BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003 Rhif 818 (Cy.103)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030818w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 818 (Cy.103)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 19 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a drosglwyddwyd gan adran 126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], a pharagraff 22(1) o Atodlen 5B i'r Ddeddf honno, ac sy'n arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru[2], ac ar ôl cynnal ymgynghoriad llawn mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion sydd i'w trosglwyddo, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn yw Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall - 

Trosglwyddo cyflogeion Awdurdodau Iechyd i Fyrddau Iechyd Lleol
     3. Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth cyflogai perthnasol gydag awdurdod iechyd a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i Fwrdd Iechyd Lleol (sef un o'r Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen) sydd wedi cynnig swydd gyflogedig i'r cyflogai perthnasol a bod yntau wedi'i derbyn.

Trosglwyddo cyflogeion Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys i Fwrdd Iechyd Lleol Powys
    
4. Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a gâi ei gyflogi, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, gan Ymddiriedolaeth GIG Powys, ac nad yw ei gontract cyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Powys wedi terfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys.

Trosglwyddo i'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig os bydd diswyddo yn digwydd
    
5.  - (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i berson

    (2) Yn effeithiol o'r dyddiad diswyddo, rhaid trin contract cyflogaeth rhwng person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a'r Bwrdd Iechyd Lleol yr oedd yn cael ei gyflogi ganddo fel petai'n gontract cyflogaeth am dymor penodedig a wnaed yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a Bwrdd Iechyd Lleol Powys.

    (3) Bydd erthygl 6 o Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (Trosglwyddo cyflogeion CCE o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig) yn gymwys i berson y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan baragraff (2) fel petai'r person hwnnw yn gyflogai CCE.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mawrth 2003



YR ATODLEN
Erthygl 3

Colofn 1 Colofn 2
Awdurdodau Iechyd Byrddau Iechyd Lleol
Bro Tâf

Dyfed Powys

Gogledd Cymru

Gwent

Morgannwg

Abertawe

Blaenau Gwent

Bro Morgannwg

Caerdydd

Caerffili

Casnewydd

Castell-nedd Port

Talbot

Ceredigion

Conwy

Gwynedd

Merthyr Tudful

Pen-y-bont ar Ogwr

Powys

Rhondda Cynon Tâf

Sir Benfro

Sir Ddinbych

Sir Fynwy

Sir Gaerfyrddin

Sir y Fflint

Tor-faen

Wrecsam

Ynys Môn




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan baragraff 22(1) o Atodlen 5B i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49) ac adran 126(1) a (4) o'r Ddeddf honno, fel y'i diwygiwyd gan adrannau 6(1), (2) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pwcircer i drosglwyddo, i Fwrdd Iechyd Lleol, a hynny drwy orchymyn, unrhyw gyflogeion unrhyw Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, sy'n ateb y disgrifiad penodedig.

Mae'r Gorchymyn yn trosglwyddo (erthygl 3) staff y pum Awdurdod Iechyd yng Nghymru a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996 (OS 1996/146), ac eithrio'r staff hynny a drosglwyddir o dan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/813, (Cy.98)), i'r Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, (Cy.18)). Mae'r Gorchymyn hefyd yn trosglwyddo (erthygl 4) staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992 (O.S. 1992/2741) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys. Os caiff unrhyw staff sy'n cael eu trosglwyddo i Fyrddau Iechyd Lleol o dan erthyglau 3 neu 4 eu diswyddo yn ystod y cyfnod o 12 mis yn dilyn y dyddiad trosglwyddo, byddant yn cael eu trosglwyddo (erthygl 5) i'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig. Drwy'r Cynllun hwn gwneir ymdrech i gael swydd iddynt gydag un o gyflogwyr eraill y gwasanaeth iechyd neu gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn unol â'r gofynion ym mharagraff 22(3) o Atodlen 5B gwneir y Gorchymyn hwn yn sgil cydymffurfio ag unrhyw ofynion a ragnodwyd ynghylch ymgynghori mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion a drosglwyddir. Mae'r darpariaethau ym mharagraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 5B, i'r graddau y maent yn berthnasol, yn gymwys i'r cyflogeion a drosglwyddir o dan y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1977 p.49, fel y'i diwygiwyd. Y diwygiadau perthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn yw'r rhai a wnaed gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlen 4 iddi.back

[2] Mewn perthynas ag a.126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), o'i darllen gydag adran 40 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002. Mae'r pwerau eraill y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud odanynt wedi'u rhoi'n uniongyrchol i'r Cynulliad.back

[3] O.S. 1996/146.back

[4] (O.S. 2003/148, (Cy 18).back

[5] Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Powys drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49)  -  gweler Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (OS 2003/148, Cy. 18).back

[6] O.S. 2003/813, Cy. 98).back

[7] O.S. 1992/2741.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090701 9


 
© Crown copyright 2003
Prepared 7 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030818w.html