BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 Rhif 542 (Cy.76)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030542w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 542 (Cy.76)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 5 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 15, 15A a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1], ac Atodlen 2 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diddymu
    
2. Diddymir rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) (Cymru) 2000[3] a rheoliad 28 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001[4]).

Dehongli
     3. Heblaw pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y rheoliadau hyn  - 

Adroddiadau gan gyflogwr
     4. Pan - 

rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    
5.  - (1) Pan  - 

rhaid i'r cyflogwr roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan I o'r Atodlen sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â pherson o'r fath i'r Cyngor.

    (2) Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.

Adroddiadau gan asiant
    
6. Pan  - 

rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r gweithiwr i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    
7.  - (1) Pan - 

rhaid i'r asiant roi adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrwyd yn Rhan II o'r Atodlen sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r athro neu athrawes gofrestredig i'r Cyngor.

    (2) Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.



Llofnodwyd a ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Mawrth 2003



YR ATODLEN


RHAN 1

Gwybodaeth sydd i'w chyflenwi gan gyflogwr perthnasol

     1. Datganiad o'r rhesymau dros roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person.

     2. Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.

     3. Cofnodion y cyflogwr sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan y cyflogwr.

     4. Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan y cyflogwr a roddwyd i berson mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, pe na bai'r person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau, ac atebion neu gynrychioliadau'r person mewn perthynas â hynny.

     5. Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth eraill a gyflwynwyd gan berson i'r cyflogwr mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ystyriaeth i wneud hynny, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu allai, oni bai fod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain i'r cyflogwr roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau.

     6. Llythyr yn hysbysu bwriad person i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau.

     7. Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall y mae'r cyflogwr yn ystyried yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad allai gael ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai'r Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.



RHAN II

GWYBODAETH I'W CHYFLENWI GAN ASIANT

     1. Datganiad o'r rhesymau dros derfynu'r trefniadau.

     2. Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â therfynu'r trefniadau neu unrhyw ystyriaeth i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.

     3. Unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyfweld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a dderbyniwyd gan yr asiant.

     4. Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan asiant a roddwyd i berson mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu'r trefniadau, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, pe na bai'r gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, ac atebion y gweithiwr neu gynrychioliadau mewn perthynas â hynny.

     5. Unrhyw ddatganiadau, gynrychioliadau a thystiolaeth a gyflwynwyd gan berson i'r asiant mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi terfynu trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu allai, oni bai fod y gweithiwr wedi peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio, fod wedi arwain i'r asiant ymatal rhag gwneud trefniadau newydd.

     6. Llythyr gan y gweithiwr yn terfynu trefniadau neu yn peidio â rhoi ei hun ar gael i weithio.

     7. Unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd ym marn yr asiant yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad y gellid ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw gamau y gallai Pwyllgor eu cymryd yn erbyn athro neu athrawes gofrestredig.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr athrawon ac eraill y mae eu gwaith yn ymwneud â darparu addysg ac i asiantaethau cyflenwi roi adroddiadau ar achosion o gamymddygiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), ac achosion o anghymwysedd i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor").

Rhaid i gyflogwyr roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol os ydynt yn rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person ar sail penodedig, neu os y gallent fod wedi gwneud pe na bai'r person hwnnw eisoes wedi peidio â darparu ei wasanaethau. Y seiliau penodedig yw anasddrwydd person i weithio â phlant, camymddygiad person ac iechyd person os yw'n ymwneud â diogelwch a lles plant. Os yw'r sail yn ymwneud ag anghymwysedd athro neu athrawes gofrestredig, rhaid rhoi'r adroddiad i'r Cyngor.

Rhaid i asiantau roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol os ydynt wedi trefnu i weithiwr gyflawni gwaith ar ran awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu neu berchennog ysgol annibynnol ac y maent yn terfynu'r trefniadau hynny ar sail penodedig, neu y gallent fod wedi gwneud pe na bai'r person hwnnw eisoes wedi terfynu'r trefniadau neu wedi peidio â bod ar gael i weithio. Y seiliau penodedig yw anasddrwydd person i weithio â phlant, camymddygiad person ac iechyd person os yw'n ymwneud â diogelwch a lles plant. Os yw'r sail yn ymwneud ag anghymwysedd athro neu athrawes gofrestredig, rhaid rhoi'r adroddiad i'r Cyngor.

Mae'r Atodlen yn nodi'r wybodaeth sydd i'w darparu yn yr adroddiadau.


Notes:

[1] 1998 p.30. Mae Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas â'r Cyngor yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1998 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). Amnewidir adran 15 a mewnosodir adran 15A gan baragraff 83 o Atodlen 21 i Ddeddf Adddysg 2002 (p.32). Am ystyr "prescribed" gweler adran 43(1) o Ddeddf 1998.back

[2] Gweler adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/2906 (Cy. 186).back

[4] O.S. 2001/1424 (Cy. 99).back

[5] 2002 p.32.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090670 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 17 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030542w.html