BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022171w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 2171 (Cy.218)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002

  Wedi'u gwneud am 11:45 a.m. ar 22 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym am 12.00 canol dydd ar 22 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwcircer a roddwyd iddo gan adrannau 79C, 79E a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym am 12.00 canol dydd ar 22 Gorffennaf 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygiadau
    
2.  - (1) At ddibenion y Rheoliad hwn ystyr "cynllun chwarae haf" yw darpariaeth gofal dydd sy'n cynnwys plant o dan wyth oed am fwy na dwy awr y dydd, a honno'n ddarpariaeth sy'n gweithredu'n unig am y cyfan neu ran o'r cyfnod rhwng dyddiad dod i rym Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a 13 Medi 2002.

    (2) Diwygir rheoliad 4 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002[
2] fel a ganlyn

    (3) Diwygir rheoliad 16 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 fel a ganlyn - 

    "(7) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y safle perthnasol er gwaethaf paragraff (4)(b) - 

    (4) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[7] fel a ganlyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]


Jane.E.Hutt
Y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

11:45 a.m. ar 22 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989 ac maent yn gymwys i bersonau sy'n dymuno darparu cynlluniau chwarae haf a fyddai'n gweithredu yng Nghymru yn y cyfnod rhwng dyddiad dod i rym y rheoliadau hyn a 13 Medi 2002 neu i bersonau sy'n dymuno gweithio yn y cynlluniau hynny.

Mae'r rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 a Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002, fel bod modd i bersonau sy'n dymuno darparu cynllun chwarae haf gael eu cofrestru er gwaethaf y ffaith nad oes ganddynt dystsygrif cofnod troseddol fanwl, cyhyd â bod amodau penodol eraill yn cael eu bodloni. Ar yr amod eu bod yn cael eu goruchwylio, caiff personau sy'n dymuno gweithio mewn cynlluniau chwarae haf ddechrau gweithio tra'n aros am gael y tystsygrifau cofnod troseddol manwl cyhyd â bod pob gwybodaeth benodedig arall ar gael.


Notes:

[1] 1989 p.41; mewnosodwyd adrannau 79C a 79E gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14). Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn Adran 121(1) o'r Ddeddf Safonau Gofal, mewn perthynas â Chymru, fel y Cynulliad Cenedlaethol. Gweler adran 121(1) am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back

[2] O.S. 2002/812.back

[3] 1997 p.50.back

[4] 1999 p.14.back

[5] 1988 p.40.back

[6] 1974 p.53.back

[7] O.S. 2002/919.back

[8] 1999 c.14.back

[9] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090561 X


  Prepared 29 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022171w.html