BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 Rhif 239 (Cy.36)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030239w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 239 (Cy.36)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 28 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 29 Ionawr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160(4) a 160(3) a (5) a 215(2) o Ddeddf Tai 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 29 Ionawr 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Achosion pan na fydd darpariaethau Rhan VI o'r Ddeddf yn gymwys
     3. Nid yw darpariaethau Rhan VI o'r Ddeddf am ddyrannu llety tai yn gymwys yn yr achosion a ganlyn - 

Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys
     4. Dyma'r dosbarthiadau o bobl sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac a ragnodwyd at ddibenion adran 160A(3) o'r Ddeddf (personau a ragnodwyd fel rhai cymwys i ddyraniad o lety tai gan awdurdod tai lleol) - 

Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(5) nad ydynt yn bersonau cymwys
     5. Dosbarth o bersonau, nad ydynt yn bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, ac a ragnodwyd at ddibenion adran 160A(5) o'r Ddeddf (personau a ragnodwyd yn anghymwys i gael dyraniad llety tai) yw'r canlynol - 

Dosbarth D-person nad yw fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin heblaw - 

Dirymu
     6. Dirymwyd Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000[15]).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16].


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Ionawr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000 ac yn eu hailddeddfu gyda newidiadau er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau i Ran VI o Ddeddf Tai 1996 ("Rhan VI") a wnaethpwyd gan Ddeddf Digartrefedd 2002. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer achosion pan na fydd darpariaethau Rhan VI ynghylch dyrannu llety tai gan awdurodau tai lleol yn gymwys.

Yn rhinwedd Adran 160A(1) a (3) o Ddeddf Tai 1996, rhaid i awdurdod tai lleol beidio â dyrannu llety tai i'r rhan fwyaf o ddosbarthiadau o bobl o dramor sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p.49)). Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru bennu eithriadau. Mae'n gwneud felly, yn rheoliad 4, drwy ragnodi dosbarthiadau o bobl sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai, er gwaethaf iddynt fod yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

Mae pobl o dramor nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys i ddyraniad o lety tai o dan Ran VI o Ddeddf 1996, oni bai i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi fel arall. (Adran 160A(5) o Ddeddf 1996). Drwy ragnodi dosbarth o bobl sy'n anghymwys o dan Ran VI mae'r Cynulliad yn gwneud hyn yn rheoliad 5. Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys (gyda rhai eithriadau) pobl nad ydynt fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin. Ystyr ('Ardal Deithio Gyffredin' yw'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon).

Mae rheoliad 6 yn dirymu Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000.

Mae'r Rheoliadau hyn, gyda mân newidiadau drafftio, yn cynnwys darpariaethau tebyg i'r rheini sydd yn Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000. Mae'r Rheoliadau nas ailddeddfwyd yn ymwneud â'r cyfyngiadau ar y dyrannu i bobl sydd eisoes yn denantiaid ac â'r gofynion i sefydlu, cynnal a gweithredu cofrestr dai, ac a ddiddymwyd bellach.

Mae Papurau Gorchymyn 2643, 3906, 9171 a 9512, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn, allan o brint, ond gall y Llyfrfa gael llungopïau o'r dogfennau hyn o Is-adran Llyfrgell Fenthyca Prydain (BLLD). Oni bai fod cwsmeriaid eisoes wedi cofrestru â'r BLLD, dylent archebu llungopïau oddi wrth The Photocopying Unit, The Stationery Office, Nine Elms Lane, Llundain SW8 5DR, gan amgáu'r taliad priodol am y copïau y gofynnir amdanynt. Cost gyfredol pob copi cyflawn o Bapur Gorchymyn 2643, 3906 neu 9512 yw £6.00 a chost gyfredol pob copi cyflawn o Bapur Gorchymyn 9171 yw £12.00. Dylid gwneud sieciau yn daladwy i "Y Llyfrfa".


Notes:

[1] 1996 p.52; ychwanegwyd adran 160 gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd (2002) (p.7); gweler adran 215(1) am y diffiniad o "prescribed". Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 160, 160A, 172(4) a 215(2), i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672, (y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn)) ac adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002.;back

[2] 1971 p.77.back

[3] 1973 p.26; diwygiwyd adran 39 gan Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Iawndal Tir (Yr Alban) 1973 (p.56), paragraff 40 o Atodlen 13 i Ddeddf Tai 1974 (p.44), paragraff 10 o Atodlen 7 i Ddeddf Datblygu Cymru Wledig 1976 (p.75), Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p.71) a pharagraff 24 o Atodlen 2 iddi, Rhan 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), a pharagraff 29 of Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p.11).back

[4] 1985 p.68; diwygiwyd adran 554(61) gan baragraff 61 o Atodlen 17 i Ddeddf Tai 1988 (p.50) ac O.S.1996/2325.back

[5] Gorch.9171.back

[6] Gorch.3906.back

[7] Gorch.9512.back

[8] Gorch.2643.back

[9] 1985 p.68. Nid yw diddymiad Rhan III, a ddechreuwyd gan Orchymyn Deddf Tai 1996 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (O.S. 1996/2959 (C.88)), yn rhinwedd paragraff 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw, yn gymwys i ymgeiswyr o dan Ran III o'r Ddeddf honno ac a wnaeth geisiadau cyn 20 Ionawr 1997.back

[10] OJ Rhif L 257 19.10.68, t. 2, Argraffiad Arbennig 1968 (II) t.475, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[11] OJ Rhif L 142 30.6.70, t.24 Argraffiad Arbennig 1970 (II) t.402.back

[12] O.S. 2000/2326.back

[13] OJ Rhif L 257 19.10.68, t. 13, Argraffiad Arbennig 1968 (II) t.485, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[14] OJ Rhif L 172 28.6.73, t.14.back

[15] O.S. 2000/1080 (Cy.73).back

[16] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090649 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 18 February 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030239w.html