BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003 Rhif 939 (Cy.123) (C.50)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030939w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 939 (Cy.123) (C.50)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 26 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2003.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel y "Ddeddf".

    (3) Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y diwrnod penodedig
    
2. 1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mawrth 2003



ATODLEN 1
Erthygl 2


DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2003


Darpariaethau'r Ddeddf Pwnc
Adran 53 Diystyru adnoddau wrth benderfynu'r angen am lety preswyl
Adran 54 i'r graddau na chafodd ei dwyn i rym eisoes gan adran 70(2) Preswylydd a.y.y.b. yn ariannu llety drutach
Adran 55 Pwcircer i awdurdodau lleol arwystlo tir yn lle cymryd cyfraniadau



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Y Gorchymyn hwn yw'r pumed Gorchymyn Cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (y "Ddeddf") mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2003 fydd y diwrnod y mae adrannau canlynol y Ddeddf yn dod i rym yng Nghymru. Mae'r darpariaethau yn caniatáu newidiadau i'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn codi tâl am lety preswyl o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae adran 53 yn rhoi'r pwcircer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau i benderfynu pa ran o adnoddau person a gaiff eu diystyru wrth benderfynu a oes angen llety arno neu beidio.

Mae adran 54 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n galluogi i daliadau ychwanegol gael eu gwneud, gan neu ar ran preswylydd, ar gyfer llety sy'n costio mwy nag a fyddai awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei dalu.

Mae adran 55 yn caniatáu i awdurdod lleol wneud cytundeb ("cytundeb talu gohiriedig") â pherson y mae angen llety arno i adael i'r person hwnnw beidio â gwneud taliadau am y llety ond i gronni dyled a gaiff ei sicrhau drwy arwystl ar gartref y person hwnnw.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)




Y Ddarpariaeth Dyddiad Cychwyn O.S. Rhif
Adran 3 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) 2002/1475
Adran 5 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 11 1 Rhagfyr 2002 2002/1475
Adran 13 17 Mawrth 2003 2003/713
Adran 16 26 Awst 2002 2002/1919
Adran 19  -  26 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 27 26 Awst 2002 2002/1919
Adran 28  -  39 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 41  -  43 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 49 3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) 2001/3807
Adran 50(1) 8 Ebrill 2002 2001/3752
Adran 50 (2) i (10) 19 Rhagfyr 2001 2001/3807
Adran 51 8 Tachwedd 2001 2001/3752
Adran 52 8 Tachwedd 2001 2001/3752
Adran 67(1) ac Atodlen 5 1 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) 2002/1095, 2002/1475 a 2002/1919
Adran 67(2) ac Atodlen 6 1 Ebrill 2002, 15 Ebrill 2002, 1 Gorffennaf 2002 a 26 Awst 2002 (yn rhannol) 2002/1095, 2002/1312, 2002/1475 a 2002/1919
Atodlen 2 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Atodlen 3 1 Gorffennaf 2002 2002/1475

Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2001/2804 (C.95); O.S. 2001/3167 (C.101); O.S. 2001/3294 (C.107); O.S. 2001/3619 (C.117); O.S. 2001/3752 (C.122); O.S. 2001/3738 (C.121); O.S. 2001/4149 (C.133); O.S. 2002/1095 (C.26); O.S. 2002/1312 (C.36) ac O.S. 2002/2363 (C.77).


Notes:

[1] 2001 c.15.back

[2] 1998 c.38.back



English version



ISBN 0 11090721 3


 
© Crown copyright 2003
Prepared 25 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030939w.html