BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 Rhif 1004 (Cy.144)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031004w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1004 (Cy.144)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003

  Wedi'u gwneud 2 Ebrill 2003 
  Yn dod i rym 7 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1) a (7)(a) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n barnu eu bod yn briodol[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 a deuant i rym ar 7 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
    
2.  - (1) Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[3] yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth)  - 

    (3) Ar ôl rheoliad 5, mewnosodir y rheoliad canlynol  - 

    (4) Yn rheoliad 39(2)(d)yn lle "cartref plant" rhoddir "cartref gofal".

    (5) Yn y fersiwn Saesneg o reoliad 39(4) yn lle "children's home" rhoddir "care home".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Ebrill 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 ("Rheoliadau 2002") er mwyn darparu bod rhaid i berson sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal ddarparu'r wybodaeth ganlynol i ddefnyddiwr gwasanaeth  - 

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2002 i ddarparu bod rhaid i berson sydd wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref drefnu bod copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i'r cartref ar gael i bawb sy'n gofyn am gopi, ac maent yn cywiro gwall drafftio yn Rheoliadau 2002.


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol (gweler y diffiniad o "regulations" yn adran 121(1) o Ddeddf 2000). Mae "appropriate Minister" wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) fel y Cynulliad mewn perthynas â Chymru, ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae "Assembly" wedi'i ddiffinio yn adran 5(b) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] Gweler adran 22(9) o Ddeddf 2000 ynglyn â'r gofyniad i ymgynghori.back

[3] O.S. 2002/324 (Cy.37), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254) ac O.S. 2002/2935 (Cy.277).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090720 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 14 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031004w.html