BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003 Rhif 399 (Cy.56)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030399w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 399 (Cy.56)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 26 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 28 Chwefror 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8(1), 17(1), 23, 83(2), 87(2) a (5) ac 88(2) a (4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol - 

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003, daw i rym ar 28 Chwefror 2003 ac mae'n gymwys i Gymru.

Estyn y diffiniad o "animals" a "disease"
    
2. At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn  - 

Dehongli a chymhwyso
    
3.  - (1) Yn y Gorchymyn hwn  - 

    (2) Pan ellid arfer pwcircer a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn o dan ddarpariaethau unrhyw Orchymyn arall, caniateir i'r pwcircer o dan y Gorchymyn hwn gael ei arfer yn ychwanegol at y pwcircer yn y Gorchymyn arall, neu yn ei le.

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid mewn achosion clefyd neu glefyd a amheuir
     4.  - (1) Os bydd arolygydd milfeddygol yn amau bod clefyd yn bodoli ar unrhyw safle neu gyfrwng cludo, caniateir iddo gyflwyno i'r person y mae'r safle neu'r cyfrwng cludo o dan ei ofal hysbysiad yn gwahardd symud unrhyw anifail, carcas neu unrhyw beth arall i'r safle neu'r cyfrwng cludo hwnnw neu oddi arno, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.

    (2) Caiff hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1) gynnwys unrhyw gyfyngiadau neu ofynion eraill mewn perthynas â'r safle neu'r cyfrwng cludo neu mewn perthynas â phersonau, anifeiliaid, carcasau neu bethau eraill ar y safle neu'r cyfrwng cludo y mae'r arolygydd milfeddygol yn barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal clefyd rhag ymledu.

    (3) Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i hysbysiad a ddyroddir o dan yr erthygl hon i'r graddau y mae'n gymwys i anifail, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd i awdurdod lleol, gipio neu gadw'r anifail hwnnw a chaiff ei waredu yn y modd y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol i atal y clefyd rhag ymledu.

    (4) Bydd unrhyw dreuliau a dynnir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r arolygydd wrth arfer y pwerau o dan baragraff (3) yn adferadwy fel dyled sifil gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol oddi wrth y person sy'n methu â chydymffurfio.

Datgan ardal heintiedig
    
5.  - (1) Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn amau bod clefyd yn bodoli mewn unrhyw ardal, caiff wneud Gorchymyn yn datgan bod yr ardal honno yn ardal heintiedig y mae darpariaethau erthygl 6 yn gymwys iddi.

    (2) Rhaid i Orchymyn o dan baragraff (1) bennu  - 

    (3) Bernir bod unrhyw safle y mae rhan ohono y tu mewn a rhan ohono y tu allan i'r ardal heintiedig yn gyfan gwbl y tu mewn i'r ardal honno.

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid o fewn ardal heintiedig ac allan ohoni
    
6.  - (1) Mae symud anifail, y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo, gan unrhyw berson allan o ardal sydd wedi'i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei wahardd, ac eithrio  - 

    (2) Mae symud anifail, y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo, gan unrhyw berson oddi ar unrhyw safle mewn ardal sydd wedi'i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei wahardd, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Ymchwiliad milfeddygol i fodolaeth clefyd
    
7.  - (1) Os yw'r Ysgrifennydd Gwladol, am unrhyw reswm, yn credu ei bod yn angenrheidiol cadarnhau a oes clefyd yn bodoli ar unrhyw safle neu gyfrwng cludo, caiff arolygydd milfeddygol wneud unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion a chymryd unrhyw samplau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol.

    (2) Caiff arolygydd milfeddygol farcio at ddibenion adnabod unrhyw anifail, carcas neu beth arall y mae unrhyw un o'r pwerau o dan baragraff (1) wedi'u harfer mewn perthynas ag ef neu beri iddynt gael eu marcio felly.

    (3) Gwaherddir difwyno, dileu neu waredu unrhyw farc a ddodwyd o dan baragraff (2).

    (4) Rhaid i'r person y mae'r safle neu'r cyfrwng cludo o dan ei ofal neu unrhyw berson y mae'n ei gyflogi roi unrhyw gymorth rhesymol y mae ar yr arolygydd milfeddygol ei angen er mwyn ei gwneud yn haws i'r arolygydd arfer ei bwerau o dan baragraff (1) neu (2).

Cyfyngu ar symud anifeiliaid er mwyn canfod a oes clefyd yn bresennol
    
8. Pan fydd arolygydd milfeddygol wrthi'n gwneud ymchwiliad o dan erthygl 7  - 

Glanhau a diheintio
    
9. Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno i'r person y mae unrhyw safle neu gyfrwng cludo o dan ei ofal ac y mae hysbysiad o dan erthygl 4 wedi'i roi mewn perthynas ag ef, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lanhau neu ddiheintio'r safle neu'r cyfrwng cludo hwnnw yn unol â gofynion yr hysbysiad hwnnw.

Darpariaethau cyffredinol ynglycircn â hysbysiadau a thrwyddedau
    
10.  - (1) Rhaid i bob trwydded a hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, gallant fod yn ddarostyngedig i amodau ac fe gaiff arolygydd milfeddygol eu hamrywio, eu hatal neu eu dirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

    (2) Rhaid i drwydded sy'n cael ei dyroddi o dan y Gorchymyn hwn fynd gyda pha beth bynnag sy'n cael ei symud o dan ei hawdurdod ac os gofynnir iddo wneud hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu gan arolygydd i'r awdurdod lleol neu gan gwnstabl, rhaid i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan awdurdod trwydded o'r fath  - 

Pwerau cyffredinol
    
11.  - (1) Os yw unrhyw berson yn symud unrhyw anifail neu beth yn groes i drwydded neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi yn sgil y ffaith bod y person hwnnw wedi mynd mynd yn groes i'r drwydded neu'r hysbysiad, gyflwyno i'r person y mae'r anifail neu'r peth hwnnw o dan ei ofal hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei symud yn unol â gofynion yr hysbysiad.

    (2) Os yw unrhyw berson y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo o dan erthygl 9 yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd i'r awdurdod lleol, heb ragfarnu unrhyw achos sy'n codi yn sgil methiant o'r fath, wneud y gwaith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad, neu beri iddo gael ei wneud.

    (3) Mae unrhyw dreuliau sy'n cael eu tynnu yn rhesymol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd i'r awdurdod lleol wrth arfer y pwerau o dan baragraffau (1) neu (2) yn adferadwy fel dyled sifil gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol, oddi wrth y person sy'n methu â chydymffurfio.

Yr awdurdod lleol i orfodi'r Gorchymyn
    
12. Ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn gael eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Dirymu
    
13. Mae'r Gorchmynion canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D.Elis-Thomas
Llywydd

25 Chwefor 2003


E.A. Morley
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion
26 Chwefror 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn dirymu ac yn ailwneud darpariaethau Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Canfod Clefyd) 1985 (O.S.1985/1765) a Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) 1990 (O.S. 1990/1251).

Y prif newidiadau y mae'r Gorchymyn hwn yn deddfu ynglycircn â hwy yw  - 

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999, O.S. 1999/3141. Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 1994/1519.back

[3] O.S. 1985/1765.back

[4] O.S. 1990/760 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1251.back



English version



ISBN 0 11090659 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 6 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030399w.html