg oddi ar y rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7F yn darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd wrth atal dros dro feddyg o'r rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7G yn darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd pan fo'r Awdurdod Iechyd yn penderfynu adolygu penderfyniad i gynnwys yn amodol, tynnu'n amodol, neu atal dros dro feddyg o'r rhestr feddygol;

Mae rheoliad 7H yn diwygio'r cyfnod statudol ar gyfer adolygu a bennir yn adran 49N o Ddeddf 1977 mewn amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 18E y prif Reoliadau er mwyn cyflwyno meini prawf ychwanegol ar gyfer cymeradwyo ac enwebu meddygon i'r rhestrau meddygol.

Mae rheoliad 7 yn ychwanegu rheoliadau 18EE ac 18EF newydd at y prif Reoliadau. Mae rheoliad 18EE yn pennu'r rhesymau y gall neu y mae'n rhaid i Awdurdod Iechyd wrthod cymeradwyo neu enwebu meddyg i'r rhestrau meddygol, a'r meini prawf y mae'n rhaid i'r Awdurdod Iechyd eu parchu. Mae rheoliad 18EF yn pennu'r amgylchiadau pan y gall Awdurdod Iechyd ohirio penderfyniad ar gais i gymeradwyo neu enwebu meddyg yn y rhestr feddygol, a'r weithdrefn sydd i'w dilyn.

Mae rheoliad 8 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliad 18F y prif Reoliadau, ac yn galluogi Awdurdod Iechyd i roi enw meddyg ar y rhestr yn ddarostyngedig i amodau, gyda chaniatâd y meddyg, hyd nes y bydd unrhyw apêl wedi'i benderfynu.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 18G y prif Reoliadau fel bod modd apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol ar bwynt cyfreithiol mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir ynghylch hyfedredd ieithyddol meddyg.

Mae rheoliad 10 yn ychwanegu rheoliad 18GG newydd i'r prif Reoliadau fel bod modd apelio i'r FHSAA yn erbyn penderfyniad gan Awdurdod Iechyd i wrthod cymeradwyo neu enwebu meddyg.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn gwneud mân newidiadau i reoliadau 18I a 18J y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 13 yn mewnosod rheoliad 18M newydd yn y prif Reoliadau. Mae hyn yn gwneud darpariaeth i Awdurdod Iechyd osod amodau pan fo'n cynnwys meddyg yn y rhestr feddygol. Gall yr Awdurdod Iechyd adolygu amodau o'r fath a gellir apelio i'r FHSAA. Gall yr Awdurdod Iechyd dynnu enw meddyg am doramod.

Mae rheoliad 14 yn diwygio rheoliad 25 y prif Reoliadau er mwyn galluogi Awdurdod Iechyd i benodi meddyg dros dro i ofalu am gleifion meddyg a gafodd ei atal dros dro gan yr Awdurdod Iechyd.

Mae rheoliad 15 yn amnewid rheoliad 34A newydd yn y prif Reoliadau am fod y pwcircer yr oedd yn ddibynnol arno, sef adran 49E o Ddeddf 1977, wedi cael ei diddymu gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, Atodlen 5, paragraff 5. Gwneir darpariaethau newydd ar gyfer talu ymarferwyr sydd wedi'u hatal dros dro o dan y pwerau newydd a fewnosodwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

Mae rheoliad 16 yn diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (amodau gwasanaeth yr Ymarferwyr Cyffredinol).

Gwneir mân ddiwygiad canlyniadol i baragraff 18A (trefniadau y tu allan i oriau).

Caiff paragraff 22 ei ddiwygio er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i sefydliadau sy'n darparu dirprwy feddygon i ddefnyddio meddygon sy'n cael eu cynnwys yn y rhestr atodol neu'r rhestr feddygol yn unig, neu sy'n cael eu henwi fel rhai sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol personol fel cynllun peilot.

Mae paragraff 23A yn gosod rhai gofynion penodol pellach ar feddygon sy'n cyflogi cynorthwywyr neu ddirprwyon.

Ychwanegir gofyniad newydd ym mharagraff 36A i'w gwneud hi'n ofynnol i Ymarferwyr Cyffredinol hysbysu'r Awdurdod Iechyd yn ysgrifenedig ynghylch a oes gan y meddyg, neu gwmni y mae'r meddyg yn gyfarwyddwr ohono, unrhyw euogfarnau troseddol neu faterion eraill a nodir erbyn 31 Hydref 2002, ac i adrodd ynghylch unrhyw ddigwyddiadau dilynol o'r natur hwn o fewn 7 diwrnod.

Mae paragraff 36B yn ei gwneud hi'n ofynnol i feddyg ar restr feddygol Awdurdod Iechyd hysbysu'r Awdurdod Iechyd os yw'r meddyg, neu gwmni y mae'r meddyg yn gyfarwyddwr ohono, yn gwneud cais i ymuno â rhestr arall, neu os yw'r meddyg yn dod yn gyfarwyddwr cwmni sy'n cael ei gynnwys felly, neu sy'n gwneud cais i gael ei gynnwys.

Mae paragraff 50A newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i feddyg gydweithredu ag asesiad gan yr Awdurdod Asesu Clinigol Cenedlaethol Newydd.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn gwneud mân ddiwygiadau i Rannau 1 (gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad gan Awdurdod Iechyd wrth wneud cyfeiriad at y Pwyllgor Arferion Meddygol) a 111 (gwybodaeth ac ymgymeriadau i'w rhoi gan ymarferydd mewn cysylltiad â chais ar gyfer enwebu neu gymeradwyo lle gwag mewn practis) o Atodlen 3 i'r prif reoliadau, ac yn darparu ar gyfer darparu mwy o wybodaeth gan y meddyg. Mae'r ymgymeriad sy'n cael ei roi o dan baragraff 25 yn cael ei ymestyn i fynnu bod meddyg yn mynd ati i hysbysu'r awdurdod iechyd am unrhyw newid yn yr wybodaeth sy'n cael ei darparu gyda'r cais, ac i barhau i gyflenwi gwybodaeth i'r Awdurdod Iechyd unwaith y bydd wedi'i gynnwys. Mae paragraff 26 newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r meddyg gytuno i'r Awdurdod Iechyd ofyn i gorff rheoleiddiol y meddyg roi gwybodaeth benodol i'r Awdurdod Iechyd.

Yn ogystal, mae rheoliadau 7 a 25 o'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio i gynnwys cyfeiriad at y gorchmynion atal dros dro sydd ar gael o dan adran 41A o Ddeddf Feddygol 1973.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19), adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Cafodd adran 29 ei hymestyn gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p. 53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 1, paragraff 42(b); gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p. 41), Atodlen 6, paragraff 2; gan Ddeddf Feddygol 1983 (p. 54), adran 56(1) ac Atodlen 5, paragraff 16(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, paragraff 18; a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46) ("Deddf 1997"), Atodlen 2, paragraff 8. Mewnosodwyd adran 43ZA gan Ddeddf 2001, adran 25. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29, 29A, 29B a 126(4) o Ddeddf 1977 wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o, ac Atodlen 1 i, Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5); mae adran 68 o Ddeddf 2001 yn darparu y dylid dehongli Atodlen 1 fel ei bod yn cynnwys y diwygiadau a wnaed gan y Ddeddf honno i Ddeddf 1977 sef adrannau 43ZA a 43F i 43R.back

[2] O.S. 1992/635.back

[3] O.S. 2002/1920.back

[4] 1983 p.54.back

[5] 1984 p.22.back

[6] 1952 p.52.back

[7] 1997 p. 51.back

[8] 1997 p.51.back

[9] 1998 c.38back



English version



ISBN 0 11090565 2


  Prepared 3 September 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021896w.html