BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 Rhif 543 (Cy.77)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030543w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 543 (Cy.77)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 5 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 17 Mawrth 2003 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Torri terfynau amser
4. Corff priodol
5. Gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu
6. Yr ysgolion lle gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu
7. Hyd cyfnod ymsefydlu
8. Cyfnodau cyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu
9. Ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn ei gwblhau
10. Gwasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu
11. Goruchwyliaeth a hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymsefydlu
12. Cyfrifoldeb am gyfnod ymsefydlu a wasanaethir gan athro neu athrawes mewn dau sefydliad neu fwy ar yr un pryd
13. Y safonau ar gyfer penderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol
14. Cwblhau cyfnod ymsefydlu
15. Ymestyn cyfnod ymsefydlu yn unol â phenderfyniad corff priodol neu'r Cyngor
16. Terfynu cyflogaeth yn dilyn methiant i gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol
17. Apelau
18. Swyddogaethau eraill y corff priodol
19. Taliadau
20. Cyfarwyddyd gan y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLENNI

  Atodlen 1: Achosion pan gellir cyflogi person fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol ag yntau heb gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol.

  Atodlen 2: Y weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad y corff priodol.
1. Dehongli
2. Yr amser ar gyfer a'r dull o apelio
3. Yr hysbysiad apêl
4. Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r apêl yn ôl
5. Cydnabod a hysbysu am yr apêl
6. Cais am ddeunydd pellach
7. Ateb gan y corff priodol
8. Cynnwys yr ateb
9. Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r ateb yn ei ôl
10. Cydnabod a hysbysu am yr ateb
11. Pwcircer i benderfynu'r apêl heb wrandawiad
12. Gwrandawiad apêl
13. Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad
14. Y camau i'w dilyn gan yr apelydd a'r corff priodol ar ôl derbyn hysbysiad am y gwrandawiad
15. Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad
16. Y weithdrefn yn y gwrandawiad
17. Penderfyniad y Cyngor
18. Afreoleidd-dra
19. Dogfennau

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Reholiadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 17 Mawrth 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol yng Nghymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at  - 

Torri terfynau amser
     3. Ni fydd methiant ar ran unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser a nodir yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r dyletswydd hwnnw.

Corff priodol
    
4. At ddibenion y Rheoliadau hyn  - 

Gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu
    
5. Yn ddarostyngedig i'r eithriadau yn Atodlen 1, nid oes unrhyw berson i gael ei gyflogi ar neu ar ôl 1 Medi 2003 fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol oni bai fod y person hwnnw wedi cwblhau'n foddhaol gyfnod ymsefydlu yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth y mae rheoliad 6(1) yn cyfeirio atynt.

Yr ysgolion lle gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond yn y canlynol y gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu  - 

    (2) Ni ellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu  - 

    (3) Dyma'r amgylchiadau pan gaiff person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn ysgol annibynnol  - 

    (4) Gall person wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn coleg chweched dosbarth yng Nghymru os yw corff llywodraethu'r coleg ac awdurdod wedi cytuno cyn i'r cyfnod ymsefydlu ddechrau bod yr awdurdod i weithredu fel y corff priodol mewn perthynas â'r coleg.

    (5) Yn y rheoliad hwn, mae "cyfnod ymsefydlu" ("induction period") yn cynnwys rhan o gyfnod ymsefydlu.

Hyd cyfnod ymsefydlu
    
7.  - (1) Hyd y cyfnod ymsefydlu ar gyfer person sy'n gweithio'n llawn-amser fel athro neu athrawes yw  - 

    (2) Hyd y cyfnod ymsefydlu ar gyfer person sy'n gweithio'n rhan-amser fel athro neu athrawes mewn ysgol, neu mewn dwy ysgol neu fwy, yw'r cyfnod amser y cymer i'r person hwnnw yn unol â'i gontract cyflogaeth neu amodau ei gymryd ymlaen i gwblhau 380 sesiwn ysgol.

    (3) Hyd y cyfnod ymsefydlu ar gyfer person sy'n gweithio'n rhan amser fel athro neu athrawes mewn coleg chweched dosbarth, mewn dau goleg chweched dosbarth neu fwy neu mewn cyfuniad o un neu fwy o ysgolion ac un neu fwy o golegau chweched dosbarth, yw'r cyfnod amser y byddai'n cymryd yn unol â'r contract cyflogaeth neu'r amodau cymryd y person hwnnw ymlaen iddo gwblhau 190 diwrnod gwaith o fewn amser tymor.

    (4) Bydd person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu at ddibenion y Rheoliadau hyn pan fo'r person hwnnw wedi gwasanaethu  - 

    (5) Pan fo person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn cael ei gyflogi mewn dwy ysgol neu fwy ar yr un pryd, mae hyd ei gyfnod ymsefydlu i'w benderfynu yn unol â pharagraff (2).

    (6) Pan fo person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn cael ei gyflogi mewn dau goleg chweched dosbarth neu fwy ar yr un pryd neu mewn cyfuniad o un neu fwy o ysgolion ac un neu fwy o golegau chweched dosbarth ar yr un pryd, mae hyd ei gyfnod ymsefydlu i'w benderfynu yn unol â pharagraff (3).

Cyfnodau cyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu
    
8.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae unrhyw gyfnod cyflogaeth o ddim llai nag un tymor ysgol o hyd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 fel athro neu athrawes gymwys mewn ysgol yng Nghymru y mae rheoliad 6(1) yn gymwys iddi yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae unrhyw gyfnod cyflogaeth o ddim llai nag un tymor o hyd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 fel athro neu athrawes gymwys mewn coleg chweched dosbarth yng Nghymru y mae rheoliad 6(1) yn gymwys iddo yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.

    (3) Nid oes unrhyw gyfnod o gyflogaeth fel athro neu athrawes gyflenwi yng Nghymru yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu oni bai fod pennaeth yr ysgol neu goleg chweched dosbarth yn cytuno i hynny cyn i gyfnod o'r fath ddechrau.

    (4) Mae unrhyw gyfnod cyflogaeth ar neu ar ôl 1 Medi 2003 mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth yn Lloegr yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu os byddai'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

    (5) Heblaw fel y darperir ar gyfer hynny ym mharagraff (1), (2) neu (4) nid oes unrhyw gyfnod o gyflogaeth fel athro neu athrawes yn cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.

Ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn ei gwblhau
    
9.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) pan fo person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn absennol o'i waith am gyfanswm o dri deg diwrnod ysgol neu fwy rhaid ymestyn y cyfnod ymsefydlu yn ôl cyfanswm cyfnod ei absenoldeb.

    (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo menyw yn absennol o'i gwaith oherwydd cyfnod o absenoldeb mamolaeth a nodwyd yn rheoliad 7(1) o Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999[
12] oni bai ei bod yn dewis hynny.

    (3) Pan fo pum mlynedd neu fwy wedi mynd heibio ers i berson gychwyn ar ei gyfnod ymsefydlu, ac nad yw'r person hwnnw wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu, gall gyda chytundeb y corff priodol ddewis ymestyn y cyfnod ymsefydlu  - 

    (4) Pan fo cyfnod ymsefydlu yn cael ei ymestyn o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr ac mae'r person sydd yn gwasanaethu'r cyfnod ymsefydlu yn symud i gyflogaeth mewn sefydliad addysg yng Nghymru, mae'r cyfnod ymsefydlu i gael ei drin fel petai wedi'i ymestyn o dan y rheoliad hwn.

    (5) Heblaw fel y darperir ar ei gyfer yn y rheoliad hwn ni ellir ymestyn cyfnod ymsefydlu cyn iddo gael ei gwblhau.

Gwasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu
     10. Heblaw fel y darperir yn rheoliad 14 neu 17, ni all unrhyw berson wasanaethu mwy nag un cyfnod ymsefydlu.

Goruchwyliaeth a hyfforddiant yn ystod y cyfnod ymsefydlu
    
11.  - (1) Bydd pennaeth ysgol neu goleg chweched dosbarth yng Nghymru lle mae person yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu a'r corff priodol mewn perthynas â'r ysgol honno neu goleg chweched dosbarth yn gyfrifol am oruchwyliaeth a hyfforddiant y person hwnnw yn ystod y cyfnod ymsefydlu.

    (2) Bydd dyletswyddau a neilltuir i berson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu, goruchwyliaeth y person hwnnw a'r amodau y mae ef yn gweithio oddi tanynt yn rhai a fydd yn hwyluso'r broses o asesu ei ymddygiad a'i effeithlonrwydd fel athro neu athrawes yn deg ac yn effeithlon.

    (3) Os yw person yn symud o un ysgol neu goleg chweched dosbarth i ysgol neu goleg chweched dosbarth arall yn ystod cyfnod ymsefydlu, rhaid i bennaeth yr ysgol neu'r coleg y mae'r person yn symud ohoni neu ohono,

Cyfrifoldeb am gyfnod ymsefydlu a wasanaethir gan athro neu athrawes mewn dau sefydliad neu fwy ar yr un pryd
    
12.  - (1) Pan fo person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn cael ei gyflogi mewn dau sefydliad neu fwy ar yr un pryd, rhaid i benaethiaid pob un o'r sefydliadau gytuno pa un ohonynt sydd i weithredu fel y pennaeth arweiniol.

    (2) Y pennaeth arweiniol sydd i fod yn gyfan gwbl gyfrifol am weithredu swyddogaethau'r pennaeth a nodwyd yn rheoliad 14(2) i (4) a chyn gwneud hynny rhaid iddo neu iddi ystyried yr holl ddeunyddiau perthnasol sy'n ymwneud ag ymsefydlu person sydd wedi eu rhoi gan unrhyw sefydliad arall lle mae'r person yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu.

    (3) Mae'n rhaid i bennaeth sefydliad nad yw'n bennaeth arweiniol roi i'r pennaeth arweiniol unrhyw ddeunyddiau sy'n ymwneud ag ymsefydlu person y gall yn rhesymol fod eu hangen ar y pennaeth arweiniol i weithredu'r swyddogaethau a nodwyd yn rheoliad 14(2) i (4).

    (4) Y corff priodol mewn perthynas ag ysgol y pennaeth arweiniol neu goleg chweched dosbarth sydd i fod yn yn gyfan gwbl gyfrifol am weithredu swyddogaethau'r corff priodol a nodwyd yn rheoliad 9(3) a 14.

Y safonau ar gyfer penderfynu a yw person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol
    
13. Gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y safonau ar gyfer asesu person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn eu herbyn at y diben o benderfynu a yw'r person hwnnw wedi cwblhau ei gyfnod ymsefydlu yn foddhaol, a gall benderfynu ar safonau gwahanol mewn perthynas â chategorïau gwahanol o bobl.

Cwblhau cyfnod ymsefydlu
    
14.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu, os  - 

    (2) O fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan gwblhawyd y cyfnod ymsefydlu  - 

    (3) Os yw person wedi gwasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn mwy nag un sefydliad addysg, rhaid i'r pennaeth wrth wneud argymhelliad o dan baragraff (2) gymryd i ystyriaeth unrhyw ddogfennau neu adroddiadau a gyflwynwyd o dan reoliad 11(3).

    (4) Cyn gwneud argymhelliad o dan baragraff (2), rhaid i'r pennaeth ei drafod gyda'r person o dan sylw.

    (5) Rhaid i'r corff priodol o fewn ugain diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2) benderfynu  - 

    (6) Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (5) bydd y corff priodol yn cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau ysgrifenedig a dderbyniwyd oddi wrth y person dan sylw o fewn cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y person hwnnw argymhelliad y pennaeth o dan baragraff (2) (c).

    (7) Rhaid i'r corff priodol o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan wnaeth y penderfyniad o dan baragraff (5)  - 

    (8) Gellir rhoi hysbysiad o dan baragraff (7) i berson drwy ffacsimili, post electronig neu ddulliau cyffelyb eraill sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun y cyfathrebiad, ac ystyrir bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o'r fath wedi cael ei roi pan gaiff ei dderbyn mewn ffurf ddarllenadwy

Ymestyn cyfnod ymsefydlu yn unol â phenderfyniad corff priodol neu'r Cyngor
    
15.  - (1) Mae Rheoliadau 6, 8 i 14, 16 a 17 ac Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas â pherson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn wedi iddo gael ei gwblhau drwy benderfyniad corff priodol o dan reoliad 14 neu'r Cyngor o dan reoliad 17 fel y mae'r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â'r cyfnod ymsefydlu cychwynnol.

    (2) Mae Rheoliadau 6, 8 i 14, 16 a 17 ac Atodlen 2 hefyd yn gymwys mewn perthynas â pherson sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn, wedi iddo gael ei gwblhau, o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr os yw'r person hwnnw wedyn yn cael ei gyflogi mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth yng Nghymru fel y mae'r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â chyfnod ymsefydlu cychwynnol.

Terfynu cyflogaeth yn dilyn methiant i gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol
    
16.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson a gyflogir fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru sydd wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol, boed yng Nghymru neu yn Lloegr.

    (2) Rhaid i gyflogwr person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo sicrhau bod cyflogaeth y person hwnnw fel athro neu athrawes yn cael ei derfynu os  - 

    (3) Rhaid i gyflogwr gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person sy'n cael ei derfynu o dan yr amgylchiadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) yn cael ei derfynu fel bo'r terfyniad yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau gyda'r dyddiad pan  - 

    (4) Rhaid i'r cyflogwr gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod cyflogaeth person sy'n cael ei derfynu o dan yr amgylchiadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(b) yn cael ei derfynu fel bo'r terfyniad yn cael effaith o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y cyflogwr hysbysiad o ganlyniad y gwrandawiad apêl.

    (5) Nid oes rheidrwydd ar gyflogwr person  - 

sicrhau bod cyflogaeth person o'r fath fel athro neu athrawes yn cael ei derfynu tra'n aros am ganlyniad yr apêl honno ar yr amod bod y cyflogwr yn sicrhau mai dim ond dyletswyddau cyfyngedig ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu penderfynu y bydd y person hwnnw yn ymgymryd â hwy.

Apelau
    
17.  - (1) Pan fo'r corff priodol yn penderfynu o dan reoliad 14 - 

gall y person hwnnw apelio i'r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.

    (2) Mae gan Atodlen 2 effaith mewn perthynas ag apelau o dan y rheoliad hwn.

    (3) Pan fo person yn apelio yn erbyn penderfyniad i ymestyn cyfnod ymsefydlu, gall y Cyngor  - 

    (4) Pan fo person yn apelio yn erbyn penderfyniad ei fod wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol, gall y Cyngor  - 

Swyddogaethau eraill y corff priodol
    
18. Gall y corff priodol ddarparu  - 

mewn perthynas â darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth ac asesu ymsefydlu o dan y Rheoliadau hyn.

Taliadau
    
19. Gall corff priodol mewn perthynas ag ysgol annibynnol neu goleg chweched dosbarth godi tâl rhesymol (nad yw'n fwy na chost darparu'r gwasanaeth) ar gorff llywodraethu ysgol neu goleg chweched dosbarth y mae'n gorff priodol iddynt mewn perthynas ag unrhyw un o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Cyfarwyddyd gan y Cynulliad Cenedlaethol
    
20. Rhaid i berson neu gorff sy'n arfer swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn gymryd i ystyriaeth unrhyw gyfarwyddyd sy'n cael ei roi gan y Cynulliad Cenedlaethol o bryd i'w gilydd ynghylch arfer y swyddogaeth honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
13]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Mawrth 2003



ATODLEN 1
Rheoliad 5


ACHOSION PAN ELLIR CYFLOGI PERSON FEL ATHRO NEU ATHRAWES MEWN YSGOL BERTHNASOL AG YNTAU HEB GWBLHAU CYFNOD YMSEFYDLU YN FODDHAOL


     1. Person sydd ar 1 Ebrill 2003 yn athro neu athrawes gymwysedig.

     2. Person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu (gan gynnwys cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn cyn iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 9 neu ar ôl iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 14 neu 17).

     3. Person sydd wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol ac y mae cyfyngiad ar ei gyflogaeth o dan reoliad 16(5) tra'n aros am ganlyniad apêl.

     4. Person sydd wedi'i gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi os yw'r cyfnod neu gyfnodau cyflogaeth, ym mhob achos, yn llai nag un tymor, ac os nad yw'r cyfnod ers i'r person gael ei gyflogi am y tro cyntaf fel athro neu athrawes gyflenwi (gan unrhyw gyflogwr) yn hirach nag un flwyddyn ysgol ac un tymor.

     5. Person nad yw'n athro neu athrawes gymwysedig ond sy'n cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol trwy rinwedd rheoliadau sydd mewn grym o bryd i'w gilydd o dan adran 218(1)(a) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[
14].

     6. Person sydd wedi cwblhau'n foddhaol gyfnod ymsefydlu o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

     7. Person sydd wedi cael, neu sy'n gymwys i gael, ei gofrestru'n llawn fel athro neu athrawes addysg gynradd ac uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

     8. Person  - 

     9. Person sydd, mewn perthynas â'r proffesiwn athrawon ysgol, yn dod o fewn Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC[15] ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol, fel y cafodd ei hymestyn gan Gytundeb Ardal Economaidd Ewrop a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992[16] fel y cafodd ei addasu gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993[17].

     10. Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod prawf ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Gyfarwyddwr Addysg Gibraltar.

     11. Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Rhaglen Ymsefydlu Taleithiau Jersey ar gyfer Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.

     12. Person a gymeradwywyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel person a gwblhaodd yn llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon.

     13. Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Adran Addysg Ynys Manaw.

     14. Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Rhaglen Ymsefydlu ysgolion Addysg Plant y Lluoedd yn yr Almaen neu yng Nghyprus.

     15. Person ar neu cyn 1 Ebrill 2003  - 

     16. Person ar neu cyn 1 Ebrill 2003  - 

     17. Person sy'n athro neu athrawes gymwys trwy rinwedd paragraff 10 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999[18].

     18. Person sy'n athro neu athrawes gymwys trwy rinwedd paragraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999.

     19. Person y gellir ei gyflogi o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yn Lloegr ag yntau heb gwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol.



ATODLEN 2
Rheoliad 17


Y WEITHDREFN AR GYFER APELIO YN ERBYN PENDERFYNIAD Y CORFF PRIODOL


Dehongli
    
1. Yn yr Atodlen hon  - 

Yr amser a'r dull ar gyfer gwneud apêl
    
2.  - (1) Gwneir apêl drwy anfon hysbysiad apêl i'r swyddog priodol fel ei fod yn cael ei dderbyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd yr apelydd hysbysiad o dan reoliad 14(7) (a) o'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

    (2) Gall y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1), p'un a ydyw eisoes wedi dod i ben ai peidio, ond ni chaiff wneud hynny oni bai ei fod yn fodlon y byddai peidio ag ymestyn y terfyn amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol.

    (3) Pan fo'r apelydd yn ystyried ei bod hi'n debygol y caiff hysbysiad apêl ei dderbyn y tu hwnt i'r terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) gellir cyflwyno gyda'r hysbysiad apêl ddatganiad o'r rhesymau y dibynnwyd arnynt i gyfiawnhau'r oedi a mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw ddatganiad o'r fath wrth benderfynu a ydyw am ymestyn y terfyn amser ai peidio.

Yr hysbysiad apêl
    
3.  - (1) Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi  - 

    (2) Rhaid i'r apelydd lofnodi'r hysbysiad apêl.

    (3) Rhaid i'r apelydd gyflwyno fel atodiad i'r hysbysiad gopi o'r  - 

Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r apêl yn ei ôl
    
4.  - (1) Gall yr apelydd ar unrhyw adeg cyn derbyn hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu o benderfyniad gan y Cyngor o dan baragraff 11  - 

    (2) Gall yr apelydd ar unrhyw adeg gymryd unrhyw un o'r camau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

    (3) Pan fo apelydd yn tynnu apêl yn ôl ni chaiff ddwyn apêl newydd mewn perthynas â'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

    (4) Gellir diwygio neu dynnu apêl yn ei ôl drwy anfon hysbysiad apêl wedi'i ddiwygio neu hysbysiad yn datgan bod yr apêl yn cael ei dynnu'n ôl, fel y digwydd, at y swyddog priodol.

Cydnabod a hysbysu am yr apêl
    
5.  - (1) Rhaid i'r swyddog priodol o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor yr hysbysiad apêl  - 

    (2) O fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor oddi wrth yr apelydd unrhyw ddogfennau ychwanegol, rhesymau diwygiedig am yr apêl, dogfennau wedi'u diwygio a gyflwynwyd i gefnogi'r apêl neu hysbysiad bod apêl yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi i'r corff priodol.

Cais am ddeunydd pellach
    
6.  - (1) Pan fo'r Cyngor yn ystyried y gellid penderfynu ar yr apêl yn decach ac yn fwy effeithlon pe bai'r apelydd yn darparu deunydd pellach, gall anfon at yr apelydd hysbysiad yn gwahodd yr apelydd i gyflenwi'r deunydd erbyn diwedd y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad.

    (2) Pan fo'r Cyngor yn anfon hysbysiad o dan is-baragraff (1) rhaid i'r swyddog priodol ar yr un pryd hysbysu'r corff priodol ei fod wedi gwneud hynny.

    (3) Rhaid i'r swyddog priodol o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor ddeunydd pellach o dan is-baragraff (1) anfon copi ohono at y corff priodol.

Ateb gan y corff priodol
    
7.  - (1) Rhaid i'r corff priodol anfon ateb i'r swyddog priodol sydd yn bodloni gofynion paragraff 8 fel ei fod yn cael ei dderbyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y corff priodol gopi o'r hysbysiad apêl.

    (2) Gall y Cyngor ymestyn y terfyn amser a osodir gan is-baragraff (1) p'un a ydyw eisoes wedi dod i ben ai peidio.

    (3) Rhaid i'r Cyngor ganiatáu'r apêl pan fo'r corff priodol yn datgan yn ei ateb, neu yn datgan yn ysgrifenedig ar unrhyw bryd, nad yw'n bwriadu cefnogi'r penderfyniad sy'n cael ei herio, a rhaid gwneud hynny o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor hysbysiad nad oedd y corff priodol yn bwriadu cefnogi'r penderfyniad sy'n cael ei herio.

Cynnwys yr ateb
    
8.  - (1) Rhaid i'r ateb ddatgan  - 

    (2) Rhaid i'r corff priodol atodi gyda'r ateb  - 

Dogfennau ychwanegol, diwygio a thynnu'r apêl yn ei ôl
    
9.  - (1) Gall y corff priodol ar unrhyw adeg cyn ei fod yn derbyn hysbysiad o'r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu o benderfyniad y Cyngor o dan baragraff 11  - 

    (2) Gall y corff priodol ar unrhyw adeg gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

    (3) Gellir diwygio neu dynnu ateb yn ei ôl drwy anfon ateb wedi'i ddiwygio neu hysbysiad yn datgan bod yr ateb yn cael ei dynnu'n ôl, fel y digwydd, at y swyddog priodol.

Cydnabod a hysbysu am yr ateb
    
10.  - (1) Rhaid i'r swyddog priodol o fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor yr ateb  - 

    (2) O fewn deg diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbyniodd y Cyngor gan y corff priodol unrhyw ddogfennau ychwanegol, ateb diwygiedig, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i gefnogi ateb, neu hysbysiad bod ateb yn cael ei dynnu'n ôl, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi at yr apelydd.

Pwcircer i benderfynu'r apêl heb wrandawiad
    
11.  - (1) Pan nad yw naill ai'r apelydd na'r corff priodol ar ôl i'r cyfnod y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb ddirwyn i ben, wedi gwneud cais am wrandawiad llafar, ac nad yw'r Cyngor yn ystyried bod gwrandawiad llafar yn angenrheidiol, gall y Cyngor benderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar.

    (2) Pan fo'r cyfnod y mae'n ofynnol i'r corff priodol anfon ei ateb o'i fewn wedi dirwyn i ben ac nad yw corff priodol wedi gwneud hynny, gall y Cyngor ganiatáu apêl heb wrandawiad llafar.

    (3) Os bydd y Cyngor yn penderfynu ar yr apêl heb wrandawiad llafar, rhaid iddo anfon hysbysiad o'i benderfyniad fel sy'n ofynnol o dan baragraff 17 fel bod yr apelydd a'r corff priodol yn ei dderbyn o fewn 20 diwrnod gwaith gan ddechrau â'r diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan ddaeth y terfyn amser ar gyfer anfon ateb i ben.

Gwrandawiad apêl
    
12. Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys pan fo'r apêl i gael ei benderfynu ar sail gwrandawiad llafar.

Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad
    
13.  - (1) Rhaid i'r Cyngor  - 

bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

    (2) Rhaid i'r swyddog priodol ar yr un diwrnod ag y bydd y Cyngor yn pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad anfon at yr apelydd a'r corff priodol hysbysiad  - 

    (3) Ni all y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad fod yn llai na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad.

Y camau i'w dilyn gan yr apelydd a'r corff priodol ar ôl derbyn hysbysiad am y gwrandawiad
    
14.  - (1) O fewn deg diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad  - 

    (2) Rhaid i'r swyddog priodol o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan dderbynnir sylwadau anfon at y naill ochr a'r llall gopi o unrhyw sylwadau a dderbyniwyd gan y swyddog priodol oddi wrth yr ochr arall o dan y paragraff hwn.

Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad
    
15.  - (1) Gall y Cyngor newid lleoliad neu amser y gwrandawiad o dan unrhyw amgylchiadau y bydd yn eu hystyried yn briodol, ar yr amod nad yw'r dyddiad newydd ar gyfer y gwrandawiad yn gynharach na'r dyddiad gwreiddiol.

    (2) Pan fo'r Cyngor yn newid lleoliad neu amser y gwrandawiad rhaid i'r swyddog priodol anfon hysbysiad i'r apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu o'r newid. Rhaid iddo wneud hynny yn ddi-oed a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan wnaed y newid.

Y weithdrefn yn y gwrandawiad
    
16.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn rhaid i'r Cyngor benderfynu ar y weithdrefn yn ystod gwrandawiad yr apêl.

    (2) Rhaid i wrandawiad yr apêl gael ei gynnal yn gyhoeddus oni bai fod y Cyngor yn penderfynu ei bod yn deg ac yn rhesymol i'r gwrandawiad neu unrhyw ran ohono gael ei gynnal yn breifat.

    (3) Gall yr apelydd a'r corff priodol ymddangos yn y gwrandawiad a gallant gael eu cynrychioli neu eu cynorthwyo gan unrhyw berson.

    (4) Os yw'r apelydd neu'r corff priodol yn methu â mynychu'r gwrandawiad, gall y Cyngor wrando, ac ar yr amod ei fod wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan yr ochr dan sylw o dan baragraff 14, gall benderfynu, ar yr apêl yn absenoldeb yr ochr honno.

    (5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) gall yr apelydd a'r corff priodol roi tystiolaeth, alw tystion, ofyn cwestiynau i unrhyw dystion ac annerch y Cyngor ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar destun yr apêl.

    (6) Gall y Cyngor ar unrhyw adeg yn y gwrandawiad gyfyngu ar hawliau'r naill ochr a'r llall o dan is-baragraff (5) ar yr amod ei fod wedi'i fodloni na fyddai gwneud hynny yn atal yr apêl rhag cael ei benderfynu'n deg.

    (7) Gall y Cyngor ohirio'r gwrandawiad, ond ni chaiff wneud hynny oni bai ei fod wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny fel bod modd penderfynu ar yr apêl yn deg.

    (8) Rhaid cyhoeddi amser a lleoliad gwrandawiad sy'n cael ei ohirio naill ai cyn y gohiriad neu rhoid i'r Cyngor anfon yn ddi-oed, a beth bynnag o fewn tri diwrnod gwaith gan ddechrau â dyddiad y gohiriad, hysbysiad i'r apelydd a'r corff priodol yn eu hysbysu o amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig.

Penderfyniad y Cyngor
    
17.  - (1) Gellir gwneud a chyhoeddi penderfyniad y Cyngor ar ddiwedd y gwrandawiad, ond beth bynnag fo'r achos, p'un a fu gwrandawiad ai peidio, rhaid ei gofnodi yn union pan gaiff ei wneud mewn dogfen y mae'n rhaid iddo hefyd gynnwys datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad ac y mae'n rhaid ei lofnodi a'i ddyddio gan berson a awdurdodir gan y Cyngor.

    (2) Rhaid i'r Cyngor o fewn pum diwrnod gwaith gan ddechrau â'r dyddiad pan wnaed y penderfyniad  - 

Afreoleidd-dra
    
18.  - (1) Ni fydd unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Atodlen hon cyn i'r Cyngor gyrraedd ei benderfyniad ynddo'i hun yn dirymu'r achos.

    (2) Pan ddaw unrhyw afreoleidd-dra o'r fath i sylw'r Cyngor, gall, a rhaid iddo os yw'n ystyried fod y naill ochr neu'r llall wedi'u rhagfarnu gan yr afreoleidd-dra, roi unrhyw gyfarwyddiadau sydd yn ei farn ef yn gyfiawn, cyn dod i'w benderfyniad, i unioni neu anwybyddu'r afreoleidd-dra.

Dogfennau
    
19.  - (1) Gall unrhywbeth y mae'n ofynnol ei anfon at berson at ddibenion apêl o dan yr Atodlen hon  - 

    (2) Cyfeiriad priodol person yw'r cyfeiriad a nodir yn yr hysbysiad apêl neu'r ateb, neu unrhyw gyfeiriad arall a gaiff ei hysbysu wedi hynny i'r swyddog priodol.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i bersonau sy'n cymhwyso fel athrawon gwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu cyn iddynt gael eu cyflogi mewn "ysgol berthnasol" yng Nghymru. Trwy rinwedd adran 43(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, mae hyn yn cynnwys personau a gymerir ymlaen heblaw o dan gontract cyflogaeth mewn ysgol o'r fath.

"Ysgol berthnasol" yw ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol, ac ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly.

Gellir gwasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn ysgol berthnasol (heblaw ysgol mewn ysbyty), neu ysgol annibynnol y mae'i chwricwlwm yn bodloni gofynion penodol o'r Cwricwlwm Cenedlaethol neu goleg chweched dosbarth. Ni ellir ei wasanaethu mewn uned cyfeirio disgyblion neu ysgol sy'n ddarostyngedig i "fesurau arbennig", oni bai fod y person dan sylw yn cwblhau cyfnod ymsefydlu sydd eisoes wedi cychwyn yn yr ysgol neu fod un o Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru yn ardystio bod yr ysgol yn addas i ddarparu'r ymsefydliad. Bydd cyfnod o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at ymsefydlu o dan reoliadau ymsefydlu cyfatebol yn Lloegr yn cyfrif tuag at ymsefydlu yng Nghymru.

Fel arfer hyd y cyfnod ymsefydlu yw tri thymor ysgol ar gyfer athro neu athrawes llawn-amser a'r hyd cyfatebol ar gyfer athro neu athrawes sy'n gweithio'n rhan-amser.

Mae eithriadau i'r gofyn i wasanaethu cyfnod ymsefydlu: mae'r prif eithriadau ar gyfer athrawon sydd wedi cymhwyso cyn y daw'r Rheoliadau i rym, athrawon sydd wedi'u heithrio o'r gofyn i fod yn athrawon cymwysedig, athrawon sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnodau ymsefydlu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac athrawon y mae Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd wedi iddynt gwblhau cyfnod o o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol yn gymwys iddynt.

Mae'r Rheoliadau yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod safonau ar gyfer asesu athrawon sy'n gwasanaethu cyfnodau ymsefydlu yn eu herbyn er mwyn penderfynu a ydynt wedi cwblhau eu cyfnod ymsefydlu yn llwyddiannus.

Ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu mae pennaeth yr ysgol cyflogir yr athro neu athrawes ynddi yn gwneud argymhelliad i'r corff sy'n asesu athrawon sy'n cael eu hymsefydlu (fel arfer yr awdurdod addysg lleol). Mae'r corff hwnnw yn penderfynu p'un a yw'r athro neu'r athrawes wedi cwblhau'r ymsefydliad yn llwyddiannus, a ddylid ymestyn y cyfnod ymsefydlu neu a ydyw wedi methu â chwblhau'r ymsefydlu yn foddhaol. Gall person y mae ei gyfnod ymsefydlu yn cael ei ymestyn neu sy'n methu â chwblhau ei ymsefydliad yn foddhaol apelio i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.


Notes:

[1] 1998 p.30; gweler adran 43(1) am ystyr "prescribed" a "regulations".back

[2] Trosglwyddywd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosgwlyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1988 p.40. Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2187 (Cy. 18)), a ddiwygiwyd gan O.S 2002/2938 (Cy.279) ac O.S 2003/140 (Cy.12).back

[4] O.S. 1999/2817 (Cy. 18), a ddiwygiwyd gan O.S 2002/2938 (Cy.279) ac O.S 2003/140 (Cy.12).back

[5] 1992 p.13.back

[6] 1996 p.56.back

[7] 1998 p.31.back

[8] 1971 p.80.back

[9] Y rheoliadau a oedd mewn grym ar gyfer Lloegr ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cydgyfnerthiad) (Lloegr) 2001 (O.S. 2001/2897) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3938 ac O.S. 2002/2063.back

[10] O.S. 2000/1323 (Cy.101) a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2499 (Cy.202), O.S. 2002/107 (Cy.12) ac O.S. 2002/1556 (Cy.153).back

[11] Mae adran 337(1) yn cael ei diwygio gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[12] O.S. 1999/3312 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/4010.back

[13] 1998 p.38.back

[14] Y Rheoliadau mewn grym ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817) (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S 2002/2938 (Cy.279) a O.S. 2003/140 (Cy.12).back

[15] O.J. Rhif L19, 24.1.89, t.16.back

[16] Gorch. 2073.back

[17] Gorch. 2183.back

[18] O.S. 1999/2817 (Cy. 18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2938 (Cy.279) ac O.S. 2003/140 (Cy.12).back



English version



ISBN 0 11 090681 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 24 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030543w.html