OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 153 (Cy.23)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
29 Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
10 Chwefror 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau
2.
- (1) Diwygir Atodlen 3 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001[2] fel a ganlyn:
(a) ychwanegir y canlynol at y tabl o Swyddogaethau nad ydynt i fod yn Gyfrifoldeb i Weithrediaeth Awdurdod yn Unig:
Cynlluniau a Strategaethau
|
Cyfeiriad
|
Strategaeth Iechyd a Llesiant |
Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 |
(b) diddymir y cofnod "Cynllun Gwasanaethau Plant" yng ngholofn (1) a'r cyfeiriad cysylltiedig yng ngholofn (2).
(c) diddymir y cofnod "Cynllun Gofal Cymunedol" yng ngholofn (1) a'r cyfeiriad cysylltiedig yng ngholofn (2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod onid yw'r swyddogaethau hynny wedi'u pennu yn swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
Mae Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 yn pennu swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig.
Mae paragraffau (1) i (3) o Reoliad 4 o Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros amrywiol agweddau ar swyddogaethau sy'n ymwneud â llunio a pharatoi cynlluniau a strategaethau, o'r disgrifiadau a bennir yn Atodlen 3, rhwng awdurdod a'i weithrediaeth.
Mae Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 yn darparu ei bod yn un o ddyletswyddau awdurdodau lleol yng Nghymru i lunio a gweithredu ar y cyd strategaeth, a elwir "strategaeth iechyd a llesiant", ar gyfer iechyd a llesiant aelodau o'r cyhoedd yn ardal pob awdurdod lleol.
Mae Rheoliad 2 yn gwneud diwygiad i Atodlen 3 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001. Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod y cyfrifoldeb dros fabwysiadu strategaeth iechyd a llesiant yn swyddogaeth na chaniateir iddi fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig.
Yn ychwanegol, mae'r cyfrifoldebau dros fabwysiadu Cynllun Gwasanaethau Plant a Chynllun Gofal Cymunedol yn cael eu dileu o Atodlen 3 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
O.S. 2001/2291 (Cy.179) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002, O.S 2002/783 (Cy. 84).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090636 5
|