BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003 Rhif 503 (Cy.71)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030503w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 503 (Cy.71)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003

  Wedi'u gwneud 4 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1], a pharagraff 9 o Atodlen 1 a pharagraffau 1(4) a 4 o Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

    
2. Caiff Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001[3] eu diwygio fel a ganlyn.

     3. Caiff rheoliad 2 ei ddiwygio drwy - 

     4. Diwygir rheoliad 8 drwy - 

     5. Diwygir rheoliad 9 drwy - 

     6. Diwygir Rheoliad 18 drwy - 

     7. Ar ôl rheoliad 21 mewnosodir y rheoliad canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 ('Rheoliadau 2001'). Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, sef corff corfforaethol a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 gyda'r nodau o gyfrannu tuag at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon er budd y cyhoedd.

Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn darparu bod rhaid i'r Pwyllgor a fydd yn delio ag achos yn erbyn aelod o'r Cyngor beidio â chynnwys aelod arall o'r Cyngor ac i ddarparu ar gyfer y cworwm ar gyfer cyfarfod Pwyllgor o'r fath.

Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at y pwerau newydd i roi cyfarwyddyd yn Neddf Addysg 2002 ac er mwyn cyfeirio at Reoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003.

Mae Deddf Addysg 2002 yn cyflwyno pwer i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru osod amodau ar unrhyw orchmynion atal y mae'n eu gwneud yn dilyn achos disgyblu yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001 er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i orchymyn atal gofnodi unrhyw amodau y mae angen i athro neu athrawes gydymffurfio â hwy, ac i'w gwneud hi'n ofynnol i Bwyllgor gynnwys yn yr hysbysiad o'r gorchymyn disgyblu a gyflwynwyd i athro neu athrawes esboniad o'r hawl i wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut i wneud hynny. Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas â'r dull o wneud cais i amrywio neu ddiddymu amod, a sut yr eir ati i ddelio â cheisiadau o'r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ychwanegu asiantaeth gyflenwi lle bo hynny'n berthnasol at y rhai y mae'n ofynnol cyflwyno hysbysiad o orchymyn disgyblu iddynt.


Notes:

[1] 1998 p.30. Mae Adran 6 ac Atodlenni 1 a 2 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru trwy rinwedd adrannau 8 a 9 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911) o 30 Rhagfyr 1998 ymlaen yn achos Atodlen 1, a 1 Medi 2000 yn achos gweddill y darpariaethau. Diwygir paragraff 1(4) o Atodlen 2, ac amnewidir paragraff 4 o Atodlen 2, gan baragraff 86(2) o Atodlen 21, a pharagraff 12 o Atodlen 12, i Ddeddf Addysg 2002 (p.32), yn eu trefn. Am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back

[3] O.S. 2001/1424 (Cy. 99).back

[4] Mewnosodwyd adran 15A gan baragraff 83 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32)back

[5] 2002 p.32.back

[6] O.S. 2003/542 (Cy76).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090667 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 12 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030503w.html