BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 2061 (Cy.210)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygiad Rhif 3) 2002
|
Wedi'i wneud |
31 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8(1) ac 87(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Teitl, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygiad Rhif 3) 2002; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Awst 2002.
Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
2.
- (1) Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[2] yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.
(2) Yn erthygl 2 -
(a) yn lle'r diffiniad o "animals" rhoddir y diffiniad canlynol -
"
"animals" means cattle (excluding bison and yak), deer, goats, sheep and swine;"; a
(b) dirymir y diffiniad o "camelid".
(3) Yn erthygl 3(2)(b) -
(a) yn lle paragraff (ix) rhoddir y paragraff canlynol -
"
(ix) of an animal to a show or exhibition from premises to which it has been moved from another show or exhibition, providing that no other animal has been moved onto those premises (or other premises in the same sole occupancy group) during the period of 20 days before the day on which the first mentioned animal is to be moved;";
(b) yn lle paragraff (xiv) rhoddir y paragraff canlynol -
"
(xiv) of an animal between land over which the owner or keeper of the animal has a registered right of common and -
(aa) premises occupied by the owner or keeper of the animal and in relation to which the registered right of common is customarily exercised; or
(bb) premises occupied by any other person who has a registered right of common over that land and in relation to which the registered right of common is customarily exercised;";
(c) ar ôl paragraff (xiv) mewnosodir y paragraff canlynol -
"
(xivA) of an animal between premises occupied by the owner or keeper of the animal and in relation to which a registered right of common over land is customarily exercised and premises occupied by any other person who has a registered right of common over that land and in relation to which the registered right of common of that other person is customarily exercised;";
(ch) dirymir paragraff (xv);
(d) ym mharagraff (xvii) dilëir y gair "camelids"; ac
(dd) ym mharagraff (xviii) -
(i) yn lle'r geiriau "of a bull or ram or a goat, camelid or deer of either sex" rhoddir y geiriau "of a bull or ram or a goat or deer of either sex"; a
(ii) dirymir is-baragraff (dd).
(4) Yn erthygl 3(3) -
(a) yn is-baragraff (c) yn lle'r geiriau "a bull or a deer or camelid of either sex" rhoddir y geiriau "a bull or a deer of either sex";
(b) dirymir paragraff (c)(iii);
(c) dirymir is-baragraffau (f) a (k); ac
(ch) yn is-baragraff (o) dilëir y gair "camelids".
(5) Yn erthygl 3 ar ôl paragraff (4A) ychwanegir y paragraff canlynol -
"
(4B) The requirements set out in paragraph (1) above shall not apply to the movement of animals to or from zoos licensed under the Zoo Licensing Act 1981[3];"
(6) Dilëir erthyglau 5, 6 ac 14.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar
31 Gorffenaf 2002
D.Elis-Thomas
Llywydd
Llofnodwyd ar
31 Gorffennaf 2002
Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (y "prif Orchymyn") (O.S. 2002/280 (Cy. 32)) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1038 (Cy. 110) ac O.S. 2002/1356 (Cy. 132)) drwy
(a) rhoi diffiniad newydd yn lle'r diffiniad presennol o "animals" (erthygl 2(2)) yn y prif Orchymyn, sydd yn gymwys bellach i fuail, gwartheg, ceirw, geifr, moch, defaid a baeddod gwyllt (roedd gynt yn gymwys i wartheg, defaid, geifr, pob anifail arall sy'n cnoi cil, anifeiliaid o deulu'r mochyn ac eliffantod); a gwneud dirymiadau canlyniadol mewn perthynas â chamelidau;
(b) diwygio erthygl 3(2)(b) i ddarparu ar gyfer llacio'r cyfyngiadau ar symud -
(i) defaid i sioe neu arddangosfa o safle y maent wedi'u symud iddo (paragraff (ix) newydd); a
(ii) anifeiliaid rhwng tir comin a safleoedd y mae hawl tir comin gofrestredig dros dir yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef (paragraff (xiv) newydd) a rhwng y safleoedd hyn (paragraff (xivA) newydd);
(c) mewnosod Erthygl 3(4B) newydd sy'n dadgymhwyso'r gofynion a nodir ym mhraragraff (1) o erthygl 3 o'r Prif Orchymyn i symud anifeiliaid i s au 1981, o'r swau hynny neu rhyngddynt (erthygl 2(5));
(ch) dirymu erthyglau 5 a 6 o'r prif Orchymyn sy'n nodi'r gofynion trwyddedu mewn perthynas â throchi a chneifio defaid a sganio defaid ag offer uwchsain (erthygl 2(6)); a
(d) dirymu erthygl 14 o'r prif Orchymyn (estynnodd erthygl 14 y diffiniad o "animals" a nodwyd yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p.22) i gynnwys eliffantod at ddibenion y prif Orchymyn) (erthygl 2(4)).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1981 p.22. Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). I'r graddau yr oedd y swyddogaethau hynny yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd hwy i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141) ac fe'u trosglwyddwyd ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back
[2]
O.S. 2002/280 (Cy.32) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1038 (Cy.110) ac O.S 2002/1356 (Cy. 132).back
[3]
1981 c.37.back
English
version
ISBN
0 11090556 3
|
Prepared
21 August 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022061w.html