BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd) (Gwrth-hysbysiadau) (Cymru) 2003 Rhif 990 (Cy.139)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030990w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 990 (Cy.139)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd) (Gwrth-hysbysiadau) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 2 Ebrill 2003 
  Yn dod i rym 10 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 99(6)(b) o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993[1], sydd bellach wedi eu breinio ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd) (Gwrth-hysbysiadau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Ebrill 2003.     2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
3. Yn y Rheoliadau hyn - 

Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad ôl-feddiannydd
    
4. Rhaid i wrth-hysbysiad a roddir o dan adran 21 (Gwrth-hysbysiad ôl-feddiannydd) o Ddeddf 1993 gynnwys (yn ogystal â'r manylion sy'n ofynnol o dan yr adran honno) ddatganiad ynghylch a yw'r tir a'r adeiladau penodol o fewn ardal cynllun a gymeradwywyd fel cynllun rheoli ystâd o dan adran 70 o Ddeddf 1993.

Cymhwyso
    
5. Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i wrth-hysbysiadau a roddir o dan adran 21 o Ddeddf 1993 ar, neu ar ôl, y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Ebrill 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Rhaid i berson sy'n cael hysbysiad o gais am ryddfraint ar y cyd sydd wedi ei wneud o dan Ran I o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 ("Deddf 1993") ymateb drwy roi gwrth-hysbysiad yn derbyn neu yn gwrthod y cais. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gofyniad, yn ychwanegol at y rhai a bennir yn adran 21 o Ddeddf 1993, ynglycircn â chynnwys y gwrth-hysbysiad.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys ond i wrth-hysbysiadau a roddir ar, neu ar ôl, y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.


Notes:

[1] 1993 p.28.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090716 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 10 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030990w.html