BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 706 (Cy.85)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030706w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 706 (Cy.85)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 12 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 28 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 76(4) a 140(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac sydd erbyn hyn wedi eu breinio ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r Rheoliadau
    
2. Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 neu wedi hynny, diwygir Rheoliad 3 o Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000[3] - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adrannau 78 a 79 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu bod grant cynnal refeniw yn daladwy i unrhyw gorff sy'n darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol ac sy'n gorff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau. Breiniwyd y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000 drwy dynnu Corff Cydgysylltu yr Awdurdodau Lleol ar Fwyd a Safonau Masnach oddi ar y rhestr o gyrff penodedig a thrwy ychwanegu Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol. Mae'r diwygiadau yn effeithiol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 neu wedi hynny.


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/718.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090679 9


 
© Crown copyright 2003
Prepared 20 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030706w.html