BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Diystyru Adnoddau) (Cymru) 2003 Rhif 969 (Cy.131)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030969w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 969 (Cy.131)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Diystyru Adnoddau) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddo gan adran 21(2A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Diystyru Adnoddau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (3) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig

Diystyru adnoddau
     2.  - (1) Wrth benderfynu at ddibenion paragraff (a) neu (aa) yn is-adran(1) o adran 21 o'r Ddeddf pa un a yw gofal a sylw ar gael fel arall i berson, rhaid i awdurdod lleol ddiystyru y rhan honno o gyfalaf person nad yw'n fwy na'r terfyn cyfalaf.

    (2) At ddibenion paragraff (1) o'r rheoliad hwn, yn ddarostyngedig i baragraff (3) - 

    (3) Mewn achos lle y mae awdurdod lleol wedi llunio cytundeb neu wedi cytuno i lunio cytundeb taliad gohiriedig (fel y darperir ar ei gyfer yn adran 55 o Ddeddf 2001), rhaid i'r awdurdod lleol pan yw'n gwneud y cyfrif a bennir ym mharagraff (2)(a) yn y rheoliad hwn,] roi effaith i baragraff 1A yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau Asesu, fel pe bai'r paragraff hwnnw'n darllen fel a ganlyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Diwygiwyd adran 21 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (p. 29) gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15) trwy amnewid is-adrannau (2A) a (2B). Mae Adran 21 yn darparu ar gyfer llety preswyl a drefnir gan awdurdodau lleol i famau beichiog a mamau sy'n magu a phersonau eraill y mae arnynt, oherwydd eu hoedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall. Mae'r is-adrannau newydd yn darparu y gall rheoliadau bennu pa adnoddau neu ddarparu ar gyfer penderfynu pa adnoddau y gall yr awdurdod lleol eu diystyru wrth benderfynu at ddibenion adran 21(1)(a) neu (aa) mewn cysylltiad â pherson pa un a oes ar y person angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddo ef neu iddi hi fel arall ai peidio.

Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o ran yr adnoddau i'w diystyru at y dibenion hynny. Yn ddarostyngedig i un eithriad, dylid diystyru cyfalaf person hyd at derfyn cyfalaf fel y'i pennir yn Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992. Yn yr achos a eithrir, os yw'r person yn rhywun y mae'r awdurdod lleol wedi cytuno gydag ef i lunio cytundeb talu gohiriedig, bydd yr awdurdod lleol hefyd yn diystyru gwerth prif gartref neu unig gartref y person hwnnw.


Notes:

[1] 1948 p.29; yn lle is-adrannau (2A) a (2B) o adran 21 rhoddwyd adran 53 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15). Mae Erthygl 2 yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo yn trosglwyddo holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1948, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae adran 68(1) o Ddeddf 2001 yn darparu ar gyfer trin cyfeiriadau at unrhyw Ddeddfau a grybwyllir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac a ddiwygiwyd gan Ddeddf 2001 fel cyfeiriadau at fersiwn ddiwygiedig y Deddfau. (O ran yr Alban, diddymwyd adran 21 o Ddeddf 1948, i'r graddau yr oedd yn berthnasol i'r Alban, gan adran 95(2) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (yr Alban) 1968 (p.49), ac Atodlen 9 iddi.back

[2] 2001 p.15.back

[3] O.S. 1992/2977; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/964; O.S. 1993/2230; O.S. 1994/825; O.S. 1994/2386; O.S. 1995/858; O.S. 1995/3054; O.S. 1996/602; O.S. 1997/485; O.S. 1998/497; O.S. 1998/1730; O.S. 2001/58 ac O.S.2001/1066.back

[4] I weld ystyr "cyfradd safonol" gweler adran 22(2) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 p.29. Ystyr cyfradd safonol yw cyfradd sy'n cynrychioli'r gost lawn i'r awdurdod o ddarparu'r llety.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090728 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 24 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030969w.html