BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003 Rhif 817 (Cy.102)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030817w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 817 (Cy.102)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003

  Wedi'i wneud 19 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) yn Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[2], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n ei hystyried hi'n briodol er budd y gwasanaeth iechyd i wneud y Gorchymyn hwn[4]), ac ar ôl cyfnod ymgynghori a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf hon[5], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003.

Diddymu Ymddiriedolaeth GIG
    
2. Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992[6], ac yn unol â hynny dirymir drwy hyn y Gorchymyn hwnnw.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

19 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu ar 1 Ebrill 2003 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd ar 16 Tachwedd 1992.


Notes:

[1] 1977 p.49; diwygiwyd adran 126(3) gan adran 65(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990" ) a chan adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995 ") a pharagraff 57 yn Atodlen 1 iddi.back

[2] 1990 p.19; diwygiwyd adran 5(1) gan adran 65(2), adran 13(1)(a) a (10) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ac Atodlen 5 iddi, ac adran 2(1) o Ddeddf 1995 a pharagraff 69(b) yn Atodlen 1 iddi.back

[3] Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back

[4] Gweler paragraff 29(2)(b) yn Atodlen 2 i Ddeddf 1990.back

[5] 1990 (p.19).back

[6] O.S. 1992/2741.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090693 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 28 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030817w.html