BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003 Rhif 4 (Cy.2)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030004w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 4 (Cy.2)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 7 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 13 Ionawr 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986[1], ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - 

Teitl, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 13 Ionawr 2003.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at "yr Atodlen" yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

    (4) Yn y Gorchymyn hwn:

Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
     2.  - (1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

    (2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna - 

    (3) Pan fydd tir y gellir ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu wedi'i ddynodi fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna - 

    (4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.

Dirymu
    
3. Dirymir y Gorchmynion canynol: - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]).


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Ionawr 2003



ATODLEN YR
Erthyglau 1(2) a 2


RHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu £
1. Da byw
Buchod llaeth:          
Bridiau Ynysoedd y Sianel buwch 299
Bridiau eraill buwch 378
Buchod bridio cig eidion:          
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001[10] buwch 19(1)
Ar dir arall buwch 60(1)
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) pen 38(2)
Buchod llaeth i lenwi bylchau pen 30(3)
Mamogiaid:          
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 mamog 3(4)
Ar dir arall mamog 9(5)
Ŵ yn stôr (gan gynnwys wycircn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) pen 0.75
Moch:          
Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 75
Moch porc pen 1.50
Moch torri pen 2.85
Moch bacwn pen 4.20
Dofednod:          
Ieir dodwy aderyn 0.92
Brwyliaid aderyn 0.09
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.20
Tyrcwn Nadolig aderyn 1.27
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 149(6)
Ffa hectar 195(7)
Had glaswellt hectar 110
Ceirch hectar 176(8)
Rêp had olew hectar 76(9)
Pys:          
Sych hectar 224(10)
Dringo hectar 200
Tatws:          
Cynnar cyntaf hectar 860
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) hectar 860
Betys siwgr hectar 240
Gwenith hectar 214(11)
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredin hectar 425
Ysgewyll Brwsel hectar 1505
Bresych, safwy a brocoli blaguro hectar 1730
Moron hectar 2270
Blodfresych a brocoli'r gaeaf hectar 975
Seleri hectar 8255
Cennin hectar 2945
Letys hectar 4150
Wynwns:          
Bylbiau sych hectar 1305
Salad hectar 4125
Pannas hectar 2591
Riwbob (naturiol) hectar 5000
Maip a swêds hectar 1210
4. Ffrwythau'r berllan
Afalau:          
Seidr hectar 420
Coginio hectar 1275
Melys hectar 1250
Ceirios hectar 690
Gellyg hectar 965
Eirin hectar 1215
5. Ffrwythau meddal
Cyrens Duon hectar 740
Mafon hectar 3000
Mefus hectar 3500
6. Amrywiol
Hopys hectar 1670
7. Tir Porthiant
Tir cymwys fel y'i disgrifir yn rheoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 hectar swm y taliad Tir Mynydd y mae'n rhaid ei dalu o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
8. Neilltir
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fydd tir o'r fath yn cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1251/99) ar gyfer darparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion nad ydynt wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid hectar 24




NODIADAU I'R ATODLEN


    (1) Didynner £120 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglycircn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngorar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo.

    (2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis.

    (3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.

    (4) Didynner £17 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglycircn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad 2529/01 y Cyngor ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr.

    (5) Didynner £13 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglycircn â'r premiwm defaid blynyddol.

    (6) Didynner £227 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglycircn â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor.

    (7) Didynner £262 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglycircn â thaliad arwynebedd.

    (8) Didynner £226 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglycircn â thaliad arwynebedd.

    (9) Didynner £228 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglycircn â thaliad arwynebedd.

    (10) Didynner £262 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglycircn â thaliad arwynebedd.

    (11) Didynner £228 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglycircn â thaliad arwynebedd.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 2002 hyd 11 Medi 2003 yn gynhwysol.

Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) and 50(2) yn arbennig.

Mae "uned fasnachol o dir amaethyddol" yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.


Notes:

[1] 1986 p.5.back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog (a ddiffiniwyd yn adran 96(1) o'r Ddeddf fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru) o dan baragraff 4 o Atodlen 6 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[3] OJ Rhif L312, 20.11.98, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1669/00 (OJ Rhif L193, 29.7.00, t.8).back

[4] OJ Rhif L160, 26.6.99, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1038/01 (OJ Rhif L145, 31.5.01, t.16).back

[5] OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21.back

[6] O.S. 2001/2982 (Cy.249).back

[7] O.S. 2001/2983 (Cy.250).back

[8] O.S. 2001/3064 (Cy.253).back

[9] 1998 p.38.back

[10] O.S. 2001/496 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1806 (Cy.176).back



English version



ISBN 0 11090619 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 January 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030004w.html