OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 522 (Cy.72)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
5 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
6 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] a pharagraffau 1(1) a 5(1), (2) a (4) o Atodlen 4 iddi, a rheiny'n bwerau sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003.
Cymhwyso a Dehongli
2.
- (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[3].
(3) Bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr â'r termau Saesneg cyfatebol yn y prif Reoliadau.
Diwygio'r Prif Reoliadau
3.
Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ddarperir yn Rheoliad 4.
Atafaelu enillion: credydau treth
4.
Yn Rheoliad 32(1) (dehongli etc) o'r Prif Reoliadau, yn y diffiniad o "earnings", mewnosodwch ar ôl is-baragraff (v) -
"
(vi) tax credits within the meaning of the Tax Credits Act 2002.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Mawrth 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) yn rhagnodi'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gasglu ac adennill treth gyngor. Mae Rheoliad 32(1) o'r Rheoliadau hynny yn cael ei ddiwygio yn y fath fodd ag i hepgor o'r diffiniad o "earnings" Gredyd Treth Plant a Chredyd Treth Gweithio, o fewn ystyr "Child Tax Credit" a "Working Tax Credit" yn Neddf Credydau Treth 2002.
Notes:
[1]
1992 (p.14).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1992/613.back
[4]
1998 (p.38).back
English version
ISBN
0 11090674 8
|