BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 897 (Cy.117)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030897w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 897 (Cy.117)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 7 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym  - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[3].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r prif Reoliadau  -  terfynau cyfalaf
     2.  - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 20 (terfyn cyfalaf) yn lle'r ffigur "£19,000" rhoddir y ffigur "£20,000".

    (3) Yn rheoliad 28(1) (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) yn lle'r ffigur "£11,750", bob tro y mae'n ymddangos, rhoddir y ffigur "£12,250" ac yn lle'r ffigur "£19,000" rhoddir y ffigur "£20,000".

Diwygio'r prif Reoliadau  -  dehongli
    
3.  - (1) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) - 

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r prif Reoliadau, mewnosodir y diffiniadau canlynol yn y man priodol:

Diwygio rheoliad 16 o'r prif Reoliadau
     4. Ar ôl paragraff (4) o reoliad 16 o'r prif Reoliadau (cyfalaf a gaiff ei drin fel incwm) mewnosodir y paragraff canlynol - 

Diwygio Atodiad 2 i'r prif Reoliadau
    
5. Ym mharagraff 3(2)(a) o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (symiau i'w hanwybyddu wrth gyfrifo enillion), yn lle'r geiriau "an invalid care allowance" mewnosodir y geiriau " a carer's allowance".

Diwygio Atodlen 3 i'r prif Reoliadau  -  paragraffau 10 a 30
    
6.  - (1) Ym mharagraff 10 o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (symiau i'w hanwybyddu wrth gyfrifo incwm heblaw enillion) - 

    (2) Ym mharagraff 30 o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau - 

Diwygio Atodlen 3  -  paragraffau 28D  - F
    
7.  - (1) Yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (symiau i'w hanwybyddu wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion), ar ôl paragraff 28C, ychwanegir y paragraffau canlynol - 

    (2) Yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau ar ôl paragraff 28D, ychwanegir y paragraffau canlynol - 

Diwygio Atodlen 4 i'r prif Reoliadau
    
8.  - (1) Yn Atodlen 4 i'r prif Reoliadau (cyfalaf i'w anwybyddu) ar ôl paragraff 2, ychwanegir y paragraff canlynol - 

    (2) Ym mharagraff 6 o Atodlen 4 i'r prif Reoliadau - 

    (3) Yn atodlen 4 i'r prif Reoliadau, ar ôl paragraff 6, ychwanegir y paragraff canlynol - 

    (4) Yn Atodlen 4 i'r prif reoliadau ar ôl paragraff 21, ychwanegir y paragraffau canlynol - 

     9. Dirymir Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2002[18])



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [19]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y prif Reoliadau").

Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person ("y preswylydd") i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.

Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid asesu preswylydd fel un sy'n gallu talu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy na therfyn cyfalaf uchaf o £19,000. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cynyddu'r terfyn cyfalaf uchaf o £19,000 i £20,000. Mae'r prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sydd o fewn band rhwng y terfyn cyfalaf uchaf a'r terfyn cyfalaf isaf. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r terfynau cyfalaf uchaf ac isaf. Mae pob £250 neu ran o £250 o fewn y band hwn yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio'r prif Reoliadau gyda'r effaith y bydd yr holl daliadau cyfnodol a geir mewn setliad o hawliad am anaf personol, boed yn rhinwedd cytundeb neu orchymyn llys, i'r graddau nad ydynt yn incwm, yn cael eu trin fel incwm.

Mae Rheoliad 5 yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn rhoi yn lle'r cyfeiriad at "invalid care allowance" y term "carer's allowance".

Mae Rheoliad 6 yn diwygio'r prif Reoliadau gyda'r effaith bod taliadau incwm naill ai, (a) a gafwyd o ymddiriedolaethau y mae eu cyllid yn deillio o setliadau anaf personol i'r preswylydd, neu (b) o flwydd-dal a brynwyd o gyllid o'r fath neu (c) yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau am anaf personol, yn cael eu hanwybyddu yn eu cyfanrwydd pan ydynt wedi'u bwriadu a'u defnyddio ar gyfer angen gan y preswylydd na chymerwyd i ystyriaeth wrth bennu cost (neu gyfradd safonol) y llety a ddarperir. Fel arall, anwybyddir £20 cyntaf incwm o'r fath.

Mae Rheoliadau 7 ac 8(4) yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn hepgor, wrth gyfrifo incwm neu gyfalaf, unrhyw daliadau a wneir i breswylwyr neu ar eu rhan ac sy'n ymwneud â gwasanaethau lles y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi grant mewn cysylltiad â hwy i'r awdurdod lleol o dan a.93(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae Rheoliad 7 hefyd yn hepgor lwfans gwarcheidwad a chredyd treth plant.

Mae Rheoliad 8(1) yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn hepgor, wrth gyfrifo cyfalaf preswylydd, werth buddiant y preswylydd mewn cartref a feddiannai gynt gyda phriod neu bartner nad yw bellach yn briod ag ef neu hi neu yn byw gydag ef neu hi, os yw'r cyn-briod neu'r cyn-bartner yn dal i feddiannu'r cartref fel rhiant unigol.

Mae Rheoliad 8(2) yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cadw'r sefyllfa bresennol ynghylch trin ôl-ddyledion amrywiol fudd-daliadau nawdd cymdeithasol wrth asesu cyfalaf preswylydd ac mae'n tynnu oddi yno gyfeiriad at baragraff o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a gafodd ei ddirymu.

Mae Rheoliad 8(3) yn darparu ar gyfer anwybyddu wrth gyfrifo cyfalaf unrhyw ôl-ddyledion neu unrhyw daliad consesiynol a wneir i ad-dalu ôl-ddyledion oherwydd na thalwyd credydau treth am gyfnod o 52 o wythnosau o ddyddiad eu talu.


Notes:

[1] 1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.back

[2] Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/2977; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/602 ac O.S. 2002/814 (Cy.94).back

[4] 1992 p.4 Gweler adran 70 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1457.back

[5] O.S. 1987/1967 Gweler rheoliad 2.back

[6] 2002 p.21 Gweler adran 8.back

[7] 1992 p.4 Gweler adran 77 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Credydau Treth 2002 p. 21.back

[8] 2002 p.21 Gweler adran 10.back

[9] 2000 p. 22.back

[10] 1996 p. 30.back

[11] 2001 p. 15.back

[12] 1989 p.41.back

[13] 1992 p.4 Gweler adran 128 fel y'i diwygir gan Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 p.18 a Deddf Credydau Treth 1999 p.10back

[14] Gweler adran 129 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 p.14, Deddf Nawdd Cymdeithasol (Anallu i Weithio) 1994 p.18, Deddf Ceisio Gwaith 1995 p.18, Deddf Credydau Treth 1999 p.10 a Deddf Ad-drefnu Nawdd Cymdeithasol a Phensiynau 1999 p.30.back

[15] 1996 p.30.back

[16] 2001 p.15.back

[17] 1989 p.41.back

[18] O.S. 2002/814 (Cy.94).back

[19] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090711 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 10 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030897w.html