OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1634 (Cy.176)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003
|
Wedi'u gwneud |
24 Mehefin 2003 | |
|
Yn dod i rym |
25 Mehefin 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2), 9(3) a 9(5) o Ddeddf Mabwysiadu 1976[1] a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003.
(2) Mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Mehefin 2003.
(3) ystyr "y prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001[2].
(4) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio'r Prif Reoliadau
2.
- (1) Yn rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau (Dehongli) tynnir y cyfeiriad at "Rheoliadau 2001" a'r diffiniad.
(2) Yn rheoliad 3(1)(a) o'r Prif Reoliadau (Dyletswyddau asiantaeth fabwysiadu a swyddogaethau panel mabwysiadu mewn perthynas â darpar fabwysiadydd), tynnir y geiriau "rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau 2001" a rhoi yn eu lle y geiriau "rheoliadau a wnaed o dan adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976[3]".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mehefin 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001 ("Rheoliadau Cymru") i adlewyrchu newidiadau arfaethedig i adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976 pan ddaw'r rhannau perthnasol o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i rym. Effaith y newidiadau hynny yw bod Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor 2001, y mae Rheoliadau Cymru 2001 yn cyfeirio atynt, yn peidio â bod yn effeithiol. Mae'r rheoliadau hyn yn tynnu'r cyfeiriad hwnnw a rhoi yn ei le gyfeiriad at reoliadau a wnaed o dan adran 56A o Ddeddf Mabwysiadu 1976.
Notes:
[1]
1976 p.36 ("Deddf 1976"). Mae swyddogaethau'r Gwasanaeth Mabwysiadu sydd wedi eu nodi yn adran 1 o Ddeddf 1976, y mae'r pwerau o dan adran 9(2) a (3) yn cael eu harfer mewn perthynas â hwy, wedi eu diwygio gan adran 9 o Ddeddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 (p.18) ("Deddf 1999").back
[2]
O.S. 2001/1272 (Cy.71).back
[3]
1976 p. 36. Mewnosodwyd adran 56A gan adran 14 o Ddeddf Mabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 (p.18). Bydd rheoliadau 2001, a wnaed o dan adran 56A, yn peidio â bod yn effeithiol o'r diwrnod pan ddaw i rym adran 56A newydd a gaiff eu cyflwyno gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090746 9
|