BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Pysgod Cregyn (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003 Rhif 607 (Cy.81)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030607w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 607 (Cy.81)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgod Cregyn (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 6 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 9 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5, 5A a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[1], ac sydd yn awr wedi eu breinio ynddo[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Fôr Benodedig) (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 9 Mawrth 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

Gwaharddiad
    
3. Mae carthu hydrolig i hel molysgiaid dwygragennog yn yr ardal fôr benodedig drwy hyn yn cael ei wahardd.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig o ran cychod pysgota
    
4.  - (1) At ddibenion gorfodi erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig sydd yn y môr tiriogaethol cyfagos i Gymru y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r Erthygl hon.

    (2) Caiff y swyddog fynd ar y cwch, boed gyda phobl wedi eu pennu i gynorthwyo gyda dyletswyddau'r swyddog neu hebddynt, ac i'r perwyl hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn aros a chaiff wneud unrhyw beth arall a fyddai yn hwyluso mynd ar y cwch.

    (3) Caiff y swyddog fynnu presennoldeb y meistr a phobl eraill ar y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad yr ymddengys fod eu hangen at y dibenion a nodwyd ym mharagraff (1) o'r Erthygl hon ac, yn benodol - 

ond nid yw dim byd yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol o dan y gyfraith ei chludo ar gwch gael ei chipio a'i chadw ac eithrio pan fo'r cwch wedi ei ddal mewn porthladd.

    (4) Os ymddengys i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod adran 5 o'r Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn wedi ei thorri ar unrhyw adeg o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain, caiff y swyddog hwnnw - 

ac os bydd swyddog o'r fath yn dal cwch neu'n mynnu bod cwch yn cael ei dal rhaid i'r swyddog hwnnw gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen dal y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Adran 5 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 yn cynnwys pwcirc er i wahardd pysgota am bysgod môr yn llwyr, neu wahardd pysgota am fath penodol o bysgod môr, neu ddull penodol o bysgota, naill ai am bysgod môr yn gyffredinol neu am fathau penodol o bysgod môr. Yn rhinwedd Adran 22 o'r Ddeddf honno mae pysgod môr yn cynnwys pysgod cregyn. Mae Adran 5A o'r Ddeddf yn caniatáu i'r pwcirc er i wneud gorchymyn o dan adran 5 gael ei ddefnyddio at ddibenion amgylchedd y môr. Mae'r pwcirc er yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

Mae'r rhan honno o'r môr oddi ar arfordir De Cymru a ddisgrifir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn wedi ei nodi yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig ddichonol at ddibenion y Gyfarwyddeb Adar (Cyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC).

Mae'r ardal dan sylw yn safle pwysig i Fôr-hwyaid Duon pan nad ydynt yn magu, ac mae'r Gorchymyn hwn yn gwahardd carthu hydrolig am folysgiaid dwygragennog yn yr ardal honno. Ceir esemptiadau gwyddonol ac eraill yn adran 9 o Ddeddf 1967.

Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â gorfodi. Ceir darpariaethau eraill, gan gynnwys rhai ynghylch tramgwyddau, yn Neddf 1967.


Notes:

[1] 1967 p.84.back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672) trosglwyddwyd swyddogaethau "y Gweinidogion" o dan y Ddeddf i'r Cynulliad.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090672 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 19 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030607w.html