BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 Rhif 1079 (Cy.148) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031079w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 9 Ebrill 2003 | ||
Yn dod i rym | 12 Ebrill 2003 |
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad neu drwydded a gyflwynir neu a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn neu o dan Orchymyn datganiadol a wnaed o dan erthygl 9 isod fod yn ysgrifenedig a gallant fod yn gyffredinol neu'n benodol yn ddarostyngedig i amodau neu gellir eu diwygio, eu gohirio neu eu dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.
Y gweithdrefnau hysbysu a'r rhagofalon sydd i'w cymryd os amheuir bod clefyd dynodedig yn bresennol
4.
- (1) Rhaid i berson a chanddo yn ei feddiant neu o dan ei ofal unrhyw aderyn neu garcas â chlefyd dynodedig, neu yr amheuir bod arno glefyd o'r fath -
(2) Rhaid i berson sy'n archwilio unrhyw aderyn neu garcas neu'n edrych yn fanwl arno neu sy'n dadansoddi unrhyw sampl a gymerwyd o unrhyw aderyn neu garcas, ac sy'n amau bod clefyd dynodedig yn bresennol yn yr aderyn, y carcas neu'r sampl hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith.
Y cyfyngiadau os amheuir bod clefyd
5.
- (1) Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros amau naill ai -
(2) Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros amau bod adar ar unrhyw safle wedi bod yn agored i risg unrhyw glefyd, caiff gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y safle neu i geidwad unrhyw adar ar y safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
(3) Yn achos unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan baragraffau (1)(b) neu (2) caiff arolygydd milfeddygol -
(4) At ddibenion paragraff (1)(a) mae "arolygydd milfeddygol" yn cynnwys arolygydd.
(5) Yn yr erthygl hon, mae bod yn agored i risg clefyd yn cynnwys bod yn agored, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o ganlyniad i symudiad personau, anifeiliaid neu gerbydau, neu mewn unrhyw ffordd arall.
Ymchwiliad milfeddygol yngln â bodolaeth clefyd
6.
- (1) Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno yn unol ag is-baragraff (1)(a) o erthygl 5, rhaid i arolygydd milfeddygol fynd ar y safle sy'n destun yr hysbysiad a gwneud yr ymholiadau, yr archwiliadau a'r profion a chymryd y samplau (gan gynnwys adar byw a charcasau), sy'n angenrheidiol er mwyn canfod a oes clefyd yn bodoli yno neu wedi bodoli yno, ac, yn benodol, i gadarnhau
(2) Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno yn unol ag is-baragraff (1)(b) o erthygl 5 neu baragraff (2) o erthygl 5, rhaid i arolygydd milfeddygol
(3) Caiff arolygydd milfeddygol farcio, neu beri marcio, at ddibenion adnabod unrhyw aderyn, unrhyw garcas neu unrhyw beth arall y mae unrhyw un o'r pwerau o dan baragraffau (1) a (2) wedi'i arfer mewn perthynas ag ef, neu beri iddynt gael eu marcio felly.
(4) Rhaid i samplau gael eu casglu a phrofion labordy gael eu cynnal o dan yr erthygl hon (mewn perthynas â ffliw adar) yn unol ag Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC ac, (mewn perthynas â chlefyd Newcastle a pharamycsofirws mewn colomennod), yn unol ag Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/66/EEC.
(5) Rhaid i feddiannydd y safle neu geidwad unrhyw adar ar y safle neu unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi ganddo roi unrhyw gymorth rhesymol i arolygydd milfeddygol y bydd arno ei angen er mwyn arfer ei bwerau o dan baragraffau (1), (2) a (3) uchod.
Y mesurau i'w cymryd os cadarnheir bod clefyd dynodedig
7.
- (1) Pan fydd presenoldeb clefyd dynodedig ar safle yn cael ei gadarnhau gan y Prif Swyddog Milfeddygol neu gan berson sydd wedi'i awdurdodi ganddo -
drwy hysbysiad a gyflwynir i feddiannydd y safle neu geidwad unrhyw adar ar y safle, osod gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn ychwanegol i'r amodau a osodir yn rhinwedd yr hysbysiadau a gyflwynir o dan erthygl 5.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad o'r fath hefyd i feddiannydd safle, neu geidwad adar ar safle, a hwnnw'n safle sydd, oherwydd ei leoliad, ei ddyluniad neu ei gysylltiad â safle (yng Nghymru neu mewn man arall), lle mae presenoldeb clefyd dynodedig wedi'i gadarnhau yno gan y Prif Swyddog Milfeddygol neu gan berson sydd wedi'i awdurdodi ganddo, yn cynnwys dofednod, adar caeth eraill neu golomennod rasio a allai, ym marn yr arolygydd milfeddygol, fod wedi bod yn agored i risg clefyd dynodedig.
Dyletswyddau meddianwyr safleoedd a phersonau y mae safleoedd o dan eu gofal y cyflwynwyd hysbysiadau iddynt
8.
- (1) Rhaid i berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan y Gorchymyn hwn -
(2) Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad neu ofyniad sy'n cael ei osod drwy hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd neu swyddog arall i'r Ysgrifennydd Gwladol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu arolygydd i awdurdod lleol
(3) Rhaid i unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd o dan baragraff (2) fod heb ragfarn i unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi yn sgil mynd yn groes i hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn hwn.
(4) Bydd person sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad sy'n cael ei gyflwyno o dan y Gorchymyn hwn yn atebol am unrhyw gostau a dynnir o dan baragraff (2) uchod.
Datgan ardal heintiedig
9.
- (1) Pan fydd presenoldeb clefyd dynodedig mewn dofednod mewn unrhyw ardal yng Nghymru neu mewn man arall yn cael ei gadarnhau gan y Prif Swyddog Milfeddygol neu gan berson sydd wedi'i awdurdodi ganddo, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy Orchymyn datganiadol, ddatgan bod y rhan o'r ardal honno sydd yng Nghymru yn ardal heintiedig.
(2) Pan fydd presenoldeb clefyd dynodedig mewn adar caeth ac eithrio dofednod neu mewn colomennod rasio mewn unrhyw ardal yng Nghymru neu mewn man arall yn cael ei gadarnhau gan y Prif Swyddog Milfeddygol neu gan berson sydd wedi'i awdurdodi ganddo a phan gaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ei fodloni bod presenoldeb y clefyd hwnnw mewn adar o'r fath yn golygu risg difrifol i ddofednod, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy Orchymyn datganiadol, ddatgan bod y rhan o'r ardal honno sydd yng Nghymru yn ardal heintiedig.
(3) Rhaid i ardal aros yn ardal heintiedig tan unrhyw ddyddiad sydd wedi'i nodi yn y Gorchymyn datganiadol, neu, os nad oes un, nes bod y Gorchymyn datganiadol yn cael ei dynnu'n ôl.
(4) Bernir bod unrhyw safle sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i ardal heintiedig yn gyfan gwbl y tu mewn i'r ardal honno.
(5) Gall Gorchymyn datganiadol fod yn gymwys i bob aderyn neu i rywogaethau dynodedig.
(6) Rhaid i Orchymyn datganiadol ddarparu ar gyfer rhannu'r ardal heintiedig yn barthau diogelu a pharthau goruchwylio, a'r parth diogelu wedi'i seilio ar radiws o dri chilometr o leiaf, a'r parth diogelu hwnnw ei hun wedi'i gynnwys mewn parth goruchwylio wedi'i seilio ar radiws o ddeg cilometr o leiaf, a hynny wedi'i seilio ar ganol y safle lle mae clefyd wedi'i gadarnhau, neu ar unrhyw radiysau llai y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn eu datgan.
(7) Bydd darpariaethau Atodlen II yn gymwys mewn ardal sydd wedi'i datgan yn ardal heintiedig ac eithrio i'r graddau y maent yn cael eu hamrywio neu eu heithrio drwy'r Gorchymyn datganiadol neu i'r graddau y byddai unrhyw beth a fyddai fel arall yn torri'r Gorchymyn hwn yn cael ei awdurdodi drwy drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.
Ardaloedd brechu
10.
Pan fydd Gorchymyn yn cael ei wneud o dan erthygl 9(1) uchod, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn y modd y mae'r naill neu'r llall ohonynt yn credu ei fod yn briodol, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw rywogaethau dofednod yn cael eu brechu yn erbyn clefyd dynodedig yn yr ardal diriogaethol honno ac am y cyfnod y mae'r naill neu'r llall ohonynt yn credu ei fod yn briodol a bydd yn ddyletswydd ar bob perchennog dofednod a phob person y mae dofednod o dan ei ofal yn yr ardal honno gydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw.
Colomennod rasio
11.
- (1) Rhaid i drefnydd sioe neu ras sy'n cael ei chynnal yn gyfan gwbl neu'n rhannol yng Nghymru sicrhau bod pob colomen rasio sydd wedi'i chofnodi ar gyfer ras neu'r sioe wedi'i brechu yn erbyn paramycsofirws 1 mewn colomennod.
(2) Rhaid i bob person sy'n berchennog ar golomennod rasio neu'n eu cadw gadw cofnod o bob ras neu sioe y mae'n rhoi colomennod ynddynt.
Diheintio
12.
- (1) Rhaid i'r person y mae safle o dan ei ofal a hwnnw'n safle lle mae dofednod neu golomennod rasio yn cael neu wedi cael eu datgelu i'w gwerthu neu eu harddangos lanhau a diheintio'n drylwyr y safle hwnnw, ei ffitiadau ac unrhyw gynhwysydd a ddefnyddiwyd ar gyfer datgelu neu arddangos yr adar hynny cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddynt gael eu defnyddio a beth bynnag cyn iddynt gael eu defnyddio eto.
(2) Caiff arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae unrhyw safle neu gerbyd o dan ei ofal y mae neu yr oedd unrhyw adar arno neu ynddo, fynnu bod y person hwnnw y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo yn glanhau a diheintio'r safle neu'r cerbyd ac unrhyw ffitiadau neu gynhwysydd yn y modd y mae'n ei fynnu a gwahardd symud adar i'r safle neu'r cerbyd nes bod y gwaith glanhau a diheintio wedi'i gwblhau er boddhad yr arolygydd.
(3) Heb ragfarn i achos sy'n cael ei ddwyn o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, os na chydymffurfir â hysbysiad o dan yr erthygl hon, caiff unrhyw berson a awdurdodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol fynd ar y safle neu i mewn i'r cerbyd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a gwneud y gwaith glanhau a diheintio sy'n ofynnol a gellir adfer costau'r gwaith hwnnw oddi wrth y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
(4) At ddibenion y Gorchymyn hwn mae "glanhau" yn cynnwys gwaredu bob llaesodr, baw a sylwedd arall mewn modd nad yw'n peri risg o ledaenu clefyd.
Cofnodion
13.
- (1) Rhaid i bob person sy'n meddu ar unrhyw haid dofednod, sy'n cynnwys o leiaf 250 o adar o unrhyw rywogaeth ar ddaliad unigol neu'n ei gadw, gadw cofnod yngln â dofednod sy'n mynd i mewn i'w safle neu'n ymadael ag ef.
(2) Rhaid i bob person sy'n ymwneud â chludo neu farchnata unrhyw ddofednod neu wyau (gan gynnwys unrhyw gigyddwr neu arwerthwr) gadw cofnod mewn perthynas â phob dofednod ac wyau sy'n cael eu cludo neu eu marchnata ganddo.
(3) Rhaid i'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraffau (1) a (2) uchod gynnwys mewn perthynas â'r dosbarth perthnasol o ddofednod a'u hwyau -
(4) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Gorchymyn hwn ei gadw am o leiaf 12 mis o ddyddiad y cludo neu'r marchnata cofnodedig.
(5) Rhaid i berson sy'n cadw unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan yr erthygl hon ei ddangos ar bob adeg resymol i arolygydd os gofynnir iddo wneud hynny a rhaid iddo ddarparu copïau iddo os gofynnir iddo wneud hynny.
Trwyddedau
14.
Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn -
Pwerau cyffredinol arolygwyr
15.
Caiff arolygydd milfeddygol sy'n mynd ar unrhyw safle o dan y Gorchymyn hwn fynd ag unrhyw bersonau ac unrhyw bethau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef at unrhyw ddiben sy'n ymwneud â chyflawni a gorfodi'r Gorchymyn hwn.
Gorfodi
16.
Rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, gael eu cyflawni a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.
Dirymiadau a diwygiadau
17.
Dirymir Gorchymyn Clefydau Dofednod 1994[3] a Gorchymyn Clefydau Dofednod (Diwygio) 1997[4] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mike German
Dirprwy Brif Weinidog, Y Gweinidog dros Ddatblygu Gweldig a Chymru Dramor
4 Ebrill 2003
E.A. Morley
Is-ysgrifennydd Seneddol,
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
9 Ebrill 2003
yn cael eu holrhain a'u dinistrio, ac eithrio nad oes angen dinistrio wyau bwrdd os ydynt wedi'u diheintio o'r blaen.
Diheintio ac ailstocio
11.
Rhaid i'r adeiladau sy'n cael eu defnyddio i letya dofednod, y mannau o'u cwmpas, y cerbydau sy'n cael eu defnyddio i'w cludo a phob offer sy'n debygol o gael eu halogi, fod yn destun gwaith glanhau a diheintio rhagarweiniol a therfynol, o dan oruchwyliaeth arolygydd, yn unol ag Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC neu Atodiad II y Gyfarwyddeb y Cyngor 92/66/EEC yn ôl fel y digwydd ac er boddhad arolygydd milfeddygol. Rhaid i feddiannydd y safle beidio ag ailstocio'r safle tan o leiaf 21 diwrnod ar ôl cwblhau'r glanhau a'r diheintio.
(f) nad yw llaesodr a ddefnyddiwyd a baw dofednod yn cael eu symud na'u taenu.
3.
Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod, wyau na charcasau o fewn y parth, ac eithrio bod caniatâd i gludo dofednod heb stopio drwy'r parth ar brif ffordd neu reilffordd.
4.
Ni chaiff neb gynnal unrhyw ffair, marchnad, sioe nac unrhyw grynhoad dofednod neu adar eraill.
Y parth goruchwylio
5.
Bydd yn canlynol yn gymwys o fewn y parth goruchwylio a bydd yn parhau i fod yn gymwys am gyfnod o 30 diwrnod o leiaf ar ôl y gwaith rhagarweiniol o lanhau a diheintio'r safle heintiedig sy'n ofynnol o dan baragraff 11 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac ar ôl hynny nes bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn datgan bod y cyfyngiadau wedi'u codi.
6.
Rhaid i feddiannydd y safle sicrhau -
7.
Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod na wyau sy'n deor i mewn i'r parth nac o fewn y parth hwnnw ac eithrio bod caniatâd i gludo dofednod heb stopio drwy'r parth ar brif ffordd neu reilffordd.
8.
Ni chaiff neb gynnal unrhyw ffair, marchnad, sioe nac unrhyw grynhoad dofednod neu adar eraill.
Glanhau a diheintio cerbydau sy'n cael eu defnyddio i gludo dofednod
9.
- (1) Rhaid i berchennog unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i gludo dofednod, carcasau dofednod, offal dofednod, plu neu wyau dofednod sy'n tarddu o ardal heintiedig, cyn iddo gael ei ddefnyddio felly, ei lanhau a'i ddiheintio yn effeithiol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pob tro y mae'n cael ei ddefnyddio felly a beth bynnag cyn iddo gael ei ddefnyddio felly eto.
(2) Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn, caiff swyddog i'r awdurdod lleol, heb ragfarn i unrhyw achos sy'n deillio o fethiant o'r fath, wneud y gwaith glanhau a diheintio neu beri iddo gael ei wneud a bydd y person sy'n methu â gwneud y gweithrediadau yn atebol am unrhyw gostau a dynnir.
[6] O J L167, 22.6.1992, t.1.back
[7] O J L260, 05.9.1992, t.1.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 30 April 2003 |