BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003 Rhif 931 (Cy.121)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030931w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 931 (Cy.121)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 7 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac adrannau 54(1), 55(7) a 64(6) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig[
3].

Dehongli
     2. Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn ei gwneud yn ofynnol fel arall, mae cyfeiriad - 

Taliadau Ychwanegol
     3.  - (1) Mae rheoliad 4 yn gymwys os yw preswylydd wedi nodi ei fod am gael llety mewn llety dewisol perthnasol.

    (2) Nid yw rheoliad 4 yn gymwys i unrhyw drefniadau a wnaed o dan baragraff 4 o'r Cyfarwyddiadau cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

    
4.  - (1) Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety dewisol perthnasol i breswylydd yn yr amgylchiadau canlynol;

    (2) Yr adnoddau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(b)(ii) yw - 

Diwygio'r Rheoliadau Asesu
     5.  - (1) Ar ôl rheoliad 16 o'r Rheoliadau Asesu, mewnosodwch y rheoliad canlynol - 

    (2) Ar ôl paragraff (3) o reoliad 28 o'r Rheoliadau Asesu, mewnosodwch y paragraff canlynol - 

Cyfraniadau Perthnasol
     6.  - (1) Mae paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn gymwys mewn amgylchiadau lle y mae gan breswylydd fuddiant llesiannol mewn eiddo y mae'n ei feddiannu neu a feddiannodd gynt yn brif neu yn unig breswylfa iddo.

    (2) At ddibenion adran 55 o Ddeddf 2001, y cyfraniadau perthnasol yw'r rhan honno o'r taliadau y mae'r preswylydd yn atebol am eu talu i'r awdurdod lleol y gellir ei phriodoli i werth yr eiddo y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a chaiff y rhan honno ei phennu drwy gyfrifo'r gwahaniaeth rhwng - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
11]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â llety preswyl a ddarperir o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i famau sy'n disgwyl neu'n magu baban, neu i bobl 18 oed neu'n hycircn sydd, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu amgylchiadau eraill, ag angen gofal a sylw nad yw ar gael iddynt fel arall.

Mae Rheoliadau 3 a 4 yn darparu ar gyfer gwneud taliadau ychwanegol fel y bydd unigolyn a aseswyd fel un ag angen llety o'r fath yn gallu dewis byw mewn llety sydd yn ddrutach nag y byddai'r awdurdod lleol yn talu amdano fel arfer ar gyfer rhywun sydd â'r anghenion sydd wedi eu hasesu i'r unigolyn hwnnw. Gall y taliadau ychwanegol gael eu gwneud gan drydydd parti, gan gynnwys perthynas atebol (fel y'i diffinnir yn adran 42 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948). O dan amgylchiadau penodol, sef yn ystod y cyfnod cychwynnol o 12 wythnos pan ddiystyrir gwerth yr eiddo neu os ceir cytundeb taliad gohiriedig rhwng y preswylydd a'r awdurdod lleol, gall y preswylydd hefyd gyfrannu peth neu'r cyfan o'r taliadau ychwanegol. Mae taliadau o'r fath gan breswylydd i'w talu o adnoddau a bennir yn rheoliad 4(2). Gall berson sy'n elwa o'r cyfnod o 12 wythnos pan ddiystyrir gwerth eiddo, yn ystod y cyfnod hwnnw, wneud taliadau ychwanegol o gyfalaf arall, gan gynnwys cyfalaf sydd yn llai na'r terfyn cyfalaf isaf. Gall berson sydd yn gwneud cytundeb taliad gohiriedig, neu sydd wedi cytuno i wneud cytundeb o'r fath, wneud taliadau ychwanegol y gellid eu cyfrif yn erbyn yr arwystl ar ei eiddo, yn ystod y cyfnod 12 wythnos ac ar ôl hynny.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 i alluogi i daliadau ychwanegol a wneir gan breswylydd o unrhyw un o'r adnoddau penodedig gael eu cymryd i ystyriaeth o dan Reoliadau 1992. Mae hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i'r ddarpariaeth sy'n ymwneud ag incwm tariff yn Rheoliadau 1992, fel y caiff taliadau ychwanegol eu cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo cyfalaf y preswylydd.

Mae rheoliad 6 yn disgrifio sut y pennir cyfraniadau perthnasol at ddibenion cytundeb taliad gohiriedig o dan adran 55 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001. Mae cytundebau o'r fath yn galluogi preswylydd i ohirio talu cyfraniadau a aseswyd tuag at gost ei lety yn gyfnewid am roi arwystl i'r awdurdod lleol ar ei gartref.


Notes:

[1] 1948 p.29. Mae erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, yn trosglwyddo holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1948, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] 2001 p.15.back

[3] Er bod adran 54 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("Deddf 2001") yn cwmpasu Cymru a Lloegr, gwneir y Rheoliadau hyn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sef yr awdurdod perthnasol sydd â'r grym i wneud rheoliadau i Gymru yn unig, gweler adran 66 o Ddeddf 2001.back

[4] Cyhoeddwyd y Cyfarwyddiadau dyddiedig 21 Ionawr 1993 gan y Swyddfa Gymreig ynghyd â Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig Rhif 12/93.back

[5] 1948 p.29.back

[6] 1990 p.19.back

[7] O.S. 1992/2977; Diwygiwyd O.S. 1992/2977 gan O.S. 1993/964; O.S. 1993/2230; O.S. 1994/825; O.S. 1994/2386; O.S. 1995/858; O.S. 1995/3054; O.S. 1996/602; O.S. 1997/485; O.S. 1998/497; O.S. 1998/1730 mewn perthynas â Chymru a Lloegr a gan O.S. 2001/276 (Cy.12); O.S. 2001/1409 (Cy.95); ac O.S. 2002/814(Cy.94) mewn perthynas â Chymru.back

[8] Gweler adran 54(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 am "additional payments".back

[9] O.S. 2003/931 (Cy.121)back

[10] O.S. 2003/931 (Cy.121)back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090730 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 25 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030931w.html