BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2003 Rhif 62
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030062w.html

[New search] [Help]



O F F E R Y N N A U S T A T U D O L


2003 Rhif 62

CWMNÏAU

Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2003

  Gwnaed 9th Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 27th Ionawr 2003 

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o arfer y pwerau a roddwyd iddi gan adrannau 10(2), 10(2A), 288(2), 363(2) a 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985[1], fel y cawsant eu hestyn gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2], a phob pwcircer arall sy'n ei galluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

     1.  - (1) Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2003 a byddant yn dod i rym ar 27th Ionawr 2003.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adran rifog yn ymwneud ag adran o Ddeddf Cwmnïau 1985.

    
2.  - (1) Mae Ffurflenni 10 cym, 288a cym a 288c cym, a 363 cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflenni ychwanegol a bennwyd at ddibenion adrannau 10(2), 288(2) a 363(2) i'w defnyddio gan gwmni y mae ei femorandwm yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru.

    (2) Mae Ffurflen 363s cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen ychwanegol a bennwyd at ddibenion adran 363(2) lle mae'r Cofrestrydd, er mwyn casglu manylion blynyddol cwmni y dywed ei femorandwm y lleolir ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru, wedi anfon y ffurflen at y cwmni hwnnw.

    (3) Mae Ffurflen 723SR cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen a bennwyd at ddibenion adrannau 10(2A) a 288(2) i'w defnyddio gan gyfarwyddwr i gwmni y mae ei femorandwm yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru.

    (4) Mae Ffurflen 723(change) cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen a bennwyd at ddibenion adran 288(2) i'w defnyddio gan gyfarwyddwr i gwmni y mae ei femorandwm yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru.

    
3. Er gwaethaf Rheoliad 2, bydd y ffurflenni canlynol yn parhau i gael eu defnyddio fel dewisiadau posibl eraill yn lle'r ffurflenni a welir yn Atodlen y Rheoliadau hyn ar gyfer cwmni y mae ei femorandwm yn nodi y bydd ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru, ac eithrio mai'r ffurflenni a enwir yn Rheoliad 2 (neu'r fersiwn Saesneg cyfatebol) y bydd yn rhaid eu harfer lle mae'r cyfarwyddwr cwmni dan sylw yn fuddiolydd o dan Orchymyn Cyfrinachedd wedi ei wneud yn unol ag adran 723B - 


C Clancy,

ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol
Adran Masnach a Diwydiant

9th Ionawr 2003





Click here to view Form 1 of 29


Click here to view Form 2 of 29


Click here to view Form 3 of 29


Click here to view Form 4 of 29


Click here to view Form 5 of 29


Click here to view Form 6 of 29


Click here to view Form 7 of 29


Click here to view Form 8 of 29


Click here to view Form 9 of 29


Click here to view Form 10 of 29


Click here to view Form 11 of 29


Click here to view Form 12 of 29


Click here to view Form 13 of 29


Click here to view Form 14 of 29


Click here to view Form 15 of 29


Click here to view Form 16 of 29


Click here to view Form 17 of 29


Click here to view Form 18 of 29


Click here to view Form 19 of 29


Click here to view Form 20 of 29


Click here to view Form 21 of 29


Click here to view Form 22 of 29


Click here to view Form 23 of 29


Click here to view Form 24 of 29


Click here to view Form 25 of 29


Click here to view Form 26 of 29


Click here to view Form 27 of 29


Click here to view Form 28 of 29


Click here to view Form 29 of 29


EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Gan ddod i rym ar 2 Ebrill 2002, bu i Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni) Cwmnïau 2002 (y "Rheoliadau Ffurflenni") - 

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurflenni 10 cym, 288a cym, 288c cym, 363 cym, 363s cym, 723SR cym a 723 (change) cym, sydd yn ddewisiadau Cymraeg yn lle'r ffurflenni a bennwyd gan y Rheoliadau Ffurflenni. Bydd defnydd ffurflenni Cymraeg cyfatebol o'r fath yn dod i rym ar 27th Ionawr 2003. Bydd y Cofrestrydd Cwmnïau'n darparu unrhyw rai o'r ffurflenni ar gyfer unrhyw gwmni y mae ei swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru ac sy'n rhoi gwybod i'r Cofrestrydd ei fod am dderbyn ffurflen yn Gymraeg yn lle ffurflenni 10, 288a, 288c, 363, 363s, 723SR a 723 (change).


Notes:

[1] 1985 c. 6.back

[2] 1993 c. 38.back

[3] O.S. 1995/734.back

[4] O.S. 1999/2357.back

[5] 0.S. 2000/2413.back



English version



ISBN 0 11 515501 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 27 January 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030062w.html