BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 Rhif 873 (Cy.109)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030873w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 873 (Cy.109)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 25 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Mehefin 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 52(2) a (3), 138(8) a 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sydd â'r Rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sydd â'r Rhif hwnnw.

Dirymu a darpariaethau trosiannol
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000[4] yn cael eu dirymu.

    (2) Er hynny, fe fydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000 a chyn 1 Ebrill 2002.

Ffurf datganiadau alldro
     4.  - (1) Rhaid paratoi datganiad alldro yn Gymraeg ac yn Saesneg.

    (2) Rhaid i ddatganiad alldro gynnwys pennawd ar frig y tudalen cyntaf yn nodi mai datganiad alldro ydyw, enw'r awdurdod y paratowyd y datganiad ganddo a'r flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.

Gwybodaeth ar gyfer datganiadau alldro
    
5.  - (1) Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn datganiad alldro mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (wedi'i hadnabod yn ôl ei henw a'r Rhif cyfeirio swyddogol a ddyrannwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol), yw  - 

Dull cyhoeddi datganiadau alldro
     6. Rhaid i bob datganiad alldro gael ei gyhoeddi  - 

     7.  - (1) Rhaid rhoi datganiad alldro i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Rhaid i unrhyw iaith neu feddalwedd cyfrifiadur a ddefnyddir i ddarparu'r tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.

Amser cyhoeddi datganiadau alldro
    
8. Rhaid i ddatganiad alldro gael ei gyhoeddi cyn y 1 Hydref nesaf yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000. Maent yn pennu'r wybodaeth am wariant yr awdurdodau addysg lleol (AALl) ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys mewn datganiad (y cyfeirir ato yn y rheoliadau fel "datganiad alldro") y mae'n ofynnol i bob AALl ei baratoi ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol o dan adran 52(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (rheoliad 5).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn pennu'r ffurf y mae'n rhaid i ddatganiadau alldro ei chymryd (rheoliad 4(1) a (2)) a dull ac amser cyhoeddi datganiadau o'r fath (rheoliadau 6-8)

Mae dau brif newid. Yn gyntaf, nid yw datganiad alldro bellach i gael ei baratoi mewn dwy ran. Y rheswm am y newid hwn yw nad oes gofyniad bellach yn y rheoliadau sy'n rhagnodi cynnwys datganiadau cyllideb i'r datganiadau hynny gynnwys gwybodaeth lefel AALl  -  gweler Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002. Yn sgil hynny, nid yw'r hyn a oedd yn Rhan I o'r datganiad alldro, a oedd yn ymdrin â gwariant gwirioneddol ar lefel AALl, bellach yn briodol. Yn ail, mae'r rheoliadau bellach yn darparu i'r datganiadau alldro gael eu paratoi yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Dirymir Rheoliadau 2000 (rheoliad 3).


Notes:

[1] 1998 p. 31. Caiff adran 52 ei diwygio'n rhagolygol gan adran 45 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1) o Ddeddf 1998.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 52 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2002/122 (Cy. 16).back

[4] O.S. 2000/1717 (Cy. 117).back

[5] O.S. 1999/101, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911 (Cy. 40), 2001/495 (Cy. 22), 2002/136 (Cy.19) a 2003/538 (Cy.75).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090727 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 24 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030873w.html