BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003 Rhif 1414 (Cy.166 ) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031414w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 29 Mai 2003 | ||
Yn dod i rym | 30 Mai 2003 |
1. | Enwi, cymhwyso, cychwyn a darfod |
2. | Dehongli |
3. | Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid |
4. | Marcio anifeiliaid sy'n teithio i sioeau |
5. | Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dai ac oddi wrthynt |
6. | Grwpiau meddiannaeth unigol |
7. | Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau |
8. | Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr |
9. | Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan y drwydded gyffredinol |
10. | Trwyddedau penodol |
11. | Trwyddedau cyffredinol |
12. | Copïau o drwyddedau |
13. | Cydymffurfio â thrwyddedau, a.y.y.b. |
14. | Glanhau a diheintio |
15. | Newid meddiannaeth safleoedd |
16. | Gorfodi |
17. | Dirymu |
ATODLEN 1 | Symud o safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur |
ATODLEN 2 | Symud i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur |
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid
3.
- (1) Mae gwaharddiad ar symud anifail o unrhyw safle -
(2) Er gwaethaf paragraff (1), ceir symud anifeiliaid o'r safle yn ystod y cyfnod segur -
(3) Ni chaiff y cyfnod segur ei sbarduno gan symud anifail i safle os yw'r symud yn un a bennir yn Atodlen 2.
(4) Nid yw'r gofyniad am drwydded ym mharagraff (1)(a) yn gymwys i unrhyw symud a awdurdodir gan drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[3] (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).
(5) Nid yw gofynion paragraff (1) yn gymwys i symud -
Marcio defaid a geifr sy'n teithio i sioeau neu arddangosfeydd
4.
Ni chaiff neb symud defaid neu eifr i sioe neu arddangosfa oni bai iddynt gael eu marcio â Rhif adnabod unigol yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[6].
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dai ac oddi yno
5.
Gwaherddir i unrhyw berson -
Grwpiau meddiannaeth unigol
6.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol a'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi setiau o safleoedd i fod yn grwpiau meddiannaeth unigol os yw'r naill neu'r llall wedi'i fodloni bod y safleoedd yn gysylltiedig â'i gilydd o ran eu rheolaeth.
Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau
7.
- (1) Rhaid i unrhyw drwydded, caniatâd, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, yn ddarostyngedig i amodau, a gellir ei amrywio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd -
(2) Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2) mae'n rhaid i arolygydd neu arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr
8.
Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.
Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan y drwydded gyffredinol
9.
- (1) Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a), caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi hysbysiad yn gwahardd -
(2) Ni chaiff hysbysiad ei gyhoeddi o dan baragraff 1 ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn -
(3) Rhaid i hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) gael ei gyflwyno i feddiannydd pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ddull arall y bydd y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn tybio ei bod yn briodol dwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.
(4) Rhaid i hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) gael ei gyflwyno i'r person a gaiff ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac ar feddiannydd unrhyw safle a enwir yn benodol yn yr hysbysiad.
(5) Rhaid i hysbysiad fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Trwyddedau penodol
10.
- (1) O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol -
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded arbennig, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol -
(3) Rhaid i bob anifail a symudir o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nas symudir o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.
(4) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo -
Trwyddedau cyffredinol
11.
Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy'n symud yr anifeiliaid ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo -
Copïau o drwyddedau
12.
Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.
Cydymffurfio â thrwyddedau, a.y.y.b.
13.
Os bydd unrhyw berson yn methu cydymffurfio â thrwydded, caniatâd, awdurdodiad neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn caiff un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd, drefnu y cydymffurfir ag ef a hynny ar draul y person sy'n methu cydymffurfio.
Glanhau a diheintio
14.
- (1) Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 3(1)(a), caniatâd a ddyroddir o dan erthygl 3(2), neu awdurdodiad o dan erthygl 6 bennu gofynion o ran y gwaith o lanhau a diheintio unrhyw gerbyd a ddefnyddir ar gyfer symud anifeiliaid ac sy'n ychwanegol at ofynion Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003[7].
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am symud anifeiliaid sicrhau, ac eithrio pan fo'r drwydded, yr awdurdodiad neu'r caniatâd yn darparu fel arall, y cydymffurfir â'r gofynion sy'n berthnasol i'r gwaith o lanhau a diheintio a hynny cyn gynted â phosibl ar ôl dadlwytho'r anifeiliaid a, beth bynnag, cyn symud y cerbyd o'r safle y symudwyd yr anifeiliaid iddo.
(3) Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.
Newid meddiannaeth safleoedd
15.
- (1) Os, pan fydd ei hawl i feddiannu unrhyw safle yn dod i ben, bydd perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn methu ei symud o'r safle hwnnw oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano, mae'n rhaid i'r person sydd â'r hawl i feddiannu'r safle hwnnw -
(2) Bydd darpariaethau paragraff (1) yn dal i fod yn gymwys hyd nes bydd cyfnod o 7 diwrnod wedi mynd heibio ers y dyddiad y bydd unrhyw gyfyngiadau ar symud yr anifail o'r safle yn peidio â bod yn gymwys, ac mae perchennog yr anifail yn atebol am dalu i'r person sy'n darparu unrhyw gyfleusterau neu borthiant, sy'n tendio neu fel arall yn cadw'r anifeiliaid, yn unol â'r darpariaethau hynny, y symiau hynny, yn dâl ac yn ad-daliad o dreuliau, ag a allai fod yn gyfiawn ac yn rhesymol yn yr holl amgylchiadau.
Gorfodi
16.
Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Dirymu
17.
Dirymir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003[8].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D.Elis-Thomas
Y Llywydd
29 Mai 2003
Alun Michael
Gweinidog Gwladol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
29 Mai 2003
Symud anifail ar gyfer ffrwythloni artiffisial
5.
Symud gwartheg neu foch i ganolfan ffrwythloni artiffisial.
6.
Symud defaid neu eifr i ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 6 diwrnod cyn ymadael.
Anifeiliaid i'w hallforio
7.
Symud anifail i'w allforio yn uniongyrchol i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynnyrch Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) 2000[9] cyn ei allforio.
Symud o fewn gr p meddiannaeth unigol
8.
Symud anifeiliaid rhwng safleoedd mewn gr p meddiannaeth unigol.
Tir comin
9.
- (1) Symud anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin arno ac -
(2) Mae symud anifail rhwng safle sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol dros y tir, a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, a bod hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw'n cael ei harfer fel rheol mewn perthynas â'r tir hwnnw.
Yn y paragraff hwn ystyr "hawl gofrestredig i gomin" ("registered right of common") yw hawl i gomin sy'n gofrestredig o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965[10].
Symud moch ar gyfer magu, a.y.y.b.
10.
- (1) Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu neu besgi yn unol ag erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.
(2) Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu heblaw yn unol â pharagraff (1) os gosodwyd y mochyn hwnnw mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan arolygydd milfeddygol a hynny am 20 diwrnod cyn symud y mochyn.
Symud moch i sioeau neu arddangosfeydd
11.
Symud mochyn i sioe neu arddangosfa ar yr amod -
Symud gwartheg, defaid a geifr i sioeau neu arddangosfeydd
12.
Symud gwartheg, defaid a geifr i sioeau neu arddangosfeydd ar yr amod -
Cerbydau sy'n dadlwytho anifeiliaid eraill
13.
Symud anifail sydd ar gerbyd sy'n mynd i safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw'r anifail wedi gadael y cerbyd tra bu ar y safle.
Ceirw
14.
Symud ceirw oddi ar unrhyw safle.
(2) Symud mochyn (ac eithrio un a symudir o dan erthygl 8(3)(b) of Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o fan yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer magu, ar yr amod -
Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa
4.
Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa i'r safle y traddodwyd hwy ohoni i'r sioe neu'r arddangosfa ar yr amod yr ynysir yr anifeiliaid am chwe diwrnod (neu, yn achos moch, am 20 diwrnod) ar ôl eu dychwelyd i safle wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan arolygydd milfeddygol.
Canolfannau ffrwythloni artiffisial
5.
Gwartheg sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial.
6.
Moch sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.
7.
Defaid neu eifr sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod -
Anifeiliaid a fewnforir
8.
- (1) Anifail a fewnforir yn cyrraedd y fan lle y mae'n dod i mewn i Gymru.
(2) Symud anifail o'r fan lle y daw i mewn i'r Deyrnas Unedig yn sgil ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall.
Symud o fewn gr p meddiannaeth unigol
9.
Symud anifeiliaid rhwng safleoedd mewn gr p meddiannaeth unigol.
Cyfryngau cludo sy'n casglu anifeiliaid eraill
10.
Symud anifail y deuir ag ef i'r safle mewn cerbyd sy'n casglu anifeiliaid eraill ar yr amod na ddadlwythir yr anifail yn y safle hwnnw.
Cyrraedd ar ôl triniaeth filfeddygol, a.y.y.b.
11.
Unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch sy'n dychwelyd i'r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra oeddent yno ar yr amod, yn achos moch, eu bod wedi'u hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.
[2] O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2002/129 (Cy.17).back
[3] O.S. 2002/2303 (Cy.228) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/170 (Cy.30).back
[4] O.S. 1983/1950 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2001/4029.back
[6] O.S. 2002/2302 (Cy.227).back
[7] O. S. 2003/482 (Cy.68).back
[8] O. S. 2002/483 (Cy. 69).back
© Crown copyright 2003 | Prepared 19 June 2003 |