BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003 Rhif 154 (Cy.24)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030154w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 154 (Cy.24)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 29 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 24(4), (5), (6) a (9), adran 38(1), (5) a (7) ac adran 39(1) a (3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol  - 

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strategaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, mae i'r geiriau a'r ymadroddion canlynol yr ystyron canlynol  - 

Dyletswydd i gydweithredu gyda chyrff rhagnodedig
     3.  - (1) Rhaid i'r cyrff cyfrifol gydweithredu â'r canlynol wrth lunio ac addasu eu strategaeth  - 

    (2) Cyn llunio strategaeth neu wneud unrhyw weithred o dan Reoliad 4, rhaid i'r cyrff cyfrifol mewn ymgynghoriad â'r personau neu'r cyrff a restrir ym mharagraff (1) baratoi gweithdrefn ar gyfer cydweithredu â phersonau a chyrff o'r fath.

Camau y mae'n rhaid i gyrff cyfrifol eu cymryd cyn llunio strategaeth
    
4.  - (1) Cyn llunio strategaeth, rhaid i'r cyrff cyfrifol gynnal asesiad o anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth leol.

    (2) Rhaid i asesiad o dan baragraff (1) gynnwys asesiad o'r materion a nodir yn rheoliad 5(2)(a) i (e) isod.

    (3) Wrth gynnal asesiad o dan baragraff (1), rhaid i'r cyrff cyfrifol gydweithredu â'r personau neu'r cyrff a restrir yn rheoliad 3(1) ac ymgynghori â'r canlynol  - 

a rhaid iddynt ystyried canlyniadau ymgynghori o'r fath wrth lunio asesiad anghenion o dan baragraff (1).

    (4) Wrth gyflawni asesiad o dan baragraff (1), rhaid i'r cyrff cyfrifol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau ac ystyried unrhyw ganllawiau a roddir gan y Cynulliad yn unol ag adran 24(7)(a) neu (b) o Ddeddf 2002.

Materion y mae'n rhaid i'r strategaeth fynd i'r afael â hwy
    
5.  - (1) Rhaid i'r cyrff cyfrifol ystyried yr asesiad anghenion a gyflawnwyd o dan reoliad 4(1) uchod.

    (2) Rhaid i'r strategaeth fynd i'r afael â'r canlynol  - 

Trefniadau comisiynu ar gyfer gwasanaethau gofal eilaidd
     6.  - (1) Wrth lunio'u strategaeth rhaid i'r cyrff cyfrifol ystyried,  - 

    (2) Os bwriada'r cyrff cyfrifol beidio ag ymgymryd â threfniant comisiynu, rhaid iddynt  - 

    (3) Os bydd y cyrff cyfrifol yn penderfynu peidio ag ymgymryd â threfniant comisiynu, rhaid iddynt gyhoeddi'r wybodaeth a nodir ym mharagraff 2(a) uchod yn eu strategaeth.

Integreiddio strategaethau neu gynlluniau rhagnodedig eraill â strategaethau iechyd gofal cymdeithasol a llesiant ac ystyried strategaethau neu gynlluniau rhagnodedig eraill
    
7.  - (1) Dyma'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn  - 

    (2) Wrth lunio a gweithredu eu strategaeth, rhaid i'r cyrff cyfrifol ystyried a chydlynu ac integreiddio'r cynlluniau a restrir ym mharagraff (1) uchod yn eu strategaeth a'u cyhoeddi fel rhan o'u strategaeth.

    (3) Rhaid i'r cyrff cyfrifol gydlynu ac integreiddio perfformiad eu rhwymedigaethau o dan y darpariaethau a restrir ym mharagraff (1) uchod gyda pherfformiad eu rhwymedigaethau mewn perthynas â'r strategaeth.

    (4) Rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflawni eu rhwymedigaethau o dan y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1(a) a (b) fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth a rhaid iddynt yn arbennig gyflawni eu dyletswydd i baratoi a chyhoeddi cynllun o dan y darpariaethau hynny drwy ei baratoi a'i gyhoeddi fel rhan o strategaeth.

    (5) Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol gyflawni eu rhwymedigaethau o dan a.28 o Ddeddf Iechyd 1999[11]) fel rhan o'u dyletswydd i baratoi strategaeth a rhaid iddynt yn arbennig gyflawni eu dyletswydd i baratoi a chyhoeddi cynllun o dan yr adran honno trwy ei baratoi a'i gyhoeddi fel rhan o strategaeth.

    (6) Mae'r diwygiadau a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn i gael effaith.

     8. Wrth lunio a gweithredu eu strategaeth, rhaid i'r cyrff cyfrifol hefyd ystyried y strategaeth gyfredol ar gyfer hybu llesiant (neu'r strategaeth gymunedol) o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[12].

Ymgynghori ynghylch y strategaeth ddrafft
     9.  - (1) Rhaid i'r cyrff cyfrifol gyhoeddi'r strategaeth ddrafft ac ymgynghori â'r canlynol ar y strategaeth ddrafft cyn ei mabwysiadu  - 

a rhaid iddynt ystyried canlyniadau ymgynghori o'r fath wrth gwblhau'r strategaeth sydd i'w mabwysiadu.

    (2) Mae lleiafswm o 12 wythnos i'w ganiatáu ar gyfer y cyfnod ymgynghori o dan baragraff (1).

Dyddiad mabwysiadu'r strategaeth, cyfnod gweithredol ac adolygu
    
10.  - (1) Rhaid i'r strategaeth gyntaf gael ei chyhoeddi ar ffurf drafft ar 31 Mawrth 2004 neu cyn hynny.

    (2) Rhaid i'r strategaeth gyntaf gael ei llunio a'i mabwysiadu gan y cyrff cyfrifol ar 31 Rhagfyr 2004 neu cyn hynny.

    (3) Cyfnod gweithredol y strategaeth gyntaf fydd tair blynedd o 1 Ebrill 2005.

    (4) Cyfnod gweithredol y strategaethau canlynol fydd pum mlynedd o'r dyddiad y daeth cyfnod gweithredol y strategaeth flaenorol i ben.

    (5) Caiff y strategaeth ei hadolygu yn flynyddol gan y cyrff cyfrifol a rhaid i'r cyrff cyfrifol adrodd yn flynyddol i'r Cynulliad ar y cyfryw adolygiadau.

    (6) Erbyn diwedd cyfnod gweithredol strategaeth, rhaid i'r cyrff cyfrifol fod wedi llunio strategaeth newydd, a rhaid iddynt ei mabwysiadu erbyn diwedd cyfnod gweithredol y strategaeth flaenorol.

Cyhoeddi'r strategaeth ar ôl ei mabwysiadu
    
11. Rhaid i'r cyrff cyfrifol gyhoeddi'r strategaeth cyn pen 4 wythnos ar ôl ei mabwysiadu o dan reoliad 10 uchod a rhoi copi ohoni i'r Cynulliad.

Y cyfle i weld strategaethau drafft a strategaethau mabwysiedig
    
12.  - (1) Rhaid i'r cyrff cyfrifol gyhoeddi fel rhan o'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig grynodeb gweithredol o gynnwys y strategaeth ddrafft neu'r strategaeth fabwysiedig.

    (2) Pan gyhoeddir y strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig rhaid eu cyhoeddi ar ffurf electronig hygyrch hefyd.

    (3) Rhaid i'r cyrff cyfrifol sicrhau bod copïau o'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd  - 

    (4) Rhaid cyhoeddi'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig yn Gymraeg a Saesneg oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.

    (5) Rhaid i'r cyrff cyfrifol ymgynghori â'r Cyngor neu Gynghorau Cydraddoldeb Hil ar gyfer eu hardal neu eu hardaloedd mewn perthynas â chyhoeddi'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg, a rhaid iddynt fabwysiadu eu hargymhellion oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.

    (6) Rhaid i'r cyrff cyfrifol ymgynghori â'r Comisiwn Hawliau Anabledd mewn perthynas â chyhoeddi'r strategaethau drafft a'r strategaethau mabwysiedig ar ffurf ac mewn cyfrwng a allai eu gwneud yn rhesymol hygyrch i bersonau ag anabledd, a rhaid iddynt fabwysiadu eu hargymhellion oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
13]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

29 Ionawr 2003



YR ATODLEN
Rheoliad 7

Diwygio Deddf Plant 1989
     1. Diwygir paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (Cynlluniau gwasanaethau plant) fel a ganlyn.

     2. Yn is-baragraff (3)(a) o baragraff 1A, mewnosodir y geiriau "Local Health Board," o flaen y geiriau "Health Authority".

Diwygio Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990
     3. Diwygir adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (Cynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau gofal cymunedol) fel a ganlyn.

     4. Yn is-adran (2), paragraff (a), mewnosodir y geiriau "and any Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".

Diwygio Deddf Iechyd 1999
     5. Diwygir adran 28 o Ddeddf Iechyd 1999 (Cynlluniau ar gyfer gwella iechyd, a.y.y.b) fel a ganlyn.

     6. Yn is-adran (1), mewnosodir y geiriau ", each Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".

     7. Yn is-adran (2), mewnosodir y geiriau ", each Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".

     8. Yn is-adran (3), mewnosodir y geiriau ", Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".

     9. Yn is-adran (4), paragraff (a), mewnosodir y geiriau ", Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".

     10. Yn is-adran (4), paragraff (b), mewnosodir y geiriau "or a Local Health Board's" ar ôl y geiriau "Health Authority's", a'r geiriau "or Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".

     11. Yn is-adran (5), mewnosodir y geiriau ", Local Health Board" ar ôl y geiriau "Health Authority".

     12. Yn is-baragraff (6), paragraff (b), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards," o flaen y geiriau "Primary Care Trusts,".

     13. Yn is-adran (6), paragraff (g), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards," o flaen y geiriau "Primary Care Trusts".

     14. Yn is-adran (6), paragraff (h), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards," o flaen y geiriau "and Primary Care Trusts".

     15. Yn is-adran (7), paragraff (a), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards" ar ôl y geiriau "Health Authorities".

     16. Yn is-adran (8), mewnosodir y geiriau ", Local Health Board" eu ar ôl y geiriau "Health Authority".

     17. Yn is-adran (8), paragraff (a), mewnosodir y gair "Board" ar ôl y gair "Authority".

     18. Yn is-adran (8), paragraff (b), mewnosodir y gair ", Board" ar ôl y gair "Authority".

     19. Yn is-adran (9), mewnosodir y geiriau "Local Health Boards," o flaen y geiriau "Primary Care Trusts".



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Roedd y ddogfen strategaeth Gwella Iechyd yng Nghymru, Cynllun i'r GIG ynghyd â'i Bartneriaid, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i hybu gweithio effeithiol ar ffurf partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol.

Mae Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) yn darparu, yn adran 24 o'r Ddeddf honno, ar gyfer gosod dyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol ac awdurdod lleol yng Nghymru i lunio a gweithredu strategaeth ar gyfer iechyd a llesiant y boblogaeth yn yr ardal, ac i ystyried y strategaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at strategaethau o'r fath fel "strategaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant".

Sefydlwyd Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148) a nodir eu swyddogaethau yn Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003 /150).

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer  - 

Cynhaliwyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn a gosodwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 2002 p.17.back

[2] Mae'r cyrff GIG y cyfeirir atynt yn deillio o'r ddeddfwrieth ganlynol. Crewyd Awdurdodau Iechyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn unol ag adran 8 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49). Yng Nghymru, caiff yr Awdurdodau Iechyd eu diddymu a hynny'n effeithiol o 31 Mawrth 2003 yn unol ag adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38)  -  gweler Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003. Mae Byrddau Iechyd Lleol i gael eu sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan a.16BA o Ddeddf 1977 a byddant yn dechrau gweithredu a hynny'n effeithiol o 31 Mawrth 2003  -  gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu)(Cymru 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18). Yn Lloegr, mae Awdurdodau Iechyd yn cael eu hailenwi yn Awdurdodau Iechyd Strategol (adran 1 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17). Mae Byrddau Iechyd Lleol i gael eu sefydlu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 16BA o Ddeddf 1977 a byddant yn dechrau gweithredu a hynny'n effeithiol o 31 Mawrth 2003. Crewyd Ymddiriedolaethau GIG yn unol ag adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (1990 p.19). Gellir creu Ymddiredolaethau Gofal Sylfaenol yn Lloegr yn unol ag adran 16A o Ddeddf 1977. Gellir dynodi Ymddiredolaethau GIG ac Ymddiredolaethau Gofal Sylfaenol fel Ymddiriedolaethau Gofal yn unol ag adran 45 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (2001 p.15).back

[3] 1977 p.49.back

[4] 1970 p.42.back

[5] 1999 p.8.back

[6] O.S. 2000/2993 (Cy. 193).back

[7] 1990 p.16.back

[8] 1989 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672).back

[9] 1990 p.19. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S .1999 Rhif 672).back

[10] 1999 p.8. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672), fel y'i diwygiwyd gan adran 66(4) a (5) o Ddeddf Iechyd 1999.back

[11] Mae swyddogaethau Awdurdod Iechyd o dan a.28 o Ddeddf 1999 yn arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol yn rhinwedd Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003, sy'n diddymu Awdurdodau Iechyd ac yn trosglwyddo'u swyddogaethau i'r Cynulliad a Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (OS 2003/[ ](Cy. ), sy'n trosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdodau Iechyd gynt oddi wrth y Cynulliad i'r Byrddau Iechyd Lleol.back

[12] 2000 p.22. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 4(5).back

[13] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090665 9


 
© Crown copyright 2003
Prepared 11 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030154w.html