BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2003 Rhif 56 (Cy.6)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030056w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 56 (Cy.6)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 15 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 16 Ionawr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1), (1A), (2) a (3) a 36 o Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau[1] a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno gyda chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo fod ganddynt ddiddordeb, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 16 Ionawr 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Hadau Grawn 1993
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Hadau Grawn 1993[2] yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 3(3) (Dehongli) ar ôl y diffiniad o "Certified Seed of the Second Generation" mewnosodir y diffiniad canlynol - 

    (3) Yn rheoliad 8 (Selio pecynnau) - 

    (4) Yn rheoliad 9 (Labelu pecynnau) - 

    (5) Ar ôl rheoliad 9A mewnosodir - 

    (6) Ar ôl paragraff 8 o Atodlen 5 mewnosodir - 

Diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993
    
3.  - (1) Diwygir Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993[3] yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 3(3) (Dehongli) ar ôl y diffiniad o "Commercial Seed" mewnosodir y diffiniad canlynol - 

    (3) Yn rheoliad 8 (Selio pecynnau) - 

    (4) Yn rheoliad 9 (Labelu pecynnau) - 

    (5) Ar ôl rheoliad 9A mewnosodir - 

    (6) Ar ôl paragraff 8 o Atodlen 5 mewnosodir - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Ionawr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach (mewn perthynas â Chymru) y Rheoliadau Hadau Grawn 1993 fel y'u diwygiwyd ("y Rheoliadau hadau grawn") a'r Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993 fel y'u diwygiwyd ("y Rheoliadau hadau planhigion porthiant").

Mae'r Rheoliadau hyn yn esemptio mathau penodol o hadau a swmp-farchnateir o'r gofynion labelu a phecynnu yn y Rheoliadau hadau grawn a'r Rheoliadau hadau planhigion porthiant (rheoliadau 2(2) i (4) a 3(2) i (4)). Mae'r esemptiadau hyn yn rhan-ddirymiadau o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2309) (fel y'i diwygiwyd) a Chyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2298) (fel y'i diwygiwyd) yn eu tro. Caniateir y rhan-ddirymiadau hyn gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/64/EC.

Mae'r Rheoliadau yn pennu amodau ar gyfer yr esemptiad, gan weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/64/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 94/650/EC (OJ Rhif L252, 28.9.1994, t.15), fel y'i diwygiwyd yn berthnasol gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/174/EC (OJ Rhif L63, 4.3.98, t.31) a Phenderfyniad y Comisiwn 2000/441/EC (OJ Rhif L176, 15.7.00, t.50) (rheoliadau 2(2), (5) a (6) a 3(2), (5) a (6)).


Notes:

[1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 6 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4 paragraff 5; gweler adran 38(1) ar gyfer y diffiniad o "the Ministers". Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 1993 Rhif 2005 fel y'i diwygiwyd gan O.Sau. 1995/1482, 1997/616, 1999/1860, 2001/3510 a 2001/3664 (Cy.296).back

[3] O.S. 1993 Rhif 2009, fel y'i diwygiwyd gan O.Sau 1993/2529, 1996/453, 1997/616, 1999/1864, 2001/3510 a 2001/3665 (Cy.297).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090620 9


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 January 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030056w.html