BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Trwyddedu S<B>&#373;</B>au 1981 (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 992 (Cy.141)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030992w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 992 (Cy.141)

SŴAU, CYMRU

Rheoliadau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 2 Ebrill 2003 
  Yn dod i rym 22 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi ei ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] ynghylch mesurau sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid gwylltion mewn sŵau, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2 uchod, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 22 Ebrill 2003.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

Cymhwyso'r Ddeddf: Cymru
     2.  - (1) Mae adran 22A o'r Ddeddf (a fewnosodir gan Reoliadau 2002) yn peidio â bod yn effeithiol fel bod y diwygiadau i'r Ddeddf a wnaed gan reoliadau 3 i 26 o Reoliadau 2002 ac sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys i Gymru.

    (2) Mae'r cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[
5] at y Ddeddf i'w drin fel pe bai'n cyfeirio at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 2002 a chan y Rheoliadau hyn.

Trwyddedau Cyfredol
     3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob sw yng Nghymru y mae trwydded mewn grym ar ei gyfer o dan y Ddeddf ar 22 Ebrill 2003 heblaw sŵau sy'n cau cyn 1 Hydref 2003.

    (2) Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau, cyn 1 Hydref 2003, fod pob trwydded a roddir ganddo o dan y Ddeddf yn cynnwys y fath amodau sydd, yn nhyb yr awdurdod, yn angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn sicrhau bod y mesurau cadwraeth y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf yn cael eu rhoi ar waith yn y sw, a gall newid y drwydded at y diben hwnnw.

    (3) Mae adran 16(2), (3) a (4) i (6) o'r Ddeddf yn gymwys ynghylch newid trwydded o dan baragraff (2) fel petai'r cyfeiriadau yn adran 16(2) a (6) at "subsection (1)" yn gyfeiriadau at y paragraff hwnnw.

    (4) Mae adran 18(1)(b) ac (c), (2), (3), (5) a (7) o'r Ddeddf yn gymwys ynghylch newid trwydded o dan baragraff (2).

    (5) Wrth benderfynu ynghylch pa amodau i'w gosod ar drwydded o dan baragraff (2) rhaid i awdurdod ystyried unrhyw safonau a bennir i Gymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 9 o'r Ddeddf.

    (6) Ni chaiff newid trwydded o dan baragraff (2) ei drin fel newid sylweddol at ddibenion adran 16 o'r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol i sŵau heb drwyddedau
    
4.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i sw yng Nghymru y mae'n ofynnol iddo, oherwydd y diwygiadau a wneir i'r Ddeddf gan Reoliadau 2002 a chan y Rheoliadau hyn, gael ei drwyddedu o dan y Ddeddf ond nad oedd hi'n ofynnol iddo gael ei drwyddedu felly yn union cyn 22 Ebrill 2003.

    (2) Er gwaethaf unrhyw ddiwygiad o'r fath, caiff person a oedd, yn union cyn 22 Ebrill 2003, yn rhedeg sw y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar unrhyw dir neu mewn unrhyw adeiladau barhau i redeg y sw hwnnw ar y tir neu yn yr adeiladau hynny heb drwydded o dan y Ddeddf - 

    (3) Nid yw adran 16C o'r Ddeddf yn gymwys i sw y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo tra caniateir i berson barhau i redeg y sw heb drwydded yn rhinwedd paragraff (2).

    (4) Os caiff y drwydded ei rhoi, caiff ei rhoi am gyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddir y drwydded arno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Ebrill 2003



ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)

Diwygio adran 1 (trwyddedu sŵau gan awdurdodau lleol)


(Rheoliad 4 o Reoliadau 2002)
     1.

Mewnosod adran newydd 1A


(Rheoliad 5 o Reoliadau 2002)
     2. Ar ôl adran 1 (trwyddedu sŵau gan awdurdodau lleol) mewnosodir yr adran ganlynol - 

Diwygio adran 2 (gwneud cais am drwydded)


(Rheoliad 6 o Reoliadau 2002)
     3. Mewnosodir yr is-adran ganlynol ar ôl is-adran (2) - 

Diwygio adran 4 (rhoi neu wrthod trwydded)


(Rheoliad 7 o Reoliadau 2002)
     4.

Diwygio adran 5 (cyfnodau ac amodau trwyddedau)


(Rheoliad 8 o Reoliadau 2002)
     5.

Diwygio adran 6 (adnewyddu trwydded)


(Rheoliad 9 o Reoliadau 2002)
     6.

Diwygio adran 7 (trosglwyddo, olynu ac ildio trwyddedau)


(Rheoliad 10 o Reoliadau 2002)
     7. Yn is-adran (1) yn lle'r geiriau o "which application" hyd at ddiwedd yr is-adran rhoddir "specified by the authority and notified by them to the transferor and transferee"

Diwygio adran 8 (rhestr yr Ysgrifennydd Gwladol)


(Rheoliad 11 o Reoliadau 2002)
     8.

Mewnosod adran 9A


(Rheoliad 12 o Reoliadau 2002)
     9. Mewnosodir yr adran ganlynol cyn adran 10 (archwiliadau cyfnodol) - 

Diwygio adran 10 (archwiliadau cyfnodol)


(Rheoliad 13 o Reoliadau 2002)
     10. Yn is-adran (4)(e) yn lle "under section 5(3)(b)" rhoddir "requiring the conservation measures referred to in section 1A(f) to be implemented at the zoo,".

Diwygio adran 11 (archwiliadau arbennig)


(Rheoliad 14 o Reoliadau 2002)
     11. Yn is-adran (1)(c) o adran 11 (archwiliadau arbennig) ar ôl "inspection" mewnosodir "in accordance with section 9A or".

Mewnosod adran 11A newydd


(Rheoliad 15 o Reoliadau 2002)
     12. Mewnosodir yr adran ganlynol ar ôl adran 11 - 

Diwygio adran 12 (archwiliadau anffurfiol)


(Rheoliad 16 o Reoliadau 2002)
     13. Yn is-adran (1), ar ôl "sections" mewnosodir "9A,".

Diwygio adran 13 (sŵau awdurdodau lleol)


(Rheoliad 17 o Reoliadau 2002)
     14. Rhoddir, yn lle is-adrannau (4) a (5), yr is-adrannau canlynol - 

Diwygio adran 14 (gollyngiadau ar gyfer sŵau penodol)


(Rheoliad 18 o Reoliadau 2002)
     15.

Diwygio adran 15 (ffioedd a thaliadau eraill)


(Rheoliad 19 o Reoliadau 2002)
     16.

Diwygio adran 16 (pŵer i newid trwyddedau)


(Rheoliad 20 o Reoliadau 2002)
     17.

Mewnosod adrannau newydd
     18. Mewnosodir, ar ôl adran 16 (pŵer i newid trwyddedau), yr adrannau canlynol - 

Diddymu adran 17 (dirymu trwyddedau)


(Rheoliad 22 o Reoliadau 2002)
     19. Mae adran 17 yn peidio â bod yn effeithiol.

Diwygio adran 18 (apelau)


(Rheoliad 23 o Reoliadau 2002)
     20.

Diwygio adran 19 (troseddau a chosbau)


(Rheoliad 24 o Reoliadau 2002)
     21.

Mewnosod adran newydd


(Rheoliad 25 o Reoliadau 2002)
     22. Mewnosodir cyn adran 20 (darpariaeth drosiannol i sŵ au sy'n bodoli) yr adran ganlynol - 

Diwygio adran 21 (Dehongli)


(Rheoliad 26 o Reoliadau 2002)
     23. Mewnosodir y diffiniad canlynol ar ddiwedd is-adran (1) - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/22/EC sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid gwyllt mewn sŵau yng Nghymru (O.J. Rhif L094, 9.4.1999, t 24-26) ("y Gyfarwyddeb"). Mewnosododd Rheoliadau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2002 ("Rheoliadau 2002") adran newydd 22A yn y Deddf Trwyddedu Sŵ au 1981 (y "Ddeddf") a'i heffaith yw bod y diwygiadau eraill yn y rheoliadau hynny yn gymwys i Loegr yn unig. Yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, mae adran 22A yn peidio â bod yn effeithiol, a chan hynny, maent yn cymhwyso'r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau 2002 i Gymru.

Disgrifir y diwygiadau i'r Ddeddf yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Dylid darllen y cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan fod swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1981 wedi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diwygir adran 1 o'r Ddeddf (trwyddedu sŵau gan awdurdodau lleol) i sicrhau bod y Ddeddf yn gymwys i sŵau sydd ar agor saith niwrnod mewn blwyddyn yn ogystal â sŵ au sydd ar agor am fwy na saith niwrnod mewn blwyddyn.

Mewnosodir adran newydd 1A sy'n gwneud y mesurau cadwraethol yn effeithiol y mae'n ofynnol i sŵau eu mabwysiadu yn rhinwedd erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb.

Mae'r Rheoliadau yn diwygio adrannau 5 (cyfnodau ac amodau trwyddedau) a 16 o'r Ddeddf (pŵer i newid trwyddedau) i'w gwneud yn ofynnol bod amodau priodol yn cael eu gosod ar bob trwydded sw sy'n gwneud y mesurau cadwraethol yn effeithiol. Diwygir adran 2 (gwneud cais am drwydded) i'w gwneud yn ofynnol i ymgeisydd am drwydded sw roi i'r awdurdod lleol ei gynigion am weithredu'r mesurau cadwraeth yn y sw. Cyn gosod unrhyw amodau ar drwydded newydd neu wneud newid sylweddol i drwydded gyfredol, mae'n rhaid i'r awdurdod ymgynghori â'r ymgeisydd neu ddeiliad y drwydded ynghylch yr amodau y mae'n cynnig eu gosod, trefnu bod y sw yn cael ei archwilio ac ystyried adroddiad yr archwiliwr. Diwygir adran 4 (rhoi neu wrthod trwydded) i ddarparu bod rhaid i awdurdod wrthod rhoi trwydded os nad yw wedi ei fodloni y byddai'r sw yn gallu cydymffurfio ag amodau'r drwydded sy'n gwneud y mesurau cadwraeth yn effeithiol.

Rhaid i sw gael ei archwilio yn unol ag adran 9A cyn penderfynu ynghylch rhoi, gwrthod, adnewyddu neu newid yn sylweddol ei drwydded. Rhaid i archwilwyr sy'n gwneud archwiliad yn unol ag adran 9A (neu yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 9A, o dan adran 10) ystyried a fydd amodau cyfredol y drwydded, ac unrhyw amodau arfaethedig, yn cael eu bodloni.

Diwygir adran 14 o'r Ddeddf (gollyngiadau ar gyfer sŵau penodol) i sicrhau mai dim ond os na fydd yn niweidiol i amcanion y Gyfarwyddeb a bennir yn erthygl 1 (diogelu anifeiliaid gwyllt a chadwraeth bioamrywiaeth) y ceir rhoi esemptiadau o ofynion y Ddeddf.

Diwygir adran 15 o'r Ddeddf (ffioedd a thaliadau eraill) i alluogi awdurdod i gael costau rhesymol yn ôl gan weithredwr y sw o dan y Ddeddf fel y'i diwygir.

Mae adran 16A yn galluogi awdurdod i gyhoeddi cyfarwyddyd i ddeiliad trwydded sw yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio ag un neu fwy o amodau'r drwydded, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wahardd y cyhoedd rhag mynd i'r sw neu i ran ohono am gyfnod.

Mae adran 16B, sy'n disodli adran 17 (dirymu trwydded) yn rhoi'r pŵer i awdurdod i wneud cyfarwyddyd cau sw yn ei gwneud yn ofynnol i sw gael ei gau ac yn dirymu ei drwydded. Rhaid iddo wneud cyfarwyddyd o'r fath os nad yw'r sw wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 16A i gydymffurfio ag amod trwydded sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithredu'r mesurau cadwraeth. Rhaid iddo hefyd wneud cyfarwyddyd cau sw os nad oes modd cael hyd i weithredwr y sw neu os nad yw'r cyhoedd bellach yn cael mynediad i'r sw am saith niwrnod neu fwy mewn blwyddyn. Gellir gwneud cyfarwyddyd cau sw hefyd ar unrhyw un o'r seiliau eraill a fu gynt yn sail am ddirymu trwydded o dan adran 17.

Diwygir adran 16 o'r Ddeddf (pŵer i newid trwyddedau) i alluogi awdurdod i newid trwydded sw i sicrhau bod rhan o sw (yn ôl y diffiniad yn adran 1(2C)) yn cael ei chau yn barhaol os, ar ddiwedd y cyfnod a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 16A sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio ag amod trwydded sy'n gwneud gweithredu'r mesurau cadwraeth yn ofynnol, bydd rhan o'r sw yn dal i dorri amod y drwydded.

Mae adran 16C yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod (heblaw mewn amgylchiadau penodol) sicrhau bod sw yn cau yn barhaol os yw'n gweithredu heb drwydded yn groes i'r Ddeddf. Mae adran 13(6) yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (heblaw mewn amgylchiadau penodol) sicrhau bod sw y mae awdurdod yn berchen arno ac sy'n gweithredu'r sw heb drwydded, yn groes i'r Ddeddf, yn cau yn barhaol.

Mae adran 16E yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr sw sydd wedi cau i baratoi cynllun o drefniadau arfaethedig ar gyfer gofal yr anifeiliaid yn y dyfodol neu ar gyfer cael gwared arnynt, ac iddo geisio cymeradwyaeth yr awdurdod amdano. Mae'n rhaid i'r trefniadau beidio â bod yn niweidiol i amcanion y Gyfarwyddeb. Ar ôl i'r awdurdod gymeradwyo'r cynllun, mae'n rhaid i'r gweithredwr ei roi ar waith o dan oruchwyliaeth yr awdurdod. Gall awdurdod ofyn am wybodaeth gan weithredwr y sw am y gofal am anifeiliaid mewn sw sydd wedi cau neu am y broses o gael gwared arnynt. Mae adran 11A yn rhoi'r pŵer i'r awdurdod i archwilio sŵau wedi cau o dan amgylchiadau penodol. Os nad yw cynllun a baratowyd o dan adran 16E yn bodloni'r awdurdod, gall yr awdurdod roi cyfarwyddiadau i weithredwr y sw. Mae gan yr awdurdod ddyletswydd weddilliol i wneud ei drefniadau ei hunan ar gyfer gofalu am yr anifeiliaid a gedwir yn y sw neu ar gyfer cael gwared arnynt. Mae adran 16F yn caniatáu i awdurdodau sy'n gweithredu yn unol â threfniadau o'r fath gael gwared ar anifeiliaid a gedwir mewn swau sydd wedi cau mewn amgylchiadau penodol. Mae adran 16G yn rhoi pwerau i awdurdodau fynd ar dir ac i mewn i adeiladau sŵ au sydd wedi cau i archwilio anifeiliaid a'r lleoedd y cedwir hwynt ynddynt, i ofalu am anifeiliaid a mynd ag anifeiliaid oddi yno, os yw'n gwneud trefniadau o'r fath. Mae adran 13(8) a (9) yn gwneud darpariaeth ar gyfer sŵau sydd wedi cau ac y mae awdurdodau yn berchen arnynt. Ar ôl i'r awdurdod roi gwybod ei fod wedi ei fodloni bod trefniadau am ofal yr anifeiliaid yn y dyfodol neu am gael gwared arnynt wedi eu rhoi ar waith mewn sw sydd wedi cau, mae adran 16D(2) yn darparu bod y Ddeddf yn peidio â bod yn gymwys i'r sw.

Diwygir adran 18 o'r Ddeddf (apelau) i gyflwyno amryw o hawliau newydd i apelio i'r llys ynadon sy'n gysylltiedig â swyddogaethau newydd yr awdurdodau. Estynnir hyd y cyfnod ar gyfer dod ag apêl i 28 diwrnod.

Mewnosodir amryw o droseddau i adran 19 o'r Ddeddf (troseddau a chosbau) gan gynnwys troseddau sy'n gysylltiedig â phwerau newydd awdurdodau i orfodi amodau trwydded, a'r darpariaethau newydd i sicrhau lles anifeiliaid mewn sŵau sydd wedi cau. Lefel 3 neu 4 ar y raddfa safonol yw'r cosbau uchaf i'r troseddau hyn.

Mae diwygiadau mân a chanlyniadol i'r Ddeddf.

Mae'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â newid trwyddedau cyfredol sŵ au.

Mae Asesiad Rheoliadol o Effaith y Rheoliadau hyn wedi ei baratoi. Ceir copi oddi wrth Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol, CP2, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Ceir copi o'r nodyn trawsosod mewn cysylltiad â gweithredu'r Gyfarwyddeb o'r un cyfeiriad.


Notes:

[1] O.S. 2001/3495.back

[2] 1972 p.68. Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon i Ysgrifennydd Gwladol Cymru (O.S. 1978/272) ac wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (O.S. 1999/672).back

[3] 1981 p. 37. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (O.S. 1999/672).back

[4] O.S. 2002/3080.back

[5] O.S. 1999/672.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 011 090726 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 25 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030992w.html