BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003 Rhif 326 (Cy.47)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030326w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 326 (Cy.47)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 17 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 19 Chwefror 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, drwy arfer ar y cyd y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 17(1), 23, 25, 32(2), 34(7), 35(1) a (3), 36(2) a (5), 83(2) a 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003 a daw i rym ar 19 Chwefror 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

Estyn y diffiniad o "glefyd"
    
3. Wrth gymhwyso Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i'r Gorchymyn hwn, estynnir y diffiniad o "glefyd" yn adran 88(1) o'r Ddeddf honno i gynnwys y tafod glas.

Esemptio gweithgareddau a awdurdodir o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998
    
4. Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i unrhyw beth a awdurdodwyd gan drwydded a ddyroddwyd o dan erthygl 4 o Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998 mewn perthynas â'r clefyd.[2]

Brechu yn erbyn y clefyd
     5. Gwaherddir brechu anifail yn erbyn y clefyd ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gofynion cychwynnol lle gwyddys neu lle yr amheuir bod y clefyd yn bodoli
    
6.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n gwybod neu'n amau bod unrhyw anifail neu garcas yn ei feddiant, o dan ei ofal neu sy'n cael ei archwilio neu ei arolygu ganddo a'r clefyd arno  - 

    (2) Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi samplau a gymerwyd o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n dod o hyd i dystiolaeth o wrthgyrff neu antigenau i'r clefyd neu i unrhyw frechlyn ar gyfer y clefyd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith.

Ynysu anifeiliaid
    
7. Rhaid i feddiannydd unrhyw dir ac adeiladau neu unrhyw geidwad sy'n gwybod neu'n amau bod y clefyd gan unrhyw anifail neu garcas yn ei feddiant neu yn ei ofal, pan fydd hyn yn ymarferol, sicrhau bod yr holl anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau yn cael eu cadw i mewn.

Hysbysiadau gan arolygwyr
    
8.  - (1) Os bydd arolygydd yn gwybod neu'n amau bod y clefyd yn bodoli ar unrhyw dir ac mewn unrhyw adeiladau, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ar unwaith i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau sy'n ei gwneud yn ofynnol - 

    (2) Caiff arolygydd drwy unrhyw hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1),  - 

    (3) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol hefyd gyflwyno hysbysiad o'r fath i feddiannydd tir ac adeiladau sydd oherwydd ei leoliad, sefyllfa ddaearyddol neu gysylltiadau â thir ac adeiladau lle gwyddys neu yr amheuir bod y clefyd yno (yng Nghymru neu yn rhywle arall) sy'n rhoi sail dros amau fod y clefyd yno, bod y lle'n agored iddo neu fod presenoldeb fectorau yno.

    (4) Gellir cyflwyno hysbysiadau o dan baragraffau (1) a (2) os cafodd hysbysiadau eu rhoi o dan erthygl 6 neu beidio.

Pwerau arolygwyr a swyddogion milfeddygol
    
9.  - (1) Pan fydd arolygydd milfeddygol yn arfer pwerau mynediad o dan y Ddeddf i unrhyw ran o'r tir a'r adeiladau y cyflwynwyd hysbysiad mewn perthynas â hwy o dan erthygl 8, caiff - 

    (2) Caiff swyddog a awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, sydd yn mynd i unrhyw ran o dir ac adeiladau y cyflwynwyd hysbysiad o dan erthygl 8, naill ai y mae arolygydd milfeddygol yn mynd ag ef yn unol ag erthygl 16(c) neu gyda chaniatâd y meddiannydd  - 

    (3) Caiff arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad ysgrifenedig, a gyflwynir i feddiannydd tir ac adeiladau neu i geidwad unrhyw anifeiliaid ar y tir ac yn yr adeiladau - 

Mesurau pan gaiff y clefyd ei gadarnhau
    
10.  - (1) Wrth gadarnhau'r clefyd, rhaid i arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd pob daliad neu i geidwaid yr anifeiliaid ar y daliadau hynny o fewn  - 

    (2) Rhaid i'r hysbysiad hwnnw ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gydymffurfio â'r gofynion a nodir yn erthygl 8(1) a chaiff osod gofynion yn unol ag erthygl 9(3) ac ag unrhyw ofynion eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol.

    (3) Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad sydd ag effaith yn unol â'r erthygl hon ar unrhyw dir ac adeiladau nad ydynt yn ddaliadau.

    (4) Yn achos hysbysiad cyffredinol a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (1) neu baragraff (3), rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath nodi'r ardal y mae'n gymwys iddo, ac mae'n gymwys i bob daliad neu dir ac adeiladau (yn ôl y digwydd) sydd yn gyfan neu yn rhannol o fewn yr ardal a hysbyswyd.

Cyfyngiadau mewn ardaloedd heintiedig
    
11.  - (1) Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan drwy Orchymyn bod ardal yn ardal heintiedig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddi, bydd darpariaethau canlynol yn yr erthygl hon ac erthygl 12 yn gymwys i'r ardal honno ac eithrio os bydd y Gorchymyn hwnnw yn amrywio neu yn eithrio'n fwriadol.

    (2) Bernir y bydd unrhyw dir ac adeiladau sy'n rhannol o fewn ardal heintiedig yn gyfan o fewn yr ardal honno.

    (3) Ac eithrio os awdurdodir gan drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd yn unol â chyngor y Prif Swyddog Milfeddygol, gwaherddir  - 

Pwerau arolygwyr a swyddogion mewn ardal heintiedig
    
12.  - (1) Pan ddatgenir bod ardal yn heintiedig bydd gan arolygwyr a swyddogion milfeddygol a awdurdodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr un pwerau ag a bennir yn erthygl 9, mewn perthynas â thir ac adeiladau o fewn yr ardal heintiedig, ag sydd ganddynt mewn perthynas â thir ac adeiladau y cyflwynwyd hysbysiad iddynt o dan erthygl 8.

    (2) Caiff arolygydd milfeddygol hefyd  - 

Cigydda anifeiliaid
    
13. Cyfarwyddir bod adran 32 o'r Ddeddf (sy'n ymwneud â chigydda ac iawndal) yn gymwys i'r tafod glas.

Tramgwyddau
    
14. Mae unrhyw berson sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon, ac arno ef y mae'r prawf ohono  - 

yn cyflawni tramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Pwerau arolygwyr os bydd methiant
    
15.  - (1) Os bydd person y cyflwynir hysbysiad iddo o dan y Gorchymyn hwn yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion yr hysbysiad hwnnw neu unrhyw ofynion eraill a osodwyd yn rhesymol gan arolygydd, caiff arolygydd, heb ragfarn i unrhyw achosion o dramgwydd sy'n deillio o'r diffyg hwnnw, gymryd y camau hynny a all fod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofynion hynny'n cael eu bodloni.

    (2) Gellir adfer swm unrhyw dreuliau a dynnir yn rhesymol gan arolygydd o dan baragraff (1) ar archiad fel dyled sifil gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu gan yr awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, oddi wrth y person sydd mewn diffyg.

Pwerau cyffredinol arolygwyr
    
16.  - (1) Caiff arolygydd neu swyddog yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n mynd i'r tir ac adeiladau o dan y Gorchymyn hwn fynd â'r canlynol gydag ef

    (2) Ni fydd unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan y Gorchymyn hwn yn gymwys os cyflwynir caniatâd gan arolygydd milfeddygol.

    (3) Wrth benderfynu a yw am gyflwyno caniatâd o dan baragraff (2), rhaid i arolygydd milfeddygol weithredu yn unol â chyfarwyddiadau yr Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Trwyddedau, hysbysiadau a chyfarwyddiadau
    
17.  - (1) Rhaid i unrhyw drwydded, hysbysiad, gyfarwyddyd neu ganiatâd o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd.

    (2) Rhaid cyflwyno hysbysiad diwygio, atal, neu ddirymu trwydded, hysbysiad, cyfarwyddyd neu ganiatâd o dan y Gorchymyn hwn,  - 

Gorfodi
    
18. Yr awdurdod lleol sy'n gweithredu a gorfodi'r Gorchymyn hwn ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall.

Dirymu
    
19. Dirymir Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992 [3] a Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 [4] i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â'r tafod glas.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D.Elis-Thomas
Y Llywydd

17 Chwefror 2003


E.A. Morley
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
15 Chwefror 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer rheoli a difodi clefyd y tafod glas (OJ Rhif 327, 22.12.2000, t.74). Mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Mae erthyglau 1, 2 a 3 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys diffiniadau o dermau penodol a ddefnyddir yn y Gorchymyn. Mae erthygl 4 yn darparu nad yw gweithgareddau penodol a awdurdodwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998 (O.S. 1998/463) yn dod o dan y Gorchymyn. Mae erthygl 5 yn gwahardd brechu didrwydded rhag y clefyd.

Mae erthyglau 6 i 9 yn ymwneud â mesurau pan wyddys neu pan amheuir bod y tafod glas ar dir ac mewn adeiladau. Mae erthyglau 6 a 7 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiadau i'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ac ar gyfer ynysu anifeiliaid pan wyddys neu pan amheuir bod y clefyd yn bod. Mae erthygl 8 yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau gan arolygwyr sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â chyfyngiadau penodol. Nodir pwerau cyffredinol arolygwyr yn adrannau 63 a 64A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Mae erthygl 9 yn pennu pwerau arolygwyr milfeddygol, swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni tasgau penodol ar dir ac mewn adeiladau ar ôl arfer pwerau mynediad.

Mae erthyglau 10 i 13 yn ymwneud â mesurau pan fydd brigiad o'r tafod glas wedi'i gadarnhau. Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau. Mae erthyglau 11 a 12 yn nodi'r cyfyngiadau sy'n gymwys mewn ardaloedd y datgenir eu bod yn ardaloedd heintiedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Mae Erthygl 13 yn cymhwyso darpariaethau yn y Ddeddf honno ac sy'n ymwneud â chigydda anifeiliaid. Mae erthygl 14 yn nodi dyletswyddau cyffredinol meddianwyr a cheidwaid o dan y Gorchymyn. Mae erthygl 15 yn nodi pwerau archwilwyr pan na chydymffurfir â gofynion mewn hysbysiadau. Mae erthygl 16 yn nodi eu pwerau cyffredinol. Pennir gofynion cyffredinol mewn perthynas â thrwyddedau, hysbysiadau a chyfarwyddiadau yn erthygl 17. Mae erthygl 18 yn darparu y bydd y Gorchymyn yn cael ei weithredu a'i orfodi gan yr awdurdod lleol. Mae erthygl 19 yn dirymu Gorchymyn Clefydau Arbennig (Hysbysu a Chigydda) 1992 (O.S. 1992/3159) a Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (O.S. 1996/2628) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r tafod glas.

Tramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yw methu â chydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.

Paratowyd a chyhoeddwyd Arfarniad Rheoliadol ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru
(www.cymru.gov.uk). Mae copïau ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p.22.back

[2] O.S. 1998/463.back

[3] O.S. 1992/3159.back

[4] O.S. 1996/2628.back



English version



ISBN 0 11090651 9


 
© Crown copyright 2003
Prepared 26 February 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030326w.html