BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 414 (Cy.59)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030414w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 414 (Cy.59)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 28 Chwefror 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[3]:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993[4]).

Diwygio'r prif Reoliadau
     3.  - (1) Diwygir y prif Reoliadau fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd "Transitional Arrangements" rhodder y canlynol  - 

    (3) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd "Rural Rate Relief" rhodder y canlynol  - 

    (4) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd "Trefniadau trosiannol" rhodder y canlynol  - 

    (5) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn lle'r nodyn sy'n dwyn y pennawd "Rhyddhad Gwledig rhag Trethi" rhodder y canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Chwefror 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 yn darparu ynghylch cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi sy'n cael eu cyhoeddi gan awdurdodau bilio yng Nghymru a bod gwybodaeth yn yr iaith briodol yn cyd-fynd â'r hysbysiadau hynny.

Mae'r rheoliadau hyn, a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac sydd bellach yn arferadwy ganddo, yn diwygio'r wybodaeth esboniadol y mae'n rhaid i awdurdodau bilio yng Nghymru ei rhoi i adlewyrchu dileu'r trefniadau trosiannol a newidiadau i'r cynllun rhyddhad ardrethi gwledig.


Notes:

[1] 1988 p.41; diwygiwyd Atodlen 9, paragraff 2(2), gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), adrannau 139 a 194(4), Atodlen 5, paragraffau 1, 44(2), (3), (4), 79(3) ac Atodlen 12, Rhan II.back

[2] 1993 p.38.back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] O.S. 1993/252.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090658 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 6 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030414w.html