BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003 Rhif 169 (Cy.29)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030169w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 169 (Cy.29)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003

  Wedi'i wneud 30 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 31 Ionawr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 a 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2003.

Diwygiad i Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
    
2. Yn Erthygl 1(2) o Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[2] mae'r geiriau "1 Ebrill 2003" yn cael rhoi yn lle "1 Chwefror 2003".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2003


Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

30 Ionawr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/283 (Cy. 34) fel y'i diwygiwyd) fel bod effaith y Gorchymyn hwnnw yn parhau tan 1 Ebrill 2003.


Notes:

[1] 1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Dddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999, O.S. 1999/3141. Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 2002/283 (Cy. 34) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 (Cy.134), O. S. 2002/2060 (Cy. 209) ac O.S. 2002/2304 (Cy. 229).back



English version



ISBN 0 11090647 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 18 February 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030169w.html