BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 529 (Cy.74)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030529w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 529 (Cy.74)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 5 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 7 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 7 Mawrth 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn y gymwys i Gymru.

    (3) Ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) 1999 (The Land in Care Scheme (Tir Gofal) (Wales) Regulations 1999)[
3].

Diwygio rheoliad 2
     2. Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau ychwaneger y paragraff canlynol: - 

Diwygio Atodlen 2
    
3.  - (1) Diwygir Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Yn lle paragraff 2 rhoddir: - 

    (3) Dilëir paragraff 3(b) a mewnosodir y testun canlynol:

    (4) Dilëir paragraff 3(d) a mewnosodir y testun canlynol:

    (5) Dilëir paragraff 4(a) a mewnosodir y testun canlynol:

    (6) Dilëir paragraph 4(b).

    (7) Dilëir paragraph 5(a) a mewnosodir y testun canlynol:

Diwygiadau i Atodlen 3
    
4.  - (1) Diwygir Atodlen 3 i'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff 2(c), dilëir is-baragraffau (i) a (ii).

    (3) Ym mharagraff 2(c) yn lle is-baragraffau (iii) a (iv) rhoddir:

    (4) Yn lle is-baragraffau 3(e) ac (f) rhoddir:

    (5) Yn lle is-baragraffau 3(h) ac (i) rhoddir:

    (6) Dilëir paragraff 4.

Diwygio Atodlen 4
    
5.  - (1) Diwygir Atodlen 4 i'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Ar ôl is-baragraff 1(h) ychwanegir:

    (3) Yn is-baragraff 1(k)(ii) yn lle "£2.60" rhoddir "£2.88".

    (4) Yn is-baragraff 1(l)(ii) yn lle "£11" rhoddir "£10.80".

    (5) Yn is-baragraff 1(m)(i) yn lle "£110" rhoddir "£120".

    (6) Yn is-baragraff 1(m)(ii) yn lle "£160" rhoddir "£144".

    (7) Ym mharagraff 3 mewnosodir:

    (8) Yn lle is-baragraff 5(a) rhoddir:

    (9) Yn lle is-baragraff 5(b) rhoddir:

    (10) Dilëir is-baragraff 5(c).

    (11) Yn lle is-baragraff 8(a) rhoddir:

    (12) Dilëir is-baragraff (b), (c), (d) ac (e) o baragraff (8).

    (13) Yn lle is-baragraffau 9(a) rhoddir:

    (14) Dilëir is-baragraff 9(b).

    (15) Yn lle is-baragraff 9(c) rhoddir:

    (16) Yn lle is-baragraff 9(d) rhoddir:

    (17) Yn lle is-baragraff 9(f) rhoddir

    (18) Dilëir is-baragraff 9(g).

    (19) Yn is-baragraff 11(a)(i) yn lle "£100" rhoddir "£120".

    (20) Yn is-baragraff 11(a)(ii) yn lle "£150" rhoddir "£144".

    (21) Yn is-baragraff 11(b)(i) yn lle "£110" rhoddir "£130".

    (22) Yn is-baragraff 11(b)(ii) yn lle "£160" rhoddir "£156".

    (23) Dilëir is-baragraff 11(m).

Symiau o Gymhorthdal
    
6. Yn rheoliad 9 ychwanegir y paragraffau canlynol - 

Darpariaethau trosianol
    
7.  - (1) Caiff y Rheoliadau hyn effaith yn syth mewn perthynas â chytundebau Tir Gofal a lofnodir ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu wedi hynny.

    (2) Mewn perthynas â chytundebau Tir Gofal a lofnodwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys fel a ganlyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tir Gofal 1999 (the Land in Care Scheme (Tir Gofal) Regulations 1999) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999 a Rheoliadau Tir Gofal (Diwygio) (Cymru) 2001. Mae'r diwygiadau yn adlewyrchu newidiadau a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd fel rhan o addasiadau 2001 i'r Cynllun Datblygu Gwledig. Caiff y diwygiadau yr effeithiau canlynol: - 

rheoliad 2
Rhoddir ystyr mwy manwl i'r term "hardwood" pan y'i defnyddir yn y prif Reoliadau (rheoliad 2).

Atodlen 2


    
  • Unir y graddfeydd ar gyfer rhostir mynydd uchel a rhostir ucheldir (rheoliad 3(2));

        
  • ceir gwared â'r gwahaniaethu rhwng tir pori a gweirgloddiau yn yr eitemau ar gyfer rheoli tir glas (rheoliad 3(3) a (4));

        
  • ceir gwared â'r gwahaniaethu rhwng gorgors a chyforgors (rheoliad 3(5) a (6));

        
  • darperir graddfeydd gwahanol o daliadau ar gyfer rheoli tir wedi'i wella sydd yn forfa bori sy'n cael ei phori a gorlifdir glas yn dibynnu ar lefel y pori (rheoliad 3(7)).

    Atodlen 3


        
  • Mae strwythur y taliadau ar gyfer newid tir glas wedi'i wella'n rhannol i dir glas heb ei wella yn cael ei symleiddio (rheoliad 4(2) a (3));

        
  • Mae dwy eitem mewn perthynas â sefydlu llystyfiant rhostirol yn cael eu huno (rheoliad 4(4));

        
  • Mae dwy eitem mewn perthynas â morfeydd heli yn cael eu huno (rheoliad 4(5));

        
  • Dilëir yr eitem mewn perthynas â rheoli parthau gwahanu (rheoliad 4(6)).

    Atodlen 4


        
  • Newidir y taliadau mewn perthynas â ffensio a llidiartau i ddarparu graddfa unedig o daliadau pan ddefnyddir ffensio postyn a gwifren a rhwyd wifren fel rhan o'r un ymarfer ac i amrywio'r graddfeydd taliadau (rheoliad 5(2) i (6));

        
  • Mewnosodir eitem newydd mewn perthynas â thorri grug (rheoliad 5(7));

        
  • Mae eitemau mewn perthynas â rhedyn yn cael eu huno a'u gwneud yn fwy eglur (rheoliad 5(8) i (10));

        
  • Mae eitemau mewn perthynas â chyflwyno planhigion gwyllt yn cael eu huno (rheoliad 5(11) a (12));

        
  • Dilëir eitem mewn perthynas â safloeoedd o dirlun hanesyddol sydd wedi erydu (rheoliad 5(12);

        
  • Unir dwy eitem yn ymwneud â phyllau (rheoliad 5(13) a (14));

        
  • Mae eitemau mewn perthynas â byndiau a llifddorau yn cael eu gwneud yn fwy eglur (rheoliad 5(15) a (16));

        
  • Unir eitem mewn perthynas ag arwyneb caled (rheoliad 5(12), (17), (18) a (23)); a

        
  • Diwygir y graddfeydd mewn perthynas â llidiartau pren (rheoliad 5(19) i (22)).

    Rheoliad 9
    Cyflwynir terfynau cyfanswm newydd mewn perthynas â gweithgareddau cyfalaf a geir yn Atodlen 4 ynghyd â thaliadau uwch mewn perthynas â'r defnydd o wartheg (rheoliad 6).

    Dod i rym a darpariaethau trosiannol
    Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Mawrth 2003 mewn perthynas â chytundebau Tir Gofal newydd (rheoliadau 1(1) a 7). Darperir ar gyfer yr effaith ar ddeiliaid cytundebau sy'n bodoli eisioes hefyd yn rheoliad 7.


    Notes:

    [1] O.S. 1999/2788.back

    [2] 1972 p.68.back

    [3] O.S. 1999/1176 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/3337 (Cy. 45) a 2001/423 (Cy.17).back

    [4] 1998 p.38.back



    English version



    ISBN 0 11090676 4


     
    © Crown copyright 2003
    Prepared 20 March 2003


    BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
    URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030529w.html