BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 Rhif 237 (Cy.35)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030237w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 237 (Cy.35)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 6 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN I - 

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Datganiad o ddiben ac arweiniad plant
4. Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

RHAN II - 

PERSONAU COFRESTREDIG A RHEOLI GWASANAETH MAETHU AWDURDOD LLEOL
5. Yr asiantaeth faethu  -  ffitrwydd y darparydd
6. Yr asiantaeth faethu  -  penodi rheolwr
7. Yr asiantaeth faethu  -  ffitrwydd y rheolwr
8. Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
9. Hysbysu o dramgwyddau
10. Gwasanaeth maethu awdurdod lleol  -  rheolwr

RHAN III - 

RHEDEG GWASANAETH MAETHU
11. Yr asiantaeth faethu annibynnol  -  y ddyletswydd i sicrhau lles
12 Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
13. Rheoli ymddygiad ac absenoldeb o gartref rhiant maeth
14. Y ddyletswydd i hyrwyddo cysylltiadau
15. Iechyd plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth
16. Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden
17. Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth i rieni maeth
18. Asiantaethau maethu annibynnol  -  cwynion a sylwadau
19. Staffio gwasanaeth maethu
20. Ffitrwydd y gweithwyr
21. Cyflogi staff
22. Cofnodion ynglyn â gwasanaethau maethu
23. Ffitrwydd tir ac adeiladau

RHAN IV - 

CYMERADWYO RHIENI MAETH
24. Sefydlu panel maethu
25. Cyfarfodydd y panel maethu
26. Swyddogaethau'r panel maethu
27. Asesu darpar rieni maeth
28. Cymeradwyo rhieni maeth
29. Adolygu a therfynu cymeradwyaeth
30. Cofnodion achos ynglyn â rhieni maeth ac eraill
31. Cofrestr o rieni maeth
32. Cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion

RHAN V - 

LLEOLIADAU
33. Dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol
34. Gwneud lleoliadau
35. Goruchwylio lleoliadau
36. Terfynu lleoliadau
37. Lleoliadau byr-dymor
38. Lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol
39. Lleoliadau y tu allan i Gymru
40. Asiantaethau maethu annibynnol  -  cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol

RHAN VI - 

YMWELIADAU AWDURDOD LLEOL
41. Ymweliadau awdurdod lleol â phlant sydd wedi'u lleoli gan gyrff gwirfoddol

RHAN VII - 

ASIANTAETHAU MAETHU (AMRYWIOL)
42. Adolygu ansawdd y gofal
43. Digwyddiadau hysbysadwy
44. Y sefyllfa ariannol
45. Hysbysu o absenoldeb
46. Hysbysu o newidiadau
47. Penodi datodwyr etc
48. Tramgwyddau
49. Cydymffurfio â'r rheoliadau

RHAN VIII - 

AMRYWIOL
50. Cofrestru
51. Ffioedd
52. Darpariaethau trosiannol
53. Dirymu

YR ATODLENNI

  1. Yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli gwasanaeth maethu neu weithio at ddibenion y gwasanaeth hwnnw

  2. Y cofnodion sydd i'w cadw gan ddarparwyr gwasanaeth maethu

  3. Gwybodaeth am ddarpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r darpar riant maeth

  4. Tramgwyddau a bennir at ddibenion rheoliad 27(7)(b)

  5. Materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau gofal maeth

  6. Materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau lleoliad maeth

  7. Y materion sydd i'w monitro gan y person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth faethu

  8. Digwyddiadau a hysbysiadau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 22(1), (2)(a) i (c), (e) i (j), (6), (7)(a) i (h), (j), 25(1), 34(1), 35(1), 48(1), 118(5), (6) a (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1] ac adrannau 23(2)(a) a (9), 59(2) a 62(3) o Ddeddf Plant 1989[2] a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddi, ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall,

mae i "ymholiadau amddiffyn plant" yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 12(4).

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â gwasanaethau maethu sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad

    (4) Yn y Rheoliadau hyn, oni fwriedir fel arall, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys - 

ond nid ydynt yn cynnyws caniatáu i berson weithredu fel rhiant maeth, ac mae cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi i'w dehongli yn unol â hynny.

Datganiad o ddiben ac arweiniad plant
     3.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio, mewn perthynas â'r gwasanaeth maethu, ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y "datganiad o ddiben") a rhaid iddo gynnwys - 

    (2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, os gofynnir amdano, i'w archwilio gan - 

    (3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth maethu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel yr "arweiniad plant") a rhaid iddo gynnwys - 

    (4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu copi o'r arweiniad plant i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, i bob rhiant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan y darparydd gwasanaeth maethu ac (yn dibynnu ar oedran a dealltwriaeth y plentyn) i bob plentyn sydd wedi'i leoli gan y darparydd hwnnw.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau bod y gwasanaeth maethu yn cael ei redeg bob amser mewn ffordd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.

    (6) Ni fydd dim ym mharagraff (5) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dorri'r darpariaethau canlynol, na pheidio â chydymffurfio â hwy nac yn ei awdurdodi i wneud hynny - 

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
     4.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu - 



RHAN II

PERSONAU COFRESTREDIG A RHEOLI GWASANAETH MAETHU AWDURDOD LLEOL

Yr asiantaeth faethu  -  ffitrwydd y darparydd
    
5.  - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg asiantaeth faethu oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i redeg asiantaeth faethu oni bai bod y person - 

    (3) Y gofynion yw:

    (4) Rhaid i berson peidio â rhedeg asiantaeth faethu - 

Yr asiantaeth faethu  -  penodi rheolwr
    
6.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn, ac eithrio'r darparydd cofrestredig, i reoli'r asiantaeth faethu.

    (2) Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid iddo beidio â phenodi yn rheolwr yr unigolyn cyfrifol.

    (3) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith - 

Yr asiantaeth faethu  -  ffitrwydd y rheolwr
    
7.  - (1) Rhaid i berson beidio â rheoli asiantaeth faethu oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth faethu oni bai - 

Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
    
8.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw - 

redeg neu reoli'r asiantaeth faethu (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.

    (2) Os yw'r darparydd cofrestredig - 

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod gan yr unigolyn y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth faethu.

    (3) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan y rheolwr hwnnw y medrau y mae eu hangen i redeg yr asiantaeth faethu.

Hysbysu o dramgwyddau
    
9. Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru a Lloegr neu mewn man arall, rhaid i'r person sydd wedi'i gollfarnu hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith - 

Gwasanaeth maethu awdurdod lleol  -  rheolwr
    
10.  - (1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli gwasanaeth maethu'r awdurdod lleol a rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith  - 

    (2) Mae rheoliadau 7, 8, a 9 i fod yn gymwys i reolwr gwasanaeth maethu awdurdod lleol, mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw, fel y bônt yn gymwys i reolwr asiantaeth faethu mewn perthynas â'r asiantaeth faethu.

    (3) Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os yw'r person a benodwyd o dan baragraff (1) yn rhoi'r gorau i reoli gwasanaeth maethu'r awdurdod lleol.



RHAN III

RHEDEG GWASANAETH MAETHU

Yr asiantaeth faethu annibynnol  -  y ddyletswydd i sicrhau lles
    
11. Rhaid i'r person cofrestredig ar gyfer asiantaeth faethu annibynnol[9] sicrhau - 

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
     12.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio a gweithredu polisi ysgrifenedig - 

    (2) Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b), yn ddarostyngedig i baragraff (3), ddarparu'n benodol ar gyfer - 

    (3) Nid yw is-baragraffau (a), (c) ac (dd)(i) o baragraff (2) yn gymwys i wasanaeth maethu awdurdod lleol.

    (4) Yn y rheoliad hwn ystyr "ymholiadau amddiffyn plant" yw unrhyw ymholiadau sy'n cael eu gwneud gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd gan neu o dan Ddeddf 1989 ac sy'n ymwneud ag amddiffyn plant.

Rheoli ymddygiad ac absenoldeb o gartref rhiant maeth
    
13.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar fesurau derbyniol o reoli, atal a disgyblu plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth.

    (2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd pob camau rhesymol i sicrhau - 

    (3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi a gweithredu gweithdrefn ysgrifenedig sydd i'w dilyn os yw plentyn yn absennol o gartref rhiant maeth heb ganiatâd.

Y ddyletswydd i hyrwyddo cysylltiadau
    
14. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r cytundeb lleoliad maeth ac unrhyw orchymyn llys ynglycircn â chysylltiadau, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hyrwyddo cysylltiadau rhwng plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhiant maeth a rhieni'r plentyn, ei berthnasau a'i gyfeillion oni bai nad yw cysylltiadau o'r fath yn rhesymol ymarferol neu'n gyson â lles y plentyn.

Iechyd plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth
    
15.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hybu lles a datblygiad plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth.

    (2) Yn benodol, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau - 

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden
    
16.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hybu cyrhaeddiad addysgol y plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth.

    (2) Yn benodol rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu - 

    (3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau bod unrhyw addysg y mae'n ei darparu ar gyfer unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth ac sy'n blentyn o oedran ysgol gorfodol ond nad yw'n mynd i'r ysgol yn effeithlon ac yn addas i oedran, gallu, a doniau'r plentyn ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod arNo.

    (4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maeth sicrhau bod rhieni maeth yn hyrwyddo diddordebau hamdden y plant sydd wedi'u lleoli gyda hwy.

    (5) Os yw unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth wedi cyrraedd yr oedran pan nad oes angen iddo bellach gael addysg orfodol amser-llawn, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi cymorth i wneud y trefniadau ar gyfer y plentyn mewn perthynas â'i addysg, ei hyfforddiant a'i gyflogaeth a gweithredu'r trefniadau hynny.

Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth i rieni maeth
    
17.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi unrhyw hyfforddiant, cyngor, gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys cymorth y tu allan i oriau swyddfa, y mae'n ymddangos yn angenrheidiol er budd y plant sydd wedi'u lleoli gydag ef.

    (2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd â'r polisïau a sefydlwyd yn unol â rheoliadau 12(1) a 13(1) a (3) a'u bod yn gweithredu yn unol â'r polisïau hynny.

    (3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau, mewn perthynas ag unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli neu sydd i'w leoli gyda rhiant maeth, fod y rhiant maeth yn cael yr wybodaeth, a honno'n cael ei chadw'n gyfoes, i alluogi'r rhiant maeth i ddarparu gofal priodol i'r plentyn ac yn benodol bod pob rhiant maeth yn cael gwybodaeth briodol - 

Asiantaethau maethu annibynnol  -  cwynion a sylwadau
    
18.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i'r person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth maethu annibynnol[10] sefydlu gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cwynion, sy'n cael eu gwneud gan neu ar ran plant sydd wedi'u lleoli gan yr asiantaeth a rhieni maeth y mae wedi'u cymeradwyo.

    (2) Yn benodol, rhaid i'r weithdrefn ddarparu ar gyfer y canlynol - 

    (3) Os gofynnir amdano, rhaid darparu copi o'r weithdrefn i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(d).

    (4) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a gyflwynir o dan baragraff (3) gynnwys - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud am unrhyw gwcirc yn neu sylw, y camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb iddi, a chanlyniad yr ymchwiliad.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (7) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu datganiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion sydd wedi'u gwneud yn ystod y ddeuddeng mis blaenorol a'r camau y gymerwyd mewn ymateb iddynt.

    (8) Nid yw'r rheoliad hwn (ac eithrio paragraff (5)) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater y mae Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991[11] yn gymwys iddo.

Staffio gwasanaeth maethu
     19. Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau, gan roi sylw - 

fod nifer digonol o bersonau hyfedr a phrofiadol â chymwysterau addas yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu.

Ffitrwydd y gweithwyr
    
20.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu beidio â gwneud y canlynol - 

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw darparydd y gwasanaeth maethu mewn swydd lle gallai wrth gyflawni ei ddyletswyddau gael cysylltiad rheolaidd â phlant sydd wedi'u lleoli gan y gwasanaeth maethu.

    (3) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio i wasanaeth maethu oni bai - 

    (4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio i wasanaeth maethu nad yw'n cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaeth maethu ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei oruchwylio'n briodol tra bydd yn cyflawni ei ddyletswyddau.

    (5) Yn ddarostyngedig i reoliad 52(7), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu beidio â chyflogi person i weithio at ddibenion y gwasanaeth maethu mewn swydd y mae paragraff (6) yn gymwys iddi - 

    (6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith, yn achos swydd nad yw'n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol, yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, am nid mwy na phum awr mewn unrhyw wythnos.

Cyflogi staff
    
21.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu - 

    (2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol,

    (3) At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw - 

    (4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth faethu sicrhau bod pob person sy'n cael ei gyflogi ganddo - 

Cofnodion ynglyn â gwasanaethau maethu
    
22.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 2 a'u cadw'n gyfoes.

    (2) Rhaid dal gafael ar y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) am o leiaf 15 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf.

Ffitrwydd tir ac adeiladau
    
23.  - (1) Rhaid i'r gwasanaeth maethu beidio â defnyddio tir ac adeiladau at ddibenion gwasanaeth maethu oni bai bod y tir ac adeiladau yn addas ar gyfer cyflawni'r nodau a'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben.

    (2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau - 



RHAN IV

CYMERADWYO RHIENI MAETH

Sefydlu panel maethu
    
24.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sefydlu o leiaf un panel, a elwir panel maethu, yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu benodi'r naill neu'r llall o'r canlynol i gadeirio'r panel - 

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r panel maethu beidio â chynnwys mwy na 10 aelod, gan gynnwys y person a benodir o dan baragraff (2) a rhaid iddo gynnwys - 

    (4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu benodi aelod o'r panel maethu a fydd yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag ("yr is-gadeirydd").

    (5) Gall panel maethu gael ei sefydlu ar y cyd gan unrhyw ddau ddarparydd gwasanaeth maethu ond nid mwy na thri darparydd gwasanaeth maethu, ac os sefydlir panel maethu o'r fath - 

    (6) Rhaid i aelod o banel maethu beidio â dal ei swydd am dymor sy'n hwy na thair blynedd, ac ni chaiff ddal ei swydd ar gyfer panel yr un darparydd gwasanaeth maethu am fwy na dau dymor yn olynol.

    (7) Caiff unrhyw aelod o'r panel ymddiswyddo ar unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o un mis i'r darparydd gwasanaeth maethu.

    (8) Os yw darparydd gwasanaeth maethu o'r farn fod unrhyw aelod o'r panel maethu yn anaddas i aros yn ei swydd neu'n methu ag aros ynddi, gall derfynu swydd yr aelod hwnnw ar unrhyw bryd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r aelod.

    (9) Rhaid peidio â phenodi person yn aelod annibynnol o banel maethu - 

    (10) At ddibenion paragraff (9)(d), mae person ("person A") yn perthyn i berson arall ("person B") os yw person A - 

Cyfarfodydd y panel maethu
    
25.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i fusnes beidio â chael ei gynnal gan banel maethu oni bai bod o leiaf bump o'i aelodau, gan gynnwys y person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel, neu'r is-gadeirydd, o leiaf un o'r gweithwyr cymdeithasol sy'n cael ei gyflogi gan y gwasanaeth maethu ac o leiaf ddau o'r aelodau annibynnol, yn cyfarfod fel panel.

    (2) Rhaid i banel maethu wneud cofnod ysgrifenedig o'i drafodion a'r rhesymau dros ei argymhellion.

    (3) Yn achos cyd-banel maethu, rhaid peidio â chynnal unrhyw fusnes nes bod o leiaf chwech o'i aelodau, gan gynnwys y person sy'n cael ei benodi i gadeirio'r panel, neu'r is-gadeirydd, ac un gweithiwr cymdeithasol o bob un o'r gwasanaethau maethu, yn cyfarfod fel panel.

Swyddogaethau'r panel maethu
    
26.  - (1) Swyddogaethau'r panel maethu mewn perthynas ag achosion sy'n cael eu cyfeirio ato gan y darparydd gwasanaeth maethu yw - 

    (2) Rhaid i'r panel maethu hefyd - 

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "argymell" yw argymell i'r darparydd gwasanaeth maethu.

Asesu darpar rieni maeth
    
27.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gynnal asesiad o unrhyw berson a all fod yn addas, yn ei farn ef, i ddod yn rhiant maeth yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu o'r farn y gall person fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth rhaid iddo - 

    (3) Nid yw paragraff (2)(c) yn gymwys os awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth maethu a bod y ceisydd yn byw yn ardal yr awdurdod hwnnw.

    (4) Rhaid i'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(d) gynnwys y materion canlynol mewn perthynas â'r darpar riant maeth - 

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid peidio ag ystyried bod person yn addas i weithredu fel rhiant maeth os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy'n 18 oed neu drosodd - 

    (6) Caiff y darparydd gwasanaeth maethu ystyried bod person y byddai paragraff (5), ar wahân i'r paragraff hwn, yn gymwys iddo, yn addas i weithredu neu barhau i weithredu, yn ôl fel y digwydd, fel rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn neu blant penodol a enwir os yw'r darparydd gwasanaeth maethu wedi'i fodloni bod angen hynny er lles y plentyn hwnnw neu'r plant hynny, a naill ai - 

    (7) Yn y rheoliad hwn ystyr "tramgwydd penodedig" yw - 

mae i'r ymadrodd "tramgwydd yn erbyn plentyn" yr ystyr a roddir i "offence against a child" yn adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000[14] ac eithrio nad yw'n cynnwys tramgwydd yn erbyn adrannau 6, 12 neu 13 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rhywiol â merch 13 i 16 oed, sodomiaeth, neu anwedduster rhwng dynion)[15] mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd.

Cymeradwyo rhieni maeth
     28.  - (1) Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person sydd wedi'i gymeradwyo fel rhiant maeth gan ddarparydd gwasanaeth maethu arall, ac nad yw ei gymeradwyaeth wedi'i therfynu.

    (2) Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person fel rhiant maeth oni bai - 

    (3) Wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo person fel rhiant maeth a phenderfynu ynghylch telerau unrhyw gymeradwyaeth, rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu gymryd i ystyriaeth argymhelliad ei banel maethu.

    (4) Ni chaiff aelod o'i banel maethu gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad sy'n cael ei wneud gan ddarparydd gwasanaeth maethu o dan baragraff (3).

    (5) Os yw darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu cymeradwyo person fel rhiant maeth rhaid iddo - 

(6) Os yw darparydd gwasanaeth maethu o'r farn nad yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth rhaid iddo - 

    (7) Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), gall fynd ati i wneud ei benderfyniad.

    (8) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), rhaid iddo - 

    (9) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (7) neu (8)(b), yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu'r darpar riant maeth yn ysgrifenedig, ac  - 

Adolygu a therfynu cymeradwyaeth
    
29.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu adolygu cymeradwyaeth pob rhiant maeth yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid cynnal adolygiad heb fod yn fwy na blwyddyn ar ôl cymeradwyaeth ac ar ôl hynny pryd bynnag y mae'r darparydd gwasanaeth maethu yn barnu ei fod yn angenrheidiol, ond heb fod mwy na blwyddyn rhwng adegau gwneud hynny.

    (3) Wrth ymgymryd ag adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu - 

    (4) Ar ddiwedd yr adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi adroddiad ysgrifenedig, sy'n nodi - 

    (5) Adeg yr adolygiad cyntaf o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gyfeirio ei adroddiad at y panel maethu iddynt ei ystyried, a gall wneud hynny adeg unrhyw adolygiad dilynol.

    (6) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu, o ystyried unrhyw argymhelliad sy'n cael ei wneud gan y panel maethu, fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas a bod telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau i fod yn briodol, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth am ei benderfyniad.

    (7) Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu bellach wedi'i fodloni, o ystyried unrhyw argymhelliad sy'n cael ei wneud gan y panel maethu, fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, neu fod telerau'r gymeradwyaeth yn briodol, rhaid iddo - 

    (8) Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), gall fynd ati i wneud ei benderfyniad.

    (9) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), rhaid iddo - 

    (10) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (8) neu (9)(b), rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth yn pennu yn ôl fel y digwydd - 

    (11) Caiff rhiant maeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw bryd nad yw'r rhiant maeth yn dymuno gweithredu bellach fel rhiant maeth ac wedi hynny mae cymeradwyaeth y rhiant maeth yn cael ei therfynu 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr hysbysiad i law.

    (12) Rhaid anfon copi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn i'r awdurdod sy'n gyfrifol am unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth (onid y darparydd gwasanaeth maethu yw'r awdurdod cyfrifol hefyd), ac i'r awdurdod ardal.

Cofnodion achos ynglycircn â rhieni maeth ac eraill
    
30.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gadw cofnod achos ar gyfer pob rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gannddo a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys copïau o'r dogfennau a bennir ym mharagraff (2) a'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).

    (2) Y dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn ôl fel y digwydd yw - 

    (3) Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) yn ôl fel y digwydd, yw - 

    (4) Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef o dan reoliad 38(2) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â'r person hwnnw - 

    (5) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio cofnod ar gyfer pob person nad yw'n ei gymeradwyo fel rhiant maeth, neu sy'n tynnu ei gais yn ôl cyn iddo gael ei gymeradwyo, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys mewn perthynas â'r person - 

Cofrestr o rieni maeth
    
31.  - (1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gofnodi, mewn cofrestr sy'n cael ei chadw at y diben, y manylion a bennir ym mharagraff (2) ac yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, rhaid iddo gofnodi'r manylion a bennir ym mharagraff (3) hefyd.

    (2) Y manylion yw - 

    (3) Rhaid i bob awdurdod lleol gofnodi yn ei gofrestr - 

Cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion
    
32.  - (1) Rhaid dal gafael ar y cofnodion sy'n cael eu llunio mewn perthynas â rhiant maeth o dan reoliad 30(1) ac unrhyw gofnod ynglyn â'r person hwnnw yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan reoliad 31(1), am o leiaf 10 mlynedd o'r dyddiad y mae cymeradwyaeth y person yn cael ei therfynu.

    (2) Rhaid dal gafael ar y cofnodion a luniwyd gan awdurdod lleol o dan reoliad 30(4) ynglyn â pherson y mae plentyn wedi'i leoli gydag ef o dan reoliad 38(2), ac ar unrhyw gofnod ynglycircn â pherson o'r fath yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan reoliad 31(1), am o leiaf 10 mlynedd o ddyddiad terfynu'r lleoliad.

    (3) Rhaid dal gafael ar y cofnodion sy'n cael eu llunio o dan reoliad 30(5) am o leiaf dair blynedd o'r dyddiad y mae'r cais am ddod yn rhiant maeth yn cael ei wrthod neu ei dynnu'n ôl, yn ôl fel y digwydd.

    (4) Gellir cydymffurfio â'r gofynion ym mharagraffau (1) i (3) drwy ddal gafael ar y cofnodion ysgrifenedig gwreiddiol neu gopïau ohonynt, neu drwy gadw'r cyfan neu ran o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ynddynt ar ryw ffurf hygyrch arall megis cofnod cyfrifiadurol.

    (5) Rhaid cadw unrhyw gofnodion neu gofrestr sy'n cael eu cadw yn unol â rheoliad 30 neu 31 yn ddiogel a pheidio â'u datgelu i unrhyw berson ac eithrio - 



RHAN V

LLEOLIADAU

Dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol
    
33. Rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â lleoli plentyn gyda rhiant maeth oni bai ei fod wedi'i fodloni - 

Gwneud lleoliadau
    
34.  - (1) Ac eithrio yn achos lleoliad brys neu ddi-oed o dan reoliad 38, dim ond o dan yr amodau canlynol y caiff awdurdod cyfrifol leoli plentyn gyda rhiant maeth - 

    (2) Mae'r amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a)(ii) fel a ganlyn - 

    (3) Cyn gwneud lleoliad, rhaid i'r awdurdod cyfrifol wneud cytundeb ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel y "cytundeb lleoliad maeth" gyda'r rhiant maeth ynglycircn â'r plentyn, a hwnnw'n gytundeb sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6.

Goruchwylio lleoliadau
    
35.  - (1) Rhaid i awdurdod cyfrifol ei fodloni ei hun fod y lleoliad yn parhau i ddarparu'n addas ar gyfer lles pob plentyn sydd wedi'i leoli ganddo, ac at y diben hwnnw rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau i berson sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod ymweld â'r plentyn, yn y cartref y mae'r plentyn wedi'i leoli ynddo - 

    (2) Yn achos lleoliad di-oed o dan reoliad 38, rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod y plentyn yn cael ymweliad o leiaf unwaith bob wythnos yn ystod y lleoliad.

    (3) Pob tro y mae'r plentyn yn cael ymweliad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod cyfrifol sicrhau bod y person y mae wedi'i awdurdodi i ymweld â'r plentyn - 

Terfynu lleoliadau
    
36.  - (1) Rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â chaniatáu i leoliad plentyn gyda pherson penodol barhau os yw'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol nad y ffordd fwyaf addas o gyflawni eu dyletswydd o dan (yn ôl fel y digwydd) adran 22(3) neu 61(1)(a) a (b) o Ddeddf 1989 yw'r lleoliad bellach.

    (2) Os yw'n ymddangos i'r awdurdod ardal y byddai parhau â'r lleoliad yn niweidio lles y plentyn o dan sylw, rhaid i'r awdurdod ardal symud y plentyn oddi yno ar unwaith.

    (3) Rhaid i awdurdod ardal sy'n symud plentyn o dan baragraff (2) hysbysu'r awdurdod cyfrifol ar unwaith.

Lleoliadau byr-dymor
    
37.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw awdurdod cyfrifol wedi trefnu lleoli plentyn mewn cyfres o leoliadau byr-dymor gyda'r un rhiant maeth a bod y trefniant yn golygu - 

    (2) Gellir trin cyfres o leoliadau byr-dymor y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt fel un lleoliad at dibenion y Rheoliadau hyn, ond gyda'r addasiadau a nodir ym mharagraffau (3) a (4).

    (3) Mae rheoliad 35 (1)(c)(i) a (ii) i fod yn gymwys fel petaent yn ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer ymweliadau â'r plentyn ar ddiwrnod y mae wedi'i leoli mewn gwirionedd ("diwrnod lleoli") - 

    (4) Mae rheoliad 41 i fod yn gymwys fel petai'n ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer ymweliadau â'r plentyn ar ddiwrnod lleoli, o fewn y saith diwrnod lleoli cyntaf o gyfres o leoliadau byr-dymor.

Lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol
    
38.  - (1) Os yw plentyn i gael ei leoli mewn achos brys, caiff awdurdod lleol am gyfnod heb bod yn fwy na 24 awr leoli'r plentyn gydag unrhyw riant maeth sydd wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu unrhyw ddarparydd gwasanaeth maethu arall ar yr amod - 

    (2) Os yw awdurdod lleol wedi'i fodloni bod angen lleoli plentyn yn ddi-oed, caiff leoli'r plentyn gyda pherson nad yw'n rhiant maeth ar ôl cyfweld y person, archwilio'r llety a chael gwybodaeth am bersonau eraill sy'n byw ar aelwyd y person, am gyfnod heb fod yn hwy na chwe wythnos, ar yr amodau - 

    (3) Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(a) a (2)(b) yw - 

    (4) Os yw awdurdod lleol yn lleoli plentyn o dan y rheoliad hwn y tu allan i'w ardal rhaid iddo hysbysu'r awdurdod ardal.

Lleoliadau y tu allan i Gymru
    
39.  - (1) Rhaid i gorff gwirfoddol beidio â lleoli plentyn y tu allan i'r Ynysoedd Prydeinig[16].

    (2) Os yw awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli plentyn y tu allan i Gymru, rhaid iddo sicrhau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y cydymffurfir â'r gofynion a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn petai'r plentyn wedi'i leoli yng Nghymru.

Asiantaethau maethu annibynnol  -  cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol
     40.  - (1) Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau yn unol â'r rheoliad hwn ar gyfer y dyletswyddau sy'n cael eu gosod arno gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37, ac os yw paragraff (3) yn gymwys, 33(b), i gael eu cyflawni ar ei ran gan berson cofrestredig.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid peidio â gwneud unrhyw drefniadau o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol, oni bai bod awdurdod lleol wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan reoliad 33 mewn perthynas â'r plentyn hwnnw.

    (3) Os yw awdurdod lleol yn gwneud trefniadau gyda pherson cofrestredig i'r person cofrestredig ddarparu rhieni maeth at ddibenion lleoliad byr-dymor o fewn ystyr rheoliad 37(1), caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau hefyd i'r person cofrestredig gyflawni dyletswydd yr awdurdod lleol o dan reoliad 33(b) mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw ar ei ran.

    (4) Rhaid peidio â gwneud unrhyw drefniadau o dan y rheoliad hwn oni bai bod awdurdod lleol wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r person cofrestredig sy'n nodi - 

    (5) Os yw awdurdod lleol yn bwriadu gwneud trefniant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol rhaid i'r awdurdod lleol wneud cytundeb gyda'r person cofrestredig mewn perthynas â'r plentyn hwnnw sy'n nodi - 

    (6) Mae rhiant maeth y mae plentyn i'w leoli gydag ef yn unol â threfniadau a wneir o dan y rheoliad hwn, i'w drin, mewn perthynas â'r lleoliad hwnnw, at ddibenion paragraff 12(d) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989 fel rhiant maeth awdurdod lleol.

    (7) Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw bryderon a all fod ganddo ynghylch y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan berson cofrestredig.

    (8) Yn y rheoliad hwn, ystyr "person cofrestredig" yw person sy'n berson cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth faethu annibynnol.



RHAN VI

YMWELIADAU AWDURDOD LLEOL

Ymweliadau awdurdod lleol â phlant sydd wedi'u lleoli gan gyrff gwirfoddol
    
41.  - (1) Rhaid i bob awdurdod lleol drefnu bod person sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol i ymweld â phob plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhiant maeth o fewn eu hardal gan gorff gwirfoddol fel a ganlyn - 

    (2) Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau bod person sy'n ymweld yn unol â pharagraff (1) - 

    (3) Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw bryderon a all fod ganddo ynghylch y corff gwirfoddol.



RHAN VII

ASIANTAETHAU MAETHU (AMRYWIOL)

Adolygu ansawdd y gofal
    
42.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol adroddiad ynglycircn ag unrhyw adolygiad a gynhaliwyd gan y person cofrestredig at ddibenion paragraff (1) a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar gais i'r personau a grybwyllwyd yn rheoliad 3(2).

    (3) Rhaid i'r system y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â rhieni maeth, plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth, a'u hawdurdod cyfrifol (onid, yn achos asiantaeth faethu sy'n gorff gwirfoddol, yr asiantaeth faethu yw'r awdurdod cyfrifol hefyd).

Digwyddiadau hysbysadwy
    
43.  - (1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 8 yn digwydd mewn perthynas ag asiantaeth faethu, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r personau a nodir yng ngholofn 2 o'r tabl yn ddi-oed ynglycircn â'r digwyddiad.

    (2) Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn.

Y sefyllfa ariannol
    
44.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg yr asiantaeth faethu mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei datganiad o ddiben.

    (2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig - 

    (3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y bydd arno ei hangen er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth faethu, gan gynnwys - 

    (4) Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall, neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.

Hysbysu o absenoldeb
    
45.  - (1) Os yw'r rheolwr cofrestredig yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth faethu am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.

    (2) Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn y dyddiad y mae'r absenoldeb arfaethedig i fod i ddechrau, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu - 

    (3) Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi iddo ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

    (4) Os yw'r rheolwr cofrestredig wedi bod yn absennol o'r asiantaeth faethu am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, a bod swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol heb gael ei hysbysu o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig yn ddi-oed i'r swyddfa honno, gan roi manylion am y materion a grybwyllwyd yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'w ddyletswyddau a rhaid i'r hysbysiad hwnnw gael ei roi heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl i'r rheolwr ddychwelyd.

Hysbysu o newidiadau
    
46.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd - 

    (2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed ynghylch marwolaeth y rheolwr cofrestredig.

Penodi datodwyr etc
    
47.  - (1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo - 

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir - 

Tramgwyddau
    
48.  - (1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 3 i 23 a 42 i 46 yn dramgwydd.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg yn berson cofrestredig, ond nad ydyw bellach, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 22 ar ôl i'r person roi'r gorau i fod yn berson cofrestredig.

Cydymffurfio â rheoliadau
    
49. Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas ag asiantaeth faethu, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth sy'n ofynnol ei wneud o dan y rheoliadau hyn gan y person cofrestredig, os yw wedi cael ei wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.



RHAN VIII

AMRYWIOL

Cofrestru
    
50.  - (1) Mae "Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002"[17] yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn y paragraff sy'n dwyn y pennawd "SCHEDULES" ac yn rheoliadau 2(2), 4(2), 4(3), 4(6), 9(b), 9(d), 9(e), 9(h), 10, 12(3)(c), 13, 14, 15(4)(f) ac ym mharagraffau 1(e)(ii), 3(c), 3(d), 4, 5, 6, 7, 8, 11(a), 12(a), 13, 14 o Atodlen 1 ac ym mharagraffau 3(1), 7, 9, 10(1)(a)(i), 10(2)(a), 10(2)(b), 10(2)(c) o Atodlen 2 ac ym mharagraffau 3, 6(b), 7, 11 o Atodlen 3,

    (3) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniadau o "registered manager", "registered person", "registered provider", "representative", "responsible individual", yn lle "establishment" ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch "establishment or agency";

    (4) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o "service user", yn lle "establishment" rhowch "establishment or by an agency";

    (5) Yn rheoliad 4(5) ac ym mharagraffau 15, 16(a), 16(d) o Atodlen 1, yn lle "establishment" ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch "establishment or for the purposes of the agency";

    (6) Yn rheoliad 8(1), yn lle "establishment" rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf "establishment or agency" ac "establishment or for the purposes of the agency" yr ail dro;

    (7) Yn rheoliad 12(3)(c)(i), yn lle "establishment" rhowch "establishment or for the purposes of an agency";

    (8) Yn rheoliad 15(4)(b) ac ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ac ym mharagraff 10 o Atodlen 3, yn lle "establishment" ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch "establishment or by the agency";

    (9) Yn rheoliad 15(4)(d), yn lle "establishment is" rhowch "establishment or the premises used by the agency are";

    (10) Ym mharagraff 1(b) o Atodlen 1, yn lle "establishment" rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf "establishment or agency" ac "establishment or by the agency" yr ail dro;

    (11) Ym mharagraff 2(c) o Atodlen 1, yn lle "establishment" rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf a'r ail dro "establishment or agency" ac "establishment or by the agency" y trydydd tro;

    (12) Ym mharagraffau 5 a 13 o Atodlen 1, yn lle "section 4(8)(a)" ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch "section 4(8)(a) or (9)(a)";

    (13) Ym mharagraff 11 o Atodlen 1, yn lle "establishment" rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf "establishment or for the purposes of an agency";

    (14) Ym mharagraff 16 o Atodlen 1, yn lle "establishment" rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf "establishment or for the purposes of the agency";

    (15) Ym mharagraff 2 o Atodlen 3, yn lle "establishment" rhowch yn y man lle mae'n ymddangos y tro cyntaf "establishment or agency" ac "establishment or by the agency" yr ail dro.

    (16) Yn rheoliad 2(1),

Ffioedd
     51.  - (1) Mae "Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002"[19] yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn y paragraff sy'n dwyn y pennawd "Arrangement of Regulations", dylid ychwanegu'r llinell ganlynol ar y diwedd "12. Annual fee  -  fostering agencies and local authority fostering services".

    (3) Yn rheoliad 2(1), (a) yn y mannau priodol mewnosodwch - 

    (4) Yn rheoliadau 2(2) a 4(3) yn lle "establishment" ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch "establishment or agency".

    (5) Yn rheoliad 3 yn lle "establishment" ym mhob man y mae'n ymddangos rhowch "establishment or an agency".

    (6) Ar ôl rheoliad 11 (Annual fee  -  residential family centres), mewnosodir y rheoliad canlynol - 

Darpariaethau trosiannol
    
52.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu o fewn ystyr "fostering agency" yn adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989) sydd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn i fod yn gymwys i asiantaeth faethu y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, fel petai unrhyw gyfeiriad ynddynt at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person sy'n rhedeg yr asiantaeth[
20] - 

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol sy'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, ac sydd, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi gwneud cais yn briodol am gael ei chofrestru o dan Ran II o Ddeddf 2000.

    (4) Os yw awdurdod lleol sy'n gofalu am blentyn wedi'i fodloni y dylai'r plentyn gae ei leoli gyda rhieni maeth, cânt wneud trefniadau, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod arnynt gan reoliadau 34, 35, 36(1) a 37 gael eu cyflawni ar eu rhan gan y corff gwirfoddol y mae paragraff (3) yn gymwys iddo ("darparydd gwirfoddol annibynnol anghofrestredig") - 

    (5) Ni chaiff awdurdod lleol wneud trefniadau o dan baragraff (4) oni bai - 

    (6) Mae paragraffau (2) a (4) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 2 o Orchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 8 (Cymru) a Darpariaethau Trosiannol, Arbedion, Darpariaethau Canlyniadol a Darpariaethau Diwygio) 2002 ac i is-baragraffau (5) a (6) o baragraff 5 o Atodlen 1 iddi (cais gan y Cynulliad Cenedlaethol i ynad hedd)[21].

    (7) Ni fydd rheoliad 20(5) yn gymwys i unrhyw berson y byddai'n gymwys iddo ar wahân i'r rheoliad hwn, os yw'r person eisoes yn cael ei gyflogi ar 1 Ebrill 2003 gan ddarparydd gwasanaeth maethu mewn sefyllfa y mae paragraff (6) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.

Dirymu
     53. Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[26]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Chwefror 2003



ATODLEN 1
Rheoliadau 5, 7, 20


YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SY'N CEISIO RHEDEG NEU REOLI GWASANAETH MAETHU NEU WEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH HWNNW


     1. Prawf pendant o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

     2. Naill ai - 

     3. Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr gan gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.

     4. Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu gydag oedolion hawdd eu niweidio, yna, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

     5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

     6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.



ATODLEN 2
Rheoliad 22


Y COFNODION SYDD I'W CADW GAN DDARPARWYR GWASANAETH MAETHU


     1. Cofnod ar ffurf cofrestr sy'n dangos mewn perthynas â phob plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth - 

     2. Cofnod o'r holl bersonau sy'n gweithio ar gyfer y darparydd gwasanaeth maethu, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y materion canlynol mewn perthynas â pherson sy'n dod o fewn rheoliad 20(1) - 

     3. Cofnod o bob damwain sy'n digwydd i blant yn ystod eu lleoliad gyda rhieni maeth.



ATODLEN 3
Rheoliad 27


GWYBODAETH AM DDARPAR RIANT MAETH AC AELODAU ERAILL O AELWYD A THEULU'R DARPAR RIANT MAETH


     1. Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni'r darpar riant maeth.

     2. Manylion iechyd y person hwnnw (wedi'u hategu gan adroddiad meddygol), ei bersonoliaeth, ei statws priodasol a manylion priodas gyfredol neu berthynas debyg y person hwnnw ac unrhyw briodas flaenorol neu berthynas debyg.

     3. Manylion unrhyw aelodau eraill o aelwyd y person hwnnw sy'n oedolion.

     4. Manylion y plant yn nheulu'r person hwnnw, p'un ai ydynt yn aelodau o'i aelwyd neu beidio, ac unrhyw blant eraill yn ei aelwyd.

     5. Manylion am lety'r person hwnnw.

     6. Argyhoeddiad crefyddol y person hwnnw, i ba raddau y mae'n dilyn ei grefydd a'i allu i ofalu am blentyn o unrhyw argyhoeddiad crefyddol penodol.

     7. Tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol y person hwnnw a'i allu i ofalu am blentyn o unrhyw darddiad penodol neu unrhyw gefndir diwylliannol neu ieithyddol.

     8. Swydd neu alwedigaeth y person hwnnw yn y gorffennol a'r presennol, ei safon byw a gweithgareddau a diddordebau hamdden.

     9. Profiad blaenorol y person hwnnw (os o gwbl) o ofalu am ei blant ei hun a phlant eraill.

     10. Medrau, hyfedredd a photensial y person hwnnw sy'n berthnasol i'w allu i ofalu'n effeithiol am blentyn sydd wedi'i leoli gydag ef.

     11. Canlyniad unrhyw gais a wnaed gan y person hwnnw neu unrhyw aelod arall o aelwyd y person hwnnw am faethu neu fabwysiadu plant neu am gofrestru plentyn ar gyfer gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd[
30], gan gynnwys manylion unrhyw gymeradwyaeth flaenorol sy'n ymwneud â'r person neu ag unrhyw aelod arall o aelwyd y person hwnnw neu fanylion penderfyniad blaenorol i wrthod cymeradwyaeth o'r fath.

     12. Enw a chyfeiriadau dau berson a fydd yn darparu tystlythyron personol ar gyfer y darpar riant maeth.

     13. Mewn perthynas â'r darpar riant maeth a phob aelod o'r aelwyd sydd yn 18 neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997[31], gan gynnwys y materion a bennir yn adran 115(6A) o'r Ddeddf honNo.



ATODLEN 4
Rheoliad 27(7)(b)


TRAMGWYDDAU A BENNIR AT DDIBENION RHEOLIAD 27(7)(b)


Tramgwyddau yn yr Alban
     1. Tramgwydd trais rhywiol.

     2. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995[
32] ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd yn erbyn adran 5 o Ddeddf Cyfraith Troseddau (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyfathrach â merch o dan 16 oed)[33], tramgwydd anwedduster digywilydd rhwng dynion neu dramgwydd sodomiaeth.

     3. Tramgwydd plagiwm (dwyn plentyn islaw oedran aeddfedrwydd).

     4. Adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (ffotograffau anweddus o blant)[34]).

     5. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd)[35].

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon
     6. Tramgwydd trais rhywiol.

     7. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968[36]) ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd yn groes i adrannau 5 neu 11 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Troseddau 1885 (cael adnybyddiaeth gnawdol anghyfreithlon o ferch o dan 17 oed ac anwedduster dybryd rhwng gwrywod)[37], neu dramgwydd yn groes i adran 61 o Ddeddf Tramgwyddau yn erbyn y Person 1861 (sodomiaeth).

     8. Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus)[38].

     9. Tramgwydd yn groes i Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol)[39].

     10. Tramgwydd o dan Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant)[40].

     11. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (manteisio ar ffydd).



ATODLEN 5
Rheoliad 28(5)(b)


MATERION A RHWYMEDIGAETHAU MEWN CYTUNDEBAU GOFAL MAETH


     1. Telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth.

     2. Faint o gymorth a hyfforddiant sydd i'w rhoi i'r rhiant maeth.

     3. Y weithdrefn ar gyfer adolygu cymeradwyaeth rhiant maeth.

     4. Y weithdrefn mewn cysylltiad â lleoli plant a'r materion sydd i'w cynnwys mewn unrhyw gytundeb lleoliad maeth.

     5. Y trefniadau ar gyfer bodloni unrhyw atebolrwyddau cyfreithiol y rhiant maeth sy'n codi oherwydd lleoliad.

     6. Y weithdrefn sydd ar gael i rieni maeth gyflwyno sylwadau.

     7. Rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd gwasanaeth maeth ar unwaith, gyda manylion llawn - 

     8. Peidio â chosbi'n gorfforol unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth.

     9. Sicrhau bod unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â phlentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth, â theulu'r plentyn neu ag unrhyw berson arall, ac sydd wedi'i rhoi i'r rhiant maeth yn gyfrinachol mewn cysylltiad â lleoliad yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac nad yw'n cael ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad y darparydd gwasanaeth maethu.

     10. Cydymffurfio â thelerau unrhyw gytundeb lleoliad maeth.

     11. Gofalu am unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth fel petai'r plentyn yn aelod o deulu'r rhiant maeth a hybu lles y plentyn gan roi sylw i'r cynlluniau hir-dymor a byr-dymor ar gyfer y plentyn.

     12. Cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau'r darparydd gwasanaeth maethu a roddwyd o dan reoliadau 12 ac 13.

     13. Cydweithredu â'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag unrhyw ofyniad rhesymol ac yn benodol caniatáu i berson sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w gyfweld ac ymweld â'i gartref ar unrhyw adeg resymol.

     14. Cadw'r darparydd gwasnaeth maethu yn hysbys ynghylch cynnydd y plentyn a'i hysbysu ar unwaith ynghylch unrhyw ddigwyddiadau sylweddol sy'n effeithio ar y plentyn.

     15. Os yw rheoliad 36 yn gymwys, caniatáu i unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda'r rhiant maeth i gael ei symud o gartref y rhiant maeth.



ATODLEN 6
Rheoliad 34(3)


MATERION A RHWYMEDIGAETHAU MEWN CYTUNDEBAU LLEOLIAD MAETH


     1. Datganiad gan yr awdurdod cyfrifol sy'n cynnwys yr holl wybodaeth y mae'r awdurdod yn barnu ei bod yn angenrheidiol i alluogi'r rhiant maeth i ofalu am y plentyn ac yn benodol, gwybodaeth am - 

     2. Trefniadau'r awdurdod cyfrifol ar gyfer cymorth ariannol i'r plentyn yn ystod y lleoliad.

     3. Y trefniadau ar gyfer cydsynio ag archwiliad meddygol neu ddeintyddol neu driniaeth i'r plentyn.

     4. O dan ba amgylchiadau y mae'n angenrheidiol cael cymeradwyaeth yr awdurdod sy'n gyfrifol am y plentyn ymlaen llaw i gymryd rhan mewn tripiau ysgol, neu i aros dros nos i ffwrdd o gartref y rhieni maeth.

     5. Y trefniadau ar gyfer ymweliadau â'r plentyn, mewn cysylltiad â goruchwylio'r lleoliad, gan y person sydd wedi'i awdurdodi gan neu ar ran yr awdurdod cyfrifol a mynychder ymweliadau ac adolygiadau o dan Reoliadau Adolygu Achosion Plant 1991[
41].

     6. Y trefniadau i'r plentyn gael cysylltiad â'i rieni ac unrhyw bersonau penodedig eraill, a manylion unrhyw orchymyn llys ynghylch cysylltiadau.

     7. Bod y rhiant maeth yn cydymffurfio â thelerau'r cytundeb gofal maeth.

     8. Cydweithrediad y rhiant maeth â'r awdurdod cyfrifol ynghylch unrhyw drefniadau y mae'n eu gwneud ar gyfer y plentyn.



ATODLEN 7
Rheoliad 42(1)


Y MATERION SYDD I'W MONITRO GAN Y PERSON COFRESTREDIG


     1. Cydymffurfedd, mewn perthynas â phob plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth, â'r cytundeb lleoliad maeth a chynllun yr awdurdod cyfrifol ar gyfer gofalu am y plentyn.

     2. Pob damwain, niwed ac afiechyd plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth.

     3. Cwynion mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya gyda rhieni maeth a'u canlyniadau.

     4. Unrhyw honiadau neu amheuon o gam-driniaeth mewn perthynas â'r plant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth a canlyniad unrhyw ymchwiliad.

     5. Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd.

     6. Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 8.

     7. Unrhyw absenoldeb diawdurdod o gartref maeth gan blentyn sy'n cael ei letya yNo.

     8. Defnyddio unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya mewn cartref maeth.

     9. Y feddyginiaeth, y driniaeth feddygol a'r cymorth cyntaf a roddwyd i unrhyw blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth.

     10. Os yw'n gymwys, safon unrhyw ddarpariaeth addysgol sy'n cael ei darparu gan y gwasanaeth faethu.

     11. Cofnodion o asesiadau.

     12. Cofnodion o gyfarfodydd y panel maethu.

     13. Rosteri dyletswydd personau sy'n gweithio i'r asiantaeth faethu, fel y'u trefnwyd ac fel y'u gweithredwyd mewn gwirionedd.

     14. Cofnodion o werthusiadau staff.

     17. Cofnodion o gyfarfodydd staff.



ATODLEN 8
Rheoliad 43(1)


DIGWYDDIADAU A HYSBYSIADAU


Colofn 1 Colofn 2                    
Digwyddiad I'w hysbysu:                    
     I swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol I'r awdurdod (lleoli) cyfrifol I'r awdurdod ardal I'r Bwrdd Iechyd Lleol y mae'r plentyn i'w leoli yn ei ardal I'r heddlu
Marwolaeth plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth Ie Ie Ie Ie     
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio i wasanaeth maethu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999[42] Ie Ie               
Afiechyd difrifol neu ddamwain ddifrifol plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth Ie Ie               
Brigiad unrhyw glefyd heintus yng nghartref rhiant maeth, a hwnnw'n glefyd sy'n ddigon difrifol ym marn ymarferydd meddygol cofrestredig i gael ei hysbysu felly Ie Ie      Ie     
Honiad bod plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni tramgwydd difrifol      Ie           Ie
Bod plentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth yn ymwneud â phuteindra neu amheuon ei fod yn ymwneud â hynny Ie Ie Ie      Ie
Digwyddiad difrifol mewn perthynas â phlentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth ac a oedd yn golygu bod rhaid galw'r heddlu i gartref y rhieni maeth Ie Ie               
Dianc gan blentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth      Ie               
Unrhyw gwcirc yn ddifrifol ynghylch unrhyw riant maeth a gymeradwywyd gan y darparydd gwasanaeth maethu Ie Ie               
Cychwyn unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn sydd wedi'i leoli gyda rhieni maeth a chanlyniad yr ymholiad hwnnw Ie Ie Ie          



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hyn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Plant 1989 ("Deddf 1989") a Deddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000") ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. Maent - 

Yn ôl adran 4(4) o Ddeddf 2000, ystyr "fostering agency" ("asiantaeth faethu") yw naill ai ymgymeriad sy'n cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol mewn cysylltiad â lleoli plant gyda rhieni maeth (a elwir "asiantaeth faethu annibynnol" yn y Rheoliadau hyn), neu gorff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o'r Ddeddf Plant (asiantaeth o fewn ystyr "agency" yn adran 4(4)(b)). Caniateir i asiantaeth faethu annibynnol gael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, ond nid oes angen iddi gael ei rhedeg felly, ac os yw'n cael ei rhedeg gan gorff gwirfoddol, gall fod weithiau yn asiantaeth hefyd o fewn ystyr "agency" yn adran 4(4)(b).

Mae Rhan II o Ddeddf 2000 yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") yn cofrestru ac yn arolygu sefydliadau ac asiantaethau, gan gynnwys asiantaethau maethu. Mae Rhan III o Ddeddf 2000 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn arolygu swyddogaethau maethu awdurdodau lleol. Caiff Rhannau II a III o Ddeddf 2000 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) eu dwyn i rym mewn perthynas ag asiantaethau maethu a gwasnaethau maethu awdurdodau lleol ar 1 Ebrill 2003.

Diben y Rheoliadau hyn yw sefydlu, i'r graddau y mae hynny'n bosibl, fframwaith cyffredin ar gyfer gwasanaethau maethu, p'un ai ydynt yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol, neu asiantaethau maethu annibynnol yn gweithredu o dan drefniadau dirprwyo ("gwasanaethau maethu").

Yn ôl rheoliad 3, rhaid bod gan bob gwasanaeth maethu ddatganiad o ddiben sy'n disgrifio nodau ac amcanion y gwasanaeth a'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, ac arweiniad plant. Rhaid i'r gwasanaeth maethu gael ei redeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae Rheoliadau 5 i 10 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r personau sy'n rhedeg ac yn rheoli'r gwasanaeth maethu, ac yn ei gwneud yn ofynnol i reolwr gael ei benodi ar gyfer y gwasanaeth (rheoliadau 6 a 10). Darperir ar gyfer ffitrwydd darparydd asiantaeth faethu a rheolwr asiantaeth faethu yn benodol drwy gyfeirio yn arbennig at y materion a ragnodir yn Atodlen 1. Os corff yw'r darparydd asiantaeth faethu, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid iddo fodloni'r gofynion ynglyn â ffitrwydd. Mae Rheoliad 8 yn gosod gofynion cyffredinol ynglyn â'r ffordd briodol o redeg gwasanaeth maethu, ac ynglyn â hyfforddi.

Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch rhedeg gwasanaeth maethu, ac yn benodol ynghylch amddiffyn plant, ymddygiad, cysylltiadau, iechyd ac addysg, a chymorth i rieni maeth. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynglyn â staffio gwasanethau maethu, ffitrwydd gweithwyr a thir ac adeiladau, a chadw cofnodion. Darperir hefyd ynglyn â hybu lles plant gan asiantaethau maethu annibynnol, ac ynglyn â chwynion am yr asiantaethau hynny (rheoliadau 11 a 18).

Mae Rhan IV yn ymdrin â chymeradwyo rhieni maeth gan wasanaethau maethu. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i banel maethu gael ei sefydlu ar gyfer pob gwasanaeth maethu (rheoliadau 24 i 26). Mae rheoliad 27 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer asesu personau sy'n dymuno dod yn rhieni maeth, ac yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r amgylchiadau pan na chaiff personau eu hystyried yn addas i weithredu fel rhieni maeth. Mae rheoliadau 28 a 29 yn darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth, adolygu eu cymeradwyaeth a'i therfynu. Mae rheoliadau 30 i 32 yn darparu bod cofnodion a chofrestr yn cael eu cadw.

Mae Rhan V yn ymdrin â lleoli plant gyda rhieni maeth gan awdurdodau lleol a chyrff gwirfoddol ("awdurdodau cyfrifol"). Mae rheoliadau 33 i 36 yn gosod gofynion cyffredinol ar awdurdodau cyfrifol ynglyn â gwneud, goruchwylio a therfynu lleoliadau, ac mae rheoliadau 37 a 38 yn gwneud darpariaeth benodol am leoliadau byr-dymor, a lleoliadau brys a di-oed gan awdurdodau lleol. Mae perthnasoedd rhwng awdurdod lleol ac asiantaeth faethu annibynnol yn cael eu rheoli gan reoliad 40.

Mae Rhan VI (rheoliad 41) yn darparu bod ymweliadau yn cael eu gwneud gan un o swyddogion yr awdurdod lleol â phlant sydd wedi'u lleoli gyda rhieni maeth gan gyrff gwirfoddol (adran 62 o Ddeddf 1989).

Mae Rhan VII yn gwneud darpariaeth amrywiol ynglyn ag asiantaethau maethu. Mae'n ofynnol i'r person cofrestredig fonitro'r materion a nodir yn Atodlen 7 ynghylch ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu (rheoliad 42), ac i hysbysu'r personau a grybwyllir yn Atodlen 8 o'r digwyddiadau a restrir yn yr Atodlen honno (rheoliad 43). Mae rheoliad 44 yn gosod gofynion ynglyn â sefyllfa ariannol yr asiantaeth. Mae rheoliadau 45 i 47 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol a phenodi datodwyr.

Mae rheoliad 48 yn darparu ar gyfer tramgwyddau mewn perthynas ag asiantaethau maethu.

Mae rheoliadau 50 a 51 yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i'r darpariaethau mewn rheoliadau ynglyn â gofynion cofrestru a thalu ffioedd yn yr un modd â sefydliadau ac asiantaethau eraill sy'n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2000.

Mae rheoliad 52 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Pan fyddant yn dod i rym, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau maethu awdurdodau lleol. Yn ôl rheoliad 52(1) a (2) byddant yn gymwys hefyd i gorff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59 o Ddeddf 1989, sydd wedi gwneud cais yn briodol i'r Cynulliad Cenedlaethol am gael ei gofrestru fel asiantaeth faethu erbyn 1 Ebrill 2003. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i asiantaeth faethu annibynnol tan iddi gael ei chofrestru, ond mae is-baragraffau (3) i (5) o'r rheoliad hwn yn caniatáu i awdurdod lleol ddirprwyo dyletswyddau penodol i asiantaeth faethu annibynnol sydd wedi gwneud cais am gael ei chofrestru i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 1 Ebrill 2003. Mewn achosion pendodol mae rheoliad 52(7) yn datgymhwyso rheoliad 20(5) (sy'n cyfyngu'r amgylchiadau pan ganiateir i berson sydd wedi'i gymeradwyo fel rhiant maeth gan asiantaeth faethu gael ei gyflogi hefyd i weithio at ddibenion y gwasanaeth).


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, sydd wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) o'r Ddeddf Safonau Gofal, mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae "prescribed" a "regulations" wedi'u diffinio yn adran 121(1) o'r Ddeddf honNo. back

[2] 1989 p.41. Caiff swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 eu gwneud yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys Deddf 1989 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672 (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).back

[3] Gweler adran 22(9) o Ddeddf 2000 am y gofyniad i ymghynghori.back

[4] O dan adran 121(4) o Ddeddf 2000 y corff gwirfoddol ei hun yw'r person sy'n rhedeg asiantaeth faethu sy'n dod o fewn ystyr "fostering agency" yn adran 4(4)(b) o'r Ddeddf honno (corff gwirfoddol sy'n lleoli plant gyda rhieni maeth o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989).back

[5] 1977 p.49.back

[6] 1997 p.46.back

[7] Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 (O.S. 1991/894, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1991/2033, O.S. 1993/3069, ac O.S. 2001/2874) yw'r Rheoliadau cyfredol.back

[8] Fel y'i sefydlwyd o dan Ran V o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back

[9] Mae dyletswyddau tebyg eisoes yn gymwys i asiantaeth faethu o fewn ystyr "fostering agency" yn adran 4(4)(b) o Ddeddf 2000 yn rhinwedd adran 61 o Ddeddf Plant 1989, ac i awdurdod lleol yn rhinwedd adran 22 o'r Ddeddf Plant.back

[10] Darperir ar gyfer sylwadau, gan gynnwys cwynion, am gyflawni swyddogaethau awdurdod lleol o dan Ran III o Ddeddf 1989 ac am ddarparu llety gan gorff gwirfoddol i unrhyw blentyn nad yw'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, o dan adrannau 26(3) i (8), a 59(4) o Ddeddf 1989, a Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 (O.S. 1991/894, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1991/2033, O.S. 1993/3069 ac O.S. 2001/2874).back

[11] Gweler y troednodyn ar gyfer rheoliad 18(1).back

[12] 1979 p.2.back

[13] 1876 p.36.back

[14] 2000 p.43.back

[15] 1956 p.69.back

[16] Mae "British Islands" wedi'i ddiffinio yn Neddf Dehongli 1978 (p.30) i olygu'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.back

[17] O.S.2002/919 (Cy.107).back

[18] O.S 2003/237 (Cy.35).back

[19] O.S. 2002/921 (Cy.109).back

[20] Gweler Adran 121(4) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back

[21] O.S. 2002/920 (W.108)(C.24)back

[22] O.S. 1991 Rhif 910.back

[23] O.S. 1995 Rhif 2015.back

[24] O.S. 1997 Rhif 2308.back

[25] O.S. 2001 Rhif 3443 (Cy. 278).back

[26] 1998 p.38.back

[27] 1997 p.50. Mewnosodir adran 115(5)(ea) gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104 ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.back

[28] Mae swydd yn dod o fewn adran 115(3) os yw'n cynnwys gofalu am bersonau o dan 18 oed, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod yn gyfrifol amdanynt ar eich pen eich hun yn rheoliadd.back

[29] Ychwanegir adrannau 113(3A) a 115(6A) at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14) ar ddyddiad sydd i'w bennu, a'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.back

[30] Darperir ar gyfer cofrestru ar gyfer gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd o dan Ran XA o Ddeddf 1989 mewn perthynas â Chymru a Lloegr a Rhan X o'r Ddeddf honno mewn perthynas â'r Alban.back

[31] Gweler y troednoaidau i baragraff 2 o Atodlen 1.back

[32] 1995 p.46.back

[33] 1995 p.39.back

[34] 1982 p.45. Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33).back

[35] 2000 p.44.back

[36] 1968 p.34 (G.I.).back

[37] 1885 p.69.back

[38] O.S. 1978/1047 (G.I.17).back

[39] O.S. 1980/704 (G.I.6).back

[40] O.S. 1988/1847 (G.I.17).back

[41] O.S. 1991 Rhif 895 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991 Rhif 2033, O.S. 1993 Rhif 3069, O.S. 1995 Rhif 2015, ac O.S. 1997 Rhif 649.back

[42] 1999 p.14.back



English version



ISBN 0 11090654 3


 
© Crown copyright 2003
Prepared 5 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030237w.html