BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003 Rhif 815 (Cy.100)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030815w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 815 (Cy.100)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003

  Wedi'u gwneud 20 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BB(2), (3) a (5) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 [1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwrdd Iechyd Lleol Powys (Swyddogaethau Ychwanegol) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

Swyddogaethau i'w harfer gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys
     3. Mae'r Swyddogaethau Ychwanegol i'w harfer gan y Bwrdd o'r dyddiad perthnasol ymlaen.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Rhoddodd Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) 2003 (O.S. 2003/150 (Cy.20)) swyddogaethau penodedig i Fyrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd ar gyfer pob ardal yng Nghymru yn unol ag adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Fwrddd Iechyd Lleol Powys, sef swyddogaethau a gyflawnid gynt gan Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Powys ("yr ymddiriedolaeth"). Diddymwyd yr ymddiriedolaeth gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Powys (Diddymu) 2003 (O.S. 2003/817 (Cy.102)).


Notes:

[1] 1977 p.49. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, a pharagraff 37(6). Mewnosodwyd adran 16BB gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17)back

[2] Sefydlwyd o dan adran 16BA(1) o Dddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 gan O.S./2003/148 (Cy.18).back

[3] Trosglwyddwyd asedau, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwladol Powys i'r Bwrdd gan Orchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/473 (Cy.63)).back

[4] 1983 p.20 ("Deddf 1983"); mae i'r ymadrodd "rheolwyr" yr ystyr a roddir i "managers" gan adran 145(1) o Ddeddf 1983.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090697 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 3 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030815w.html