BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003 Rhif 168 (Cy.28)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030168w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 168 (Cy.28)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003

  Wedi'i wneud 30 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 31 Ionawr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8 ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2003.

Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[2] yn unol â'r erthygl hon.

    (2) Yn erthygl 1, rhodder "1 Ebrill 2003" yn lle "1 Chwefror 2003".

    (3) Yn erthygl 3 - 

    (4) Yn lle erthygl 8 rhodder yr erthygl ganlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2003


Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

30 Ionawr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2304 (Cy.229), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2480 (Cy.243)).

Mae'n newid y dyddiad pan beidia'r Gorchymyn â bod yn effeithiol i 1 Ebrill 2003 (erthygl 2(2)).

Mae'r Gorchymyn yn newid yr amodau sy'n ymwneud ag anifeiliaid a gymerir o safle mewn cyfrwng cludo sydd wedi gollwng anifeiliaid eraill ar y safle hwnnw (erthygl 2(3)(a)).

Mae'n cywiro camgymeriad sy'n ymwneud â'r amser erbyn pryd y mae'n rhaid llofnodi datganiad (erthygl 2(3)(b)).

O ran anifeiliaid a fewnforir, mae'n cyfyngu'r symudiadau nad ydynt yn ysbarduno'r cyfnod segur i symudiad i'r safle cyntaf wedi'r mewnforio (erthygl 2(3)(c)).

Mae'n newid y darpariaethau ar drwyddedau penodol, ac mae'n gwneud darpariaeth newydd ar gyfer dogfennau symud pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol sy'n gwneud dogfen symud yn ofynnol(erthygl 2(4)).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" a oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999, O.S.1999/3141. Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S.2002/794).back

[2] O.S. 2002/2304 (Cy.229), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2480 (Cy.243).back



English version



ISBN 0 11090646 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 18 February 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030168w.html