BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003 Rhif 483 (Cy.69)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030483w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 483 (Cy.69)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 3 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 4 Mawrth 2003 


TREFN YR ERTHYGLAU

1. Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben
2. Dehongli
3. Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid
4. Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dy
5. Grwpiau meddiannaeth unigol
6. Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau
7. Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr
8. Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan drwydded gyffredinol
9. Trwyddedau penodol
10. Trwyddedau cyffredinol
11. Copïau o drwyddedau
12. Cydymffurfio â thrwyddedau ac yn y blaen
13. Glanhau a diheintio
14. Newid meddiannaeth safleoedd
15. Gorfodi
16. Dirymu

  ATODLEN 1 Symud o safleoedd a ganateir yn ystod y cyfnod segur

  ATODLEN 2 Symud i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8(1) a 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben
     1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003; mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru, mae'n dod i rym ar 4 Mawrth a bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Awst 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid
     3.  - (1) Mae gwaharddiad ar symud anifail o unrhyw safle - 

    (2) Er gwaethaf paragraff (1), ceir symud anifeiliaid o'r safle yn ystod y cyfnod segur - 

    (3) Ni chaiff y cyfnod segur ei sbarduno gan symud anifail i safle os yw'r symud yn un a bennir yn Atodlen 2.

    (4) Nid yw'r gofyniad am drwydded ym mharagraff (1)(a) yn gymwys i unrhyw symud a awdurdodir gan drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro ) (Cymru) (Rhif 2) 2002[
3] (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).

    (5) Nid yw gofynion paragraff (1) yn gymwys i symud - 

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dy ac oddi yno
     4. Gwaherddir i unrhyw berson - 

Grwpiau meddiannaeth unigol
    
5. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi setiau o safleoedd i fod yn grwpiau meddiannaeth unigol os yw'r naill neu'r llall wedi'i fodloni bod y safleoedd yn gysylltiedig â'i gilydd o ran eu rheolaeth.

Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau
    
6.  - (1) Rhaid i unrhyw drwydded, caniatâd, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, yn ddarostyngedig i amodau, a gellir ei amrywio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd - 

    (2) Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2) mae'n rhaid i arolygydd neu arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr
    
7. Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.

Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan y drwydded gyffredinol
    
8.  - (1) Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi hysbysiad yn gwahardd - 

    (2) Ni chaiff hysbysiad ei gyhoeddi o dan baragraff (1) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn - 

    (3) Bydd hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) yn cael ei gyflwyno i feddiannydd pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ddull arall y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn tybio ei bod yn briodol dwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.

    (4) Caiff hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(b) ei gyflwyno i'r person a gaiff ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac ar feddiannydd unrhyw safle a enwir wrth ei enw yn yr hysbysiad.

    (5) Bydd hysbysiad yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Trwyddedau penodol
    
9.  - (1) O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol - 

    (2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded arbennig, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol hynny - 

    (3) Rhaid i bob anifail a symudir o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nas symudir o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny drwy gydol y symud.

    (4) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo - 

Trwyddedau cyffredinol
    
10. Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy'n symud yr anifeiliaid ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo - 

Copïau o drwyddedau
    
11. Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.

Cydymffurfio â thrwyddedau, ac yn y blaen.
    
12. Os bydd unrhyw berson yn methu cydymffurfio â thrwydded, caniatâd, awdurdodiad neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn caiff un o swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd, drefnu y cydymffurfir ag ef a hynny ar draul y person sy'n methu cydymffurfio.

Glanhau a diheintio
    
13.  - (1) Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 3(1)(a), caniatâd a ddyroddir o dan erthygl 3(2), neu awdurdodiad o dan erthygl 5, bennu gofynion o ran y gwaith o lanhau a diheintio unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddir ar gyfer symud anifeiliaid ac sy'n ychwanegol at ofynion Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003[6].

    (2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am symud anifeiliaid sicrhau, ac eithrio pan fo'r drwydded, yr awdurdodaeth neu'r caniatâd yn darparu fel arall, y cydymffurfir â'r gofynion sy'n berthnasol i'r gwaith o lanhau a diheintio a hynny cyn gynted â phosibl ar ôl dadlwytho'r anifeiliaid a, beth bynnag, cyn symud y cyfrwng cludo o'r safle y symudwyd yr anifeiliaid iddo.

    (3) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.

Newid meddiannaeth safleoedd
     14.  - (1) Os, pan fydd ei hawl meddiannaeth dros unrhyw safle yn dod i ben, bydd perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn methu ei symud o'r safle hwnnw oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano, mae'n rhaid i'r person sydd â'r hawl i feddiannu'r safle hwnnw - 

    (2) Bydd darpariaethau paragraff (1) yn dal i fod yn gymwys hyd nes bydd cyfnod o 7 diwrnod wedi mynd heibio ers y dyddiad y bydd unrhyw gyfyngiadau ar symud yr anifail o'r safle yn peidio â bod yn gymwys, ac mae perchennog yr anifail yn atebol am dalu i'r person sy'n darparu unrhyw gyfleusterau neu borthiant, sy'n tendio neu fel arall yn cadw'r anifeiliaid, yn unol â'r darpariaethau hynny, y symiau hynny, yn dâl ac yn ad-daliad o dreuliau, ag a allai fod yn gyfiawn ac yn rhesymol yn yr holl amgylchiadau.

Gorfodi
    
15. Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Dirymu
    
16. Dirymir y canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Mawrth 2003


Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

3 Mawrth 2003



ATODLEN 1
Erthygl 3(2)(a)


Symud o safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur


Symud anifeiliaid ar gyfer triniaeth filfeddygol.
     1.  - (1) Symud anifail i fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol.

    (2) Symud anifail o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol iddo ar yr amod nad yw'r anifail wedi dod i gysylltiad ag anifeiliaid eraill tra oedd yn y fan lle y rhoddir triniaeth.

    (3) Symud anifail i labordy lle y gwneir profion diagnostig arno i gadarnhau a effeithiwyd ar yr anifail gan glefyd neu a ydyw wedi dod i gyffyrddiad â chlefyd.

Symud anifeiliaid i'w cigydda
     2. Symud anifail yn uniongyrchol i ladd-dy.

     3. Symud mochyn i farchnad ar gyfer moch y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth.

     4. Symud anifail i ganolfan gasglu ar gyfer anifeiliaid y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth, ar yr amod - 

Symud anifail ar gyfer ffrwythloni artiffisial
     5. Symud gwartheg neu foch i ganolfan ffrwythloni artiffisial.

     6. Symud defaid neu eifr i ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 6 diwrnod cyn ymadael.

Anifeiliaid i'w hallforio
     7. Symud anifail i'w allforio yn uniongyrchol i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynnyrch Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 cyn ei allforio.

Symud o fewn grwcirc p meddiannaeth unigol
     8. Symud anifail rhwng safleoedd mewn grwcircp meddiannaeth unigol.

Tir comin
     9.  - (1) Symud anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin arno ac  - 

    (2) Mae symud anifail rhwng safle, sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol dros y tir, a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, a bod hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw'n cael ei harfer fel rheol honno mewn perthynas â'r tir hwnnw.

    (3) Yn y paragraff hwn ystyr "hawl gofrestredig i gomin" ("registered right of common") yw hawl i gomin sy'n gofrestredig o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965[
10].

Symud moch ar gyfer magu, ac yn y blaen
     10.  - (1) Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu neu besgi yn unol ag erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.

    (2) Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu heblaw yn unol â pharagraff (1) os gosodwyd y mochyn hwnnw mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan arolygydd milfeddygol a hynny am 20 diwrnod cyn symud y mochyn.

Symud moch i sioeau neu arddangosfeydd
     11. Symud mochyn i sioe neu arddangosfa os yw wedi'i ynysu am 20 niwrnod cyn iddo gael ei symud a hynny ar y safle sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.

Cyfryngau cludo sy'n dadlwytho anifeiliaid eraill
     12. Symud anifail sydd ar gyfrwng cludo sy'n mynd i safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw'r anifail wedi gadael y cyfrwng cludo tra bu ar y safle.

Ceirw
     13. Symud ceirw oddi ar unrhyw safle.



ATODLEN 2
Erthygl 3(3)


Symud i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur


Cyrraedd marchnad ac yn y blaen
     1. Symud anifail i farchnad, canolfan gasglu, canolfan ffrwythloni artiffisial, sioe neu arddangosfa.

Symud mochyn o dan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
     2. Symud mochyn fel y cyfeirir ato yn erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.

Symud mochyn at ddibenion magu
     3.  - (1) Mochyn sy'n cyrraedd y safle a ddarparwyd ar gyfer magu (ac eithrio un a symudir o dan erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002) ar yr amod - 

    (2) Symud mochyn (ac eithrio un a symudir o dan erthygl 8(3)(b) Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002) sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o fan yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer magu, ar yr amod - 

Mochyn sy'n dychwelyd i sioe neu arddangosfa
     4. Mochyn sy'n dychwelyd o sioe neu addangosfa i'r safle y cludwyd ef ohono i'r sioe neu'r arddangosfa honno ar yr amod y caiff ei ynysu am 20 diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd i'r safle a gymeradwywyd i'r pwrpas hwn gan arolygydd milfeddygol.

Canolfannau ffrwythloni artiffisial
     5. Gwartheg sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial.

     6. Moch sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.

     7. Defaid neu eifr sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod - 

Anifeiliaid a fewnforir
     8.  - (1) Anifail a fewnforir yn cyrraedd y fan lle y mae'n dod i mewn i Gymru.

    (2) Symud anifail o'r fan lle y daw i mewn i'r Deyrnas Unedig yn sgil ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall.

Symud o fewn grwcirc p meddiannaeth unigol
     9. Symud anifail rhwng safleoedd mewn grwcircp meddiannaeth unigol.

Cyfryngau cludo sy'n casglu anifeiliaid eraill
     10. Symud anifail y deuir ag ef i'r safle mewn cyfrwng cludo sy'n casglu anifeiliaid eraill ar yr amod na ddadlwythir yr anifail yn y safle hwnnw.

Cyrraedd ar ôl triniaeth filfeddygol
     11. Unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch sy'n dychwelyd i'r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra oeddent yno ar yr amod, yn achos moch, eu bod wedi'u hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Mae'n darparu na chaiff gwartheg, ceirw, geifr, moch a defaid eu symud heb drwydded, ac yn darparu na chaiff yr anifeiliaid hyn (ac eithrio ceirw) eu symud o safle os symudwyd gwartheg, geifr neu ddefaid i'r safle hwnnw yn ystod y 6 diwrnod blaenorol, neu os symudwyd moch i'r safle yn ystod yr 20 diwrnod blaenorol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer eithriadau i'r gofynion hyn (erthygl 3 ac Atodlenni 1 a 2).

Mae'n rheoli symud anifeiliaid i ladd-dy (erthygl 4) ac yn darparu ar gyfer cysylltu setiau o safleoedd â'i gilydd yn grwpiau meddiannaeth unigol (erthygl 5).

Mae'n gwneud darpariaethau ar gyfer trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau, ac yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol i gyflwyno hysbysiadau sy'n golygu na all safle neu bobl a enwir weithredu o dan drwydded gyffredinol (erthygl 6 i 12).

Mae'n darparu ar gyfer diheintio cyfryngau cludo (erthygl 13).

Mae'n darparu ar gyfer newid meddiannaeth safle yr effeithir arno gan y Gorchymyn (erthygl 14).

Yr awdurdod lleol sy'n ei orfodi (erthygl 15).

Mae methu cydymffurfio â'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac mae'r gosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Bydd effaith y Gorchymyn hwn yr dod i ben ar 1 Awst 2003.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Dddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999, O.S. 1999/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2002/129 (Cy.17).back

[3] O.S. 2002/2303 (Cy.228) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/170 (Cy.30).back

[4] O.S. 1983/1950 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2001/4029.back

[5] 1981 p.37.back

[6] O.S. 2003/482 (Cy.68).back

[7] O.S. 2002/2304 (Cy.229).back

[8] O.S. 2002/2480 (Cy.243).back

[9] O. S. 2003/168 (Cy.28).back

[10] 1965 p. 64.back



English version



ISBN 0 11090682 9


 
© Crown copyright 2003
Prepared 24 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030483w.html