BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003 Rhif 879 (Cy.110)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030879w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 879 (Cy.110)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 25 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 6 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512ZB(4)(a)(iv) a 568 o Ddeddf Addysg 1996[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enw, Cychwyn a Chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 6 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

Credydau Treth Rhagnodedig
     3. Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(iv) o Ddeddf 1996 o dan yr amgylchiadau canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996, bod plentyn â hawl i gael cinio ysgol yn rhad ac am ddim pan fydd ei riant yn derbyn Credyd Treth i Blant yn yr amgylchiadau diffiniedig.

Yr amgylchiadau diffiniedig yw nad yw'r rhiant yn derbyn Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a rhaid bod y dyfarniad o Credyd Treth i Blant wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm sydd wedi ei bennu at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002, (sef £13,230 ar hyn o bryd).


Notes:

[1] 1996 p.56. Amnewidir adran 512 yn rhagolygol gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a mewnosodir adrannau 512ZA a 512ZB. Mae rhannau perthnasol adran 201 i ddod i rym ar 31 Mawrth 2003 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3185)(Cy.301) (C.107) Am ddiffiniad o "prescribed" gweler adran 512(b) fel y'i cymhwysir gan adran 512ZB(5).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.back

[3] 2002 p.21.back

[4] OS 2002/2006. Mae incwm blynyddol person sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â'r rheoliadau hynny yn cynnwys incwm partner y person hwnnw os oes cais ay y cyd i dderbyn Credyd Treth i Blant.back

[5] £13,230 yw'r swm a benwyd mewn perthynas a Credyd Treth i Blant o 6 Ebrill 2003 ymlaen, yn sgil rheoliad 3(3) o Reoliadau Credydau Treth (Trothwyau Incwm a Phennu Cyfraddau) 2002 (O.S. 2002/2008).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090706 X


 
© Crown copyright 2003
Prepared 9 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030879w.html