BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1713 (Cy.181)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031713w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1713 (Cy.181)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 8 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 23 Gorffennaff 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (CE) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, yn pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd a phennu gweithdrefnau ynglyn â materion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2003, deuant i rym ar 23 Gorffennaf a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995[4]), i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraffau canlynol y Rheoliadau hyn.

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "permitted sweetener", rhoddir y diffiniad canlynol - 

    (3) Rhoddir yr is-baragraff canlynol yn lle is-baragraff (c) o reoliad 2(3)  - 

    (4) Ym mharagraff (3) o reoliad 3 (gwerthu a defnyddio melysyddion) rhoddir yr ymadrodd "paragraphs (4) and (5)" yn lle'r ymadrodd "paragraph (4)".

    (5) Mewnosodir y paragraff canlynol yn union ar ôl paragraff (4) o reoliad 3  - 

Diwygiadau Canlyniadol
     3.  - (1) Bydd paragraff (2) o reoliad 3 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002[6] yn peidio â bod yn effeithiol.

    (2) Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3), i'r graddau eu bod yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u digwygiwyd hyd at, a chan gynnwys, y diwygiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud yn effeithiol.

    (3) Dyma'r darpariaethau - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123, fel y'u diwygiwyd eisoes) ("Rheoliadau 1995"), sy'n ymestyn i Brydain Fawr, drwy - 

     2. Gellir cael copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y diffiniad newydd o "permitted sweeteners" a amnewidir gan reoliad 2(2), o'r Llyfrfa (TSO), Blwch SP 29, St Crispins House, Norwich NR3 1PD. Fel arall gellir cael copïau o'r we yn www.tso.com .

    
3. Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ynglyn â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1990 p. 16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] O.S. 1995/3123, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1477, O.S. 1997/814, O.S. 1999/982, O.S. 2001/2679 (Cy..220) ac O.S. 2002/330 (Cy.43).back

[5] OJ Rhif L178, 28.7.95, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 1998/66/EC (OJ Rhif L257, 19.9.98, t.35), Cyfarwyddeb 2000/51/EC (OJ Rhif L198, 4.8.2000, t.41) a Chyfarwyddeb 2001/52/EC (OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.18).back

[6] O.S. 2002/330 (Cy.43).back

[7] O.S. 1981/1063; O.S. 1983/1211 ac O.S. 1995/3123 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

[8] O.S. 1984/1566; O.S. 1995/3123, O.S. 1995/3124 ac O.S. 1995/3187 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

[9] O.S. 1992/1978; O.S. 1995/3123 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back

[10] O.S. 1995/3187, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r heoliadau hyn.back

[11] O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[12] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090749 3


 
© Crown copyright 2003
Prepared 16 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031713w.html