BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 Rhif 993 (Cy.142)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030993w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 993 (Cy.142)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 2 Ebrill 2003 
  Yn dod i rym 3 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 17 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adrannau 20(2) a 23 o Ddeddf Iechyd 1999[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 3 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ofal iechyd y mae person yn gyfrifol amdano i'w dehongli yn unol ag adran 20(5) o'r Ddeddf.



RHAN II

RHAGLEN WAITH FLYNYDDOL

Rhaglen waith flynyddol
     2.  - (1) Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol mae'n rhaid i'r Comisiwn baratoi rhaglen waith sy'n nodi'r gweithgareddau y mae'r Comisiwn i ymgymryd â hwy yn y flwyddyn honno wrth arfer ei swyddogaethau.

    (2) Rhaid i bob rhaglen waith, mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno, nodi  - 

    (3) Bydd y rhaglen waith yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (4) Gellir amrywio y rhaglen waith - 

    (5) Yn ddarostyngedig i'r rheoliadau canlynol ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y Comisiwn yn arfer ei swyddogaethau mewn unrhyw flwyddyn ariannol yn unol â'r rhaglen waith sy'n berthnasol i'r flwyddyn honno.



RHAN III

CYNGOR NEU WYBODAETH AM DREFNIADAU LLYWODRAETHU CLINIGOL

Y personau y gellir rhoi cyngor neu wybodaeth iddynt
    
3.  - (1) Rhaid i'r Comisiwn ddarparu cyngor neu wybodaeth am drefniadau llywodraethu clinigol  - 

    (2) Rhaid i'r Comisiwn gydymffurfio ag unrhyw gais gan y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu cyngor neu wybodaeth am agweddau penodol ar drefniadau llywodraethu clinigol  - 

    (3) Caiff y Comisiwn ddarparu cyngor neu wybodaeth am drefniadau llywodraethu clinigol i unrhyw berson neu gorff arall sy'n gofyn am gyngor neu wybodaeth o'r fath.

Arfer y swyddogaeth darparu cyngor neu wybodaeth am lywodraethu clinigol
    
4. Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 20(1)(a) o'r Ddeddf a rheoliad 2(a) a (b) o'r Rheoliadau Swyddogaethau, rhaid i'r Comisiwn ystyried  - 



RHAN IV

ADOLYGIADAU

Effeithiolrwydd a digonolrwydd trefniadau
     5. Wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol rhaid i'r Comisiwn asesu effeithiolrwydd trefniadau corff GIG dan sylw ac ystyried a yw'r trefniadau hynny'n ddigonol.

Adroddiadau am adolygiadau
    
6.  - (1) Ar ôl i adolygiad llywodraethu clinigol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i gorff GIG dan sylw.

    (2) Ar ôl i adolygiad cyffredinol heblaw adolygiad gwasanaeth gwladol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r personau neu'r cyrff a oedd yn destun yr adolygiad.

    (3) Pan ddaw adolygiad gwasanaeth gwladol i ben rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (4) Rhaid i'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) nodi  - 

Adroddiadau o Ddiddordeb Arbennig  -  Adolygiad llywodraethu clinigol
    
7.  - (1) Os daw mater i sylw y Comisiwn yng nghwrs adolygiad llywodraethu clinigol y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw - 

caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud pan ddaw'r adolygiad i ben.

    (2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)  - 

    (3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1)  - 

Adroddiadau o ddiddordeb arbennig  -  adolygiad cyffredinol
    
8.  - (1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad cyffredinol y mae'r Comisiwn yn credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw - 

caiff y Comisiwn wneud y mater yn destun adroddiad ar unwaith yn ychwanegol at yr adroddiad sydd i'w wneud pan ddaw'r adolygiad i ben.

    (2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)  - 

    (3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan baragraff (1)  - 

Camau pellach yn sgil adolygiad
    
9.  - (1) Mae paragraffau (2) i (4) isod yn gymwys os yw corff GIG wedi bod yn destun adolygiad llywodraethu clinigol neu adolygiad cyffredinol heblaw adolygiad cenedlaethol.

    (2) Ar ôl i adolygiad ddod i ben, rhaid i'r corff GIG dan sylw, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.

    (3) Bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (2) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdodau Iechyd Arbennig neu Ymddiriedolaeth GIG.

    (4) Cyn penderfynu ynghylch cymeradwyo datganiad a baratoir o dan baragraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.



RHAN V

YMCHWILIADAU

Ymchwiliadau
    
10.  - (1) Rhaid i'r Comisiwn gynnal ymchwiliad ar gais y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Caiff y Comisiwn gynnal ymchwiliad  - 

    (3) Os yw'r Comisiwn yn cynnal ymchwiliad ar gais y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid iddo ymchwilio i'r materion hynny sy'n dod o fewn adran 20(1)(c) o'r Ddeddf neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau yn ôl yr hyn a bennir yn y cais.

    (4) Os yw'r Comisiwn yn cynnal ymchwiliad mewn unrhyw achos arall, caiff ymchwilio i'r materion hynny sy'n dod o fewn adran 20(1)(c) neu reoliad 2(e) o'r Rheoliadau Swyddogaethau o'r Ddeddf fel y gwêl yn briodol.

Hysbysiad ymchwiliad
    
11. Os yw'n rhesymol ymarferol, rhaid i'r Comisiwn ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i gynnal ymchwiliad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad hwnnw ddechrau - 

Cynnal ymchwiliad i gorff sydd yn destun adolygiad
    
12.  - (1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs adolygiad llywodraethu clinigol neu adolygiad cyffredinol y mae'n credu ei fod yn briodol yn destun ymchwiliad, caiff y Comisiwn ddechrau ymchwiliad i'r mater hwnnw.

    (2) Os yw'r Comisiwn yn cynnal adolygiad llywodraethu clinigol, rhaid i'r Comisiwn, os yw'n rhesymol ymarferol, ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad ddechrau  - 

    (3) Os yw'r Comisiwn yn cynnal adolygiad cyffredinol, rhaid i'r Comisiwn, os bydd yn rhesymol ymarferol, ddarparu hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad a'r dyddiad y bwriedir i'r ymchwiliad ddechrau  - 

    (4) Os yw'r Comisiwn yn dechrau ymchwiliad o'r fath, caiff y Comisiwn atal neu barhau â'r adolygiad llywodraethu clinigol neu'r adolygiad cyffredinol ac, os yw'r adolygiad wedi ei atal, caiff ei ailddechrau ar unrhyw amser.

Adroddiadau am ymchwiliadau
    
13.  - (1) Ar ôl i ymchwiliad a wnaed ar gais y Cynulliad Cenedlaethol ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ac anfon copi o'r adroddiad  - 

    (2) Ar ôl i ymchwiliad a wnaed ar gais unrhyw berson neu gorff arall ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r person neu'r corff hwnnw ac anfon copi o'r adroddiad  - 

    (3) Ar ôl i ymchwiliad ym mhob achos arall ddod i ben, rhaid i'r Comisiwn roi adroddiad i'r person neu'r corff a oedd yn destun yr ymchwiliad ac anfon copi o'r adroddiad  - 

    (4) Rhaid i adroddiad a wneir o dan baragraffau (1) i (3) nodi  - 

Adroddiadau o ddiddordeb arbennig
    
14.  - (1) Os daw mater i sylw'r Comisiwn yng nghwrs ymchwiliad y mae'n credu y dylid, er lles y cyhoedd, ddod ag ef i sylw  - 

    (2) Dyma'r personau a'r cyrff y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)  - 

    (3) Rhaid anfon copïau o unrhyw adroddiad o dan paragraff (1)  - 

Camau pellach yn sgil ymchwiliad
    
15.  - (1) Pan ddaw ymchwiliad i ben rhaid i unrhyw gorff GIG, gyda chymorth y Comisiwn, baratoi datganiad ysgrifenedig o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r adroddiad a wnaed gan y Comisiwn.

    (2) Yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, Awdurdod Iechyd Arbennig neu Ymddiriedolaeth GIG, bydd datganiad a baratoir o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Cyn penderfynu ynghylch cymeradwyo datganiad a baratoir o dan baragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r Comisiwn.



RHAN VI

HAWLIAU MYNEDIAD A CHAEL GAFAEL AR WYBODAETH

Hawliau mynediad
    
16.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, caiff personau sydd ag awdurdod ysgrifenedig y Comisiwn, ar unrhyw adeg resymol, fynd i mewn ac archwilio safleoedd perthnasol at ddibenion cynnal adolygiadau llywodraethu clinigol, adolygiadau cyffredinol neu ymchwiliadau.

    (2) Rhaid rhoi tystiolaeth ysgrifenedig i bob person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) o awdurdod y person hwnnw ac, wrth wneud cais am fynediad i safle perthnasol at y dibenion a bennir ym mharagraff (1), bydd yn rhaid iddo, ar gais meddiannydd y safle neu berson sy'n gweithredu ar ei ran, ddangos y dystiolaeth honno.

    (3) Rhaid i berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) beidio â hawlio mynediad i safle perthnasol os nad yw'r person neu'r corff sy'n berchen ar y safle, neu sy'n ei reoli, wedi cael hysbysiad rhesymol o'r bwriad i geisio mynediad.

    (4) Ni chaiff neb a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw safle neu ran o safle a ddefnyddir yn llety preswyl i bersonau a gyflogir gan unrhyw berson neu gorff, heb yn gyntaf gael caniatâd y personau sy'n preswylio yn y llety hwnnw.

    (5) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, caiff person a awdurdodir gan y Comisiwn o dan baragraff (1) i fynd i mewn i safle perthnasol o dan y rheoliad hwn, arolygu a chymryd copïau o unrhyw ddogfennau  - 

Cael gwybodaeth ac esboniadau
    
17.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol, adolygiad cyffredinol neu ymchwiliad, caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo ddangos unrhyw ddogfennau neu wybodaeth y mae'n ymddangos i'r Comisiwn, neu i'r person a awdurdodir, fod eu hangen at ddibenion yr adolygiad neu'r ymchwiliad dan sylw.

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliad 19, wrth gynnal adolygiad llywodraethu clinigol, adolygiad cyffredinol neu ymchwiliad, caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn, os yw'n credu bod angen, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (5) yn gymwys iddo, roi i'r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, i'r person a awdurdodir, esboniad  - 

    (3) Caiff y Comisiwn, os yw'n credu bod angen, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae'n ofynnol iddo - 

fod yn bresennol yng ngwcircydd y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) er mwyn dangos y dogfennau neu'r wybodaeth neu er mwyn rhoi'r esboniad.

    (4) Ni chaiff y Comisiwn na pherson a awdurdodir o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i berson fod yn bresennol yn unol â pharagraff (3) heb roi i'r person hwnnw hysbysiad rhesymol o'r dyddiad y bwriedir gofyn iddo fod yn bresennol.

    (5) Dyma'r person y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) a (2) - 

Gwybodaeth a gedwir yn gyfrifiadurol neu ar unrhyw ffurf electronig arall
    
18.  - (1) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 16 a 17, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a gedwir yn gyfrifiadurol neu ar unrhyw ffurf electronig arall.

    (2) Os yw'r Comisiwn neu berson a awdurdodir o dan rheoliad 16(1) yn arfer  - 

ac os yw'r dogfennau hynny ar ffurf gwybodaeth a gedwir yn gyfrifiadurol neu ar unrhyw ffurf electronig arall, caiff y Comisiwn neu'r person a awdurdodir ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n rhedeg, neu sy'n ymwneud â gweithredu fel arall, gyfrifiadur neu ddyfais electronig arall sy'n cadw'r wybodaeth honno, drefnu bod y wybodaeth honno ar gael, neu ddangos y wybodaeth honno, ar ffurf weladwy a darllenadwy.

Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth i'r Comisiwn
    
19.  - (1) Rhaid i'r Comisiwn neu berson a awdurdodir o dan reoliad 16(1) beidio ag archwilio na chymryd copïau o ddogfennau o dan reoliad 16(5) i'r graddau - 

    (2) Ni fydd yn ofynnol i neb ddangos dogfennau neu wybodaeth o dan reoliad 17(1) na rhoi esboniad o dan reoliad 17(2) i'r graddau y mae dangos y dogfennau hynny neu'r wybodaeth honno neu roi'r esboniad hwnnw yn datgelu gwybodaeth - 

    (3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1)(a) a (2)(a)  - 

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os  - 

    (5) Mewn achos lle y gwaherddir datgelu gwybodaeth  - 

caiff y Comisiwn neu berson a awdurdodir gan y Comisiwn o dan reoliad 16(1) ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n cadw'r wybodaeth ddarparu'r wybodaeth ar ffurf nad oes modd adnabod yr unigolyn ohoni, er mwyn galluogi datgelu'r wybodaeth.



RHAN VII

AMRYWIOL

Cynorthwyo'r Comisiwn Archwilio
     20. Ni chaiff y Comisiwn gynorthwyo'r Comisiwn Archwilio o dan adran 21(2) o'r Ddeddf heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.

Arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ymholiadau'r gwasanaeth iechyd
    
21.  - (1) Ni chaiff y Comisiwn arfer ei swyddogaethau o dan reoliad 2(1)(f) o'r Rheoliadau Swyddogaethau mewn perthynas ag ymchwiliad penodol neu ymchwiliad arfaethedig heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Wrth arfer ei swyddogaethau o dan reoliad 2(1)(f) rhaid i'r Comisiwn gymryd i ystyriaeth unrhyw gyngor neu ganllawiau sy'n ymwneud ag ymholiadau'r gwasanaeth iechyd a roddir i gyrff GIG gan y Cynulliad.

Dirymu
    
22. Diddymir Rheoliadau'r Comisiwn Gwella Iechyd (Swyddogaethau) (Cymru) 2000[15].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Ebrill 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau'r Comisiwn Gwella Iechyd a sefydlwyd o dan adran 19 o Ddeddf Iechyd 1999 ("y Comisiwn").

Mae rheoliadau 2 i 19 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Comisiwn yng Nghymru. Yn benodol, gwnânt ddarpariaeth ar gyfer rhaglen waith flynyddol (rheoliad 2), darparu cyngor neu wybodaeth o ran trefniadau at ddibenion monitro a gwella'r gofal y mae cyrff GIG neu ddarparwyr gwasanaethau iechyd teuluol yn gyfrifol amdano (rheoliadau 3 a 4), gweithredu adolygiadau o drefniadau o'r fath ac adolygiadau o reolaeth, darpariaeth neu ansawdd, neu fynediad i, neu argaeledd, y gofal iechyd y mae cyrff GIG neu ddarparwyr o'r fath yn gyfrifol amdano (rheoliadau 5 i 9), gweithredu ymchwiliadau i reolaeth, darpariaeth neu ansawdd y gofal iechyd y mae cyrff GIG yn gyfrifol amdano (rheoliadau 10 i 15).

Mae rheoliadau 16 i 19 yn gwneud darpariaeth i'r Comisiwn a phersonau a awdurdodir gan y Comisiwn i fynd i mewn i safleoedd perthnasol a chael hyd i ddogfennau, gwybodaeth ac esboniadau. Mae Rheoliadau 20 a 21 yn gwneud darpariaeth ynghylch darparu cymorth i'r Comisiwn Archwilio ac i ymholiadau ynghylch y gwasanaeth iechyd.


Notes:

[1] 1977 p. 49; amnewidiwyd adran 17 gan adran 12 o Ddeddf Iechyd 1999 (p. 8) ("Deddf 1999"); mae adran 126(4) yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw bwcirc er i wneud gorchmynion neu reoliadau a roddwyd gan Ddeddf 1999 (gweler adran 62(4) o Ddeddf 1999) a chafodd ei diwygio gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19) ("Deddf 1990"), adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).back

[2] 1999 p. 8; gweler adran 20(7) a 23(6) i gael y diffiniadau o "prescribed". Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 20(2) a 23 o Ddeddf 1999 ac adrannau 17 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977"), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o, a'r elfennau sy'n berthnasol i Ddeddf 1977 a Deddf 1999 yn Atodlen 1 i, Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 20(2) gan adran 12(1) a (4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17) ("Deddf 2002") a diwygiwyd adran 23 gan adran 13(2) o'r Ddeddf honno.back

[3] Diwygiwyd adran 20(1)(d) gan adran 20(1) a (2) o Ddeddf 2002.back

[4] Mewnosodwyd adran 20(1)(da) gan adran 12(2)(c) o Ddeddf 2002.back

[5] Cafodd bodolaeth y Comisiwn Archwilio ei pharhau gan adran 1 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 (p. 18).back

[6] Gweler adran 20(7) o'r Ddeddf i gael diffiniad o "NHS body"; diwygiwyd y diffiniad gan Atodlen 1, paragraff 49, i Ddeddf 2002.back

[7] p. 15.back

[8] 1997 p. 46.back

[9] O.S. 2000/662 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/797 ac O.S. 2002/2469.back

[10] Gweler adrannau 18(4) a 20(7) o Ddeddf 1999 i gael diffiniad o "health care".back

[11] Diwygiwyd adran 20(1)(c) gan Atodlen 1, paragraff 49, o Ddeddf 2002.back

[12] Gweler O.S.1999/220 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/2219.back

[13] Gweler adran 23(6) o Ddeddf 1999 i gael diffiniad o "confidential information".back

[14] Mewnosodwyd adran 20(1)(db) gan adran 13(1) o Ddeddf 2002.back

[15] O.S. 2000/1015 (Cy.57).back

[16] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090738 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 13 May 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030993w.html