![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol Cymru 2003 Rhif 918 (Cy.119) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030918w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 26 Mawrth 2003 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2003 |
(3) Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, at ddibenion y rheoliadau hyn mae person yn preswylio yng Nghymru os yw'n preswylio yno dros dro neu yn barhaol.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
Dirymu
2.
Dirymir Rheoliadau Cyfrifon Dysgu Unigol (Cymru) 2000[2].
Trefniadau ymgymhwyso
3.
At ddibenion adran 105 o'r Ddeddf mae trefniadau yn gymwys o dan yr adran honno mewn perthynas â Chymru -
Ystyr Person Cymwys
4.
- (1) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae person yn berson cymwys os yw'n bodloni'r amodau a geir ym mharagraffau (2) i (5) isod ar y dyddiad cofrestru.
(2) Yr amod cyntaf yw bod y person wedi cyrraedd 18 mlwydd oed.
(3) Yr ail amod yw bod y person -
neu, ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath; neu
(d) yn berson nad yw'n dod o fewn paragraffau (a) i (ch) ond ei fod yn wladolyn un o aelod-wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig, neu ei fod yn briod, yn blentyn neu'n llys-blentyn i berson o'r fath.
(4) Y trydydd amod yw bod y person naill ai -
(5) Y pedwerydd amod yw bod y person heb gyrraedd safon cymhwyster addysgol sy'n uwch na Lefel 2 neu ei chyfwerth fel y nodwyd yn y fframwaith cymwysterau cenedlaethol[4].
Cofrestru - Cyffredinol
5.
- (1) Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu fynnu bod ceisydd am gofrestru yn darparu'r wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny y gallai'r gweinyddydd cyfrifon dysgu benderfynu arnynt er mwyn i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu benderfynu a yw'r person yn berson cymwys, a chaiff wrthod ystyried cais am gofrestru oni bai bod yr wybodaeth honno neu'r dogfennau hynny yn cael eu darparu.
(2) Caiff gweinyddydd cyfrifon dysgu ddileu cofrestriad ar unrhyw adeg -
(3) Caiff deiliad cyfrif dysgu unigol dynnu ei gofrestriad gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu yn ôl ar unrhyw adeg.
(4) Os yw person yn barti i drefniant ymgymhwyso nid yw unrhyw gofrestriad dilynol gyda gweinyddydd cyfrifon dysgu i ddwyn unrhyw effaith.
Grantiau i ddeiliaid cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â hwy
6.
Gall grantiau gael eu talu yn unol â rheoliadau 7 i 9 isod mewn perthynas â deiliaid cyfrif dysgu unigol mewn cysylltiad ag unrhyw addysg neu hyfforddiant y maent yn bwriadu ymgymryd â hwy -
Yr addysg a'r hyfforddiant y gellir talu grant ar eu cyfer
7.
- (1) Yr addysg neu'r hyfforddiant y cyfeirir atynt yn rheoliad 6 yw unrhyw addysg neu hyfforddiant, heblaw addysg eithriedig, sydd -
(2) Yn y rheoliad hwn, "addysg eithriedig" yw -
Swm y grant
8.
Swm y grant y gellir ei dalu i ddeiliad cyfrif dysgu unigol neu mewn perthynas â deiliad cyfrif dysgu unigol yw'r swm a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o bryd i'w gilydd.
Grantiau - darpariaethau atodol
9.
- (1) Mae grantiau i gael eu talu ar yr adegau ac yn y rhandaliadau a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (ac yn benodol caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu nad yw grant i gael ei dalu nes bod y deiliad cyfrif dysgu unigol wedi gwneud unrhyw daliad neu wedi sicrhau y telir unrhyw daliad tuag at gostau'r addysg neu'r hyfforddiant fel sy'n angenrheidiol).
(2) Mae grantiau i gael eu talu i'r person sy'n darparu'r addysg neu'r hyfforddiant.
(3) Caiff grantiau eu talu ar y telerau hynny a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chaiff y telerau hynny gynnwys telerau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhan neu'r cyfan o'r grant yn cael ei ad-dalu -
(b) gan y deiliad cyfrif dysgu unigol -
(4) Gall grantiau gael eu talu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan weinyddydd cyfrifon dysgu o dan drefniadau a wneir gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac os gwneir trefniadau o'r fath caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dalu tâl neu symiau i dalu ei gostau i'r gweinyddydd cyfrifon dysgu.
Preswylfa - darpariaethau atodol
10.
At ddibenion y rheoliadau hyn -
(1) penderfynir ar breswylfa aelod o lynges, byddin neu awyrlu y Goron ("aelod o'r lluoedd arfog") yn unol ag is-baragraffau (a) a (b) -
(2) ymdrinnir â charcharor a ddelir dan ddedfryd o fewn y Deyrnas Unedig fel pe bai'n preswylio yng Nghymru os -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
[2] O.S. 2000/3384 (Cy.222).back
[3] 1971 p.77; diwygiwyd ei fod a mewnosodwyd is-adran (2A), gan Ddedf Cenedligrwydd 1981 (p. 61), adran 39 ac Atodlen 4.back
[4] Yn unol â swyddogaethau'r awdurdodau rheoleiddio mewn perthynas â chymwysterau allanol ac yn unol â pholisi cenedlaethol, cyhoeddir y fframwaith cymwysterau cenedlaethol ar y cyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cyricwlwm ac Asesu Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chyricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor Cyricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir cael y fframwaith ar www.accac.org.uk.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 7 April 2003 |